Wednesday 30 October 2019

Y Beatles, The Vikings a Phortmeirion, Herald Gymraeg 30 Hydref 2019


The Vikings


Y dewis oedd, ‘Y Beatles neu’r Stones?’. Cefais fy ngeni yn 1962, felly doedd y dewis yma ddim yn golygu rhyw lawer i mi fel plentyn. Er hyn roedd copi o ‘She Loves You’ yn y cartref. Adroddwyd storiau gan fy rhieni fy mod yn dawnsio yn yr ystafell ffrynt i’r record yn ddwy oed – hynny yn 1964. Doedd dim recordiau Rolling Stones yn y cartref.

Efallai, fod fy rhieni wedi gwneud eu dewis, Y Beatles oedd hi yn ein tŷ ni. Wedyn wrth dyfu fyny mae’n debyg i George Best fod yn fwy o ddylanwad na unrhyw grwp neu ganwr pop. Hynny tan 1977, a wedyn ar b-side ‘White Riot’ gan The Clash dyma Strummer yn canu ‘no Beatles o’r Stones in 1977’. Felly ar ôl 1977 cafwyd sêl bendith Punk Rock i gasau y Beatles a’r Stones a chas berffaith am fod ‘rhy hen’ ac yn ‘amherthnasol’.

Er dweud hyn, mae’r copi o ‘She Loves You’ dal gennyf. Pallodd dylanwad Stalinaidd Punk rhyw fymryn dros y blynyddoedd a dechreuais werthfawrogi ambell i gân gan y Rolling Stones. Efallai oherwydd agweddau heriol a  gwrthryfelgar Andrew Loog Oldham fel rheolwr tueddais i fynd ochri hefo’r Stones yn hytrach nac Epstein a’r Beatles.

Ond dyma dro arall ar bethau. Yn sgil fy ngwaith yn cyflwyno’r sioe nos Lun ar BBC Radio Cymru a fel awdur llyfr i’w gyhoeddi yn 2020 yn dwyn y teitl ‘Real Gwynedd’ dyma ddechrau ymchwilio i gysylltiadau’r Beatles a gogledd Cymru. Fe fydd nifer yn gyfarwydd a’r ffaith fod y Beatles wedi aros yn y Coleg Normal ym Mangor ar gyfnod marwolaeth eu rheolwr Brian Epstein yn 1967.

Bu farw Epstein yn ddamweiniol oherwydd cymysgedd o gyffuriau. Roedd y Beatles ym Mangor i gyfarfod a Maharishi Mahesh Yogi. Roedd George Harrison yn sicr wedi dechrau dilyn trywydd llawer mwy ‘ysbrydol’. Mae pawb yn weddol gyfarwydd a’r hanes yma. Y llai cvyfarwydd sydd fwyaf o ddiddordeb i mi fel darlledydd ac awdur.



Yn ddiweddarach bu Paul McCartney draw i weld cartref Alfred Bestall ym Meddgelert. Bestall oedd yn cynllunio’r cartŵns Rupert the Bear ar gyfer y Daily Express. Gwelir cofeb i Bestall ar ochr ei fwthyn, Penlan, nepell o ganol pentref Beddgelert. Un o luniau enwocaf Bestall ‘”The Frog Chorus” ysbrydolodd McCartney i gyfansoddi ‘The Frog Song’. Digon o waith byddaf yn chwarae’r ‘Frog Song’ ar Radio Cymru.

Stori sydd llawer mwy at fy nant yw’r un am George a Paul yn gwersylla yn Harlech yn y cyfnod 1956-1958. Byddai hyn yn nyddia cynnar The Quarrymen a rhai blynyddoedd cyn llwyddiant Byd-eang y Beatles. George fu lawr i Harlech gyntaf ar wyliau hefo ei fam. Ar yr un pryd roedd criw o gerddorion ifanc yn dechrau dysgu chwarae gitars yn Harlech. Naturiol felly fod si ar led fod hogyn yn ei arddegau o Lerpwl sydd yn chwarae gitar yn aros yn y pentref a fod y gitaryddion ifanc wedi dod at eu gilydd.

