Os di rhywun yn perfformio ar lwyfan, mae’n bwysig fod y
perfformiwr yn gwneud ymdrech i wisgo yn dda. Clywais gyngor John Robb (canwr y
Membranes a Gold Blade) yn ddiweddar wrth iddo berfformio yng ngŵyl The Good
Life Experience ym Mhenarlag. Doethineb Robb oedd “gwisgwch yn dda, a gwisgwch
gyda agwedd! Geiriau na ddylid orfod eu mynegi.
O fewn y Byd Pop Cymraeg tydi’r neges yma ddim bob amser yn
cael ei glywed. Rwyf wedi bod yn feirniadol iawn o grwpiau yn ymddangos ar
lwyfan mewn ‘cut off jeans’. Byddwn bron yn mynd mor bell ac awgrymu fod hyn yn
dangos amharch i’r gynulleidfa. Dychmygwch am eiliad, gwario arian da i weld
Bob Dylan neu’r Rolling Stones a mae Keef neu Bob ei hyn yn cerdded i’r llwyfan
mewn ‘cut off jeans’. Fydda’r Beatles neu Elvis rioed di gwneud hyn!
I’n cenhedlaeth ni (Punk Rock) mae hyn fel dychmygu’r Clash
heb ddelwedd. O ran delwedd llwyfan mae’r Clash yn sefyll allan fel grwp oedd
wedi deall pwysigrwydd sut roedd pob aelod yn edrych ar y llwyfan. Os
darllenwch ‘Llawenydd Heb Ddiwedd’, cyfrol ddiweddar yn olrhain hanes y grwp
Cyrff o Lanrwst mae’r un peth yn amlwg hefo nhw. Roedd y Cyrff yn deall
pwysigrwydd yr holl elfennau. Ymarfer cyson, dysgu a gwella, bod yn ymwybodol o
sut oedd pethau yn gweithio ar lwyfan.
Yn amlwg roedd caneuon y Cyrff yn dda (eithriadol o dda),
fel caneuon The Clash. Does dim gwadau dawn Mark Roberts fel cyfansoddwr, ond
tydi Mark rioed di siomi pobl drwy ymddangos ar lwyfan fel petae newydd fod am
dro hefo’r ci, neu’n clirio’r tŷ neu yn garddio.
Efallai i fy nghenedlaeth i gael eu dylanwadu ymhellach gan
gylchgrawn The Face. Cofiwch ein bod wedi tyfu fyny yng nghysgod gwerslyfr
Vivienne Westwood. Pob degawd roedd yna ‘youth cult’ newydd. Pob cult hefo
pwyslais ar ffasiwn. Teds, Mods, Punks, Soul Boys a dilynwyr Bowie, Two-Tone,
New Romantics. Roedd gwisgo fyny yn rhan hanfodol o’r holl beth – fel oedd y
gerddoriaeth. Partneriaeth.
Yng Nghymru, gwlad llai trefol, gwlad fwy amaethyddol, mae
rhywun yn deall nad oedd cymaint o bwyslais ar ffasiwn tu allan i’r trefi mawr.
Ac eto mae hyn yn gor-symleiddio pethau. Wrth baratoi cyfres am ‘Youth Cults’
ar gyfer BBC Radio Cymru dyma ddod ar draws Mods a Scooter Boys yn Sir Fôn a
Sir Gaernarfon. Ardaloedd gwledig – ond roedd y bobl ifanc yma yn teithio i
Wigan Casino. Sydd yn gwrthbrofi’r ddamcaniaeth fod ni yn wledig ac yn
ddi-ffasiwn yn syth.
Yn ddiddorol iawn fe ddefnyddiodd y grwp Edward H y ffasiwn
werinol a denims yn y 1970au yn fwriadol er mwyn cyfleu’r cyfuniad o roc a’r
gwerin oedd yn rhan o’u repertoire. Er i mi feirniadu hyn yn ystod cyfnod Punk,
gallaf gydnabod heddiw fod Edward H yr un mor ymwybodol o’u delwedd ac oedd Y
Cyrff. Cyfnod gwahanol dyna’r oll.
Hyd yma, y dynion sydd wedi bod dan sylw. Does dim angen ymddiheuro
achos y nhw sydd dan feirniadaeth. Tydi rhywun ddim yn gorfod trafod diffyg
delwedd Etta James, Sister Rosetta Tharpe, Aretha Franklin, Nina Simone,
Polystyrene, Neneh Cherry neu Chrissie Hynde.
A dyma droi at Alys Williams. Hi di prifleisydd y grwp
Blodau Papur. Mae nhw ar daith o Gymru mis yma a mae’r tocynnau bron a gwerthu
allan. Rwyf yn curadu’r llwyfan Cymreig yng ngŵyl The Good Life Experience ar
ran Cerys Matthews ac Osian (Osh Candelas) ac Alys oedd ein prif grwp ar y nos
Iau eleni.
Perfformiodd y ddau fel deuawd – heb y band llawn. Doedd
hyn ddim yn gyfaddawd nac yn eilradd mewn unrhyw ffordd. I’r gwrthwyneb roedd
cynildeb Osh ar y gitar a llais hyfryd Alys yn gweithio yn berffaith. Roedd
gofod cerddorol ar gyfer llais Alys. Roedd hyn yn beth da. Yn fantais o ran
cyflwyno ei dawn anhygoel.
Rhyfeddais ar eu gallu i fynd o Nina Simone i Etta James a
hynny o fewn yr un gân. Roedd Cerys yn eistedd drws nesa i mi a fel minnau wedi
gwirioni. Sylwais wedyn wrth glirio’r llwyfan fod Cerys, Alys ac Osh wedi
ymgolli mewn sgwrs. O hynny glywais, bwrdwn Cerys oedd fod hyn yn gweithio mor
dda fel deuawd y byddai’n gangymeriad mawr meddwl am hyn fel rhywbeth eilradd
i’r band llawn.
Wrth reswm bydd y band llawn, Blodau Papur, yn or-wych ar
eu taith theatrau mis Hydref yma. Does dim dadl am hynny. Ond mewn gofod bach,
hwyr y nos, mewn awyrgylch jazz roedd Alys ac Osh yn agos iawn at
berffeithrwydd pur.
Blodau Papur yw teitl y CD ar label I Ka Ching. Casgliad o
unarddeg o ganeuon soul / funk / jazz. Dychmygwch Sade ac Acid-Jazz wedi ei
gyfuno a Nina ac Etta. Mae yna ‘soul’ yn llifo drwy pob gwythïen ar y CD yma.
Yn gerddorol ac yn offerynnol mae’n CD rhyfeddol.
Cangymeriad efallai, fyddau cyfeirio at y CD fel
perffeithrwydd cerddorol – ond argian dân mae o yn agos iawn at hynny. Ella fod
o! Mae o mor, mor, agos. Agos iawn.
Petae’r cylchgrawn Face yn dal i fodoli
byddai Alys ar y clawr blaen. Bydda’r CD yn cael Adolygiad 5*****. Steil oedd
slogan mawr The Face – a dyna sydd gan Alys, Osh a gweddill Blodau Papur.
Yn dilyn llwybr bands fel 9 Bach a Gwenno yn mynd ar holl
beth yn Rhyngwladol – dyma’r cam nesa. Dyma be di ‘Soul’. Bydda Nina Simone
wrth ei bodd hefo’r CD yma.
No comments:
Post a Comment