Bernard Lee a John Brierley oedd dau o aelodau The Vikings Skiffle band, ynghyd a Gwyn ‘Gwndwn’ ac Aneurin Thomas. Fel mae cerddorion yn hoff o wneud, y peth nesa fydda eistedd o gwmpas yn cael ‘jam’. Cyd-chwarae gitars, cyfle i ddangos eu gallu, eu meistrolrwydd gyda chwech tant, cyfle i ddangos ffwrdd hyd yn oed.

Yn ôl Bernie, roedd George yn awyddus i wahaodd ei ffrind Paul draw i ymuno yn yr hwyl a mae’n debyg fod y ddau wedi canu hefo’r Viking Skiffle Band sawl gwaith ar lwyfan y Queen’s Hotel, Harlech yn ystod Awst 1958. Fell mae yna wirionedd i’r storiau. Fel dywedodd Bernie wrthyf ar y ffôn, ’roedd George a Paul yn aelodau o’r grwp’.

Yn ddiweddarach bu newidiadau yn aelodaeth y band a dyma’r canwr ‘Dino’ yn ymuno a’r grwp. Mewn amsewr newidiodd enw’r band i Dino & the Wildfires ac yn eu tro bu i’r Wildfires gefnogi Gerry & the Pacemakers yn Neuadd Goffa Cricieth a’r Beatles yn y Tower Ballroom, New Brighton.

Gwilym Phillips / Vikings / Dino & the Wildfires

Erbyn hyn roedd y gitarydd Gwilym Phillips o Benrhyndeudraeth wedi ymuno a’r Vikings / Dino & the Wildfires ac erbyn heddiw dim ond Gwilym a Bernie o’r grwp sydd dal hefo ni. Drwy ymholi yma ac acw rwyf wedi llwyddo i sgwrsio hefo’r ddau a wedi cael modd i fyw yn clywed am eu hanesion a helyntion hefo George, Paul a’r Beatles.

Yr hyn sydd yn ddiddorol yma yw faint o wirionedd sydd i’r storiau am y Beatles a Harlech. Gyda cerddorion mor enwog a’r Beatles mae yna dueddiad i’r storiau gael eu dyrchafu i rengoedd fytholeg a fod George a Paul wedi gwersylla ar bob lawnt yn Harlech a wedi canu ar bob llwyfan bosib.



Wrth sgwrsio hefo Gwilym, diddorol oedd cael argraff o faint o fwrlwm oedd yng ngogledd Cymru yn y cyfnod yna rhwg y 50au hwyr a’r 1960au. Roedd Neuaddau Goffa fel Penrhyn’ a Chricieth yn rhoi llwyfan i artistiaid mawr y dydd, fel Them (Van Morrison) a Billy J Kramer & the Dakotas. Amseroedd da.

Cysylltiad arall rhwng y Beatles a gogledd Cymru yw’r ffaith fod gan Brian Epstein fflat ar brydles tymor byr ym Mhortmeirion drwy ei gyfeillgarwch a Clough Williams- Ellis. Bu rheolwr Portmeirion, Meurig Jones, yn ymchwilio i’r holl hanesion am gysylltiad Clough a’r Beatles.

Gallwch glywed sgwrs hefo Meurig Jones (Portmeirion) a Gwilym Phillips (The Vikings) ar BBC Radio Cymru nos Lun 11eg Tachwedd.

https://www.bbc.co.uk/programmes/b075t6wd



1 comment:

  1. Greetings from one of the FAB 104!!

    Reading this brought back fond memories, and yes, it’s Aneurin here from sunny Dubai, where I am still alive and kicking!!
    Would love to hear from anyone from the Vikings or who were part of this circle of great friends.

    Cofion Gorrau

    Aneurin at thomas@kensingtondesign.ae

    ReplyDelete