Sunday 20 October 2019

Mantell Groucho Marx, Herald Gymraeg 16 Hydref 2019





Hon mae’n debyg fydd y golofn olaf cyn i beth bynnag sydd am ddigwydd hefo Brexit nesa – ddigwydd. Neu efallai ddim. Amser a ddengys. Mae gwallgofrwydd gwleidyddion wedi cyrraedd uchelfannau newydd. Hyd yn oed o fewn un diwrnod, o fewn oriau, mae newyddion y dydd yn gallu newid fel y tywydd ar gopa’r Wyddfa.

Yn ystod fy ieuenctyd (ffôl a diniwed) credais fod yna ffordd arall o edrych ar wleidyddiaeth. Chefais fy hyn rioed yn uniaethu a chenedlaetholdeb syml. Rhywsut wrth geisio darganfod a diffinio fy Nghymreictod teimlais fod elfennau o ddamcaniaethau Bakunin, Kropotkin neu Emma Goldman yn rhai fyddai’n gallu cael eu trawsblannu i’r ardd Gymreig.

A nawr, yn ystod fy henaint (profiad bywyd) rwyf yn dychwelyd fwy fwy at y ffyrdd yma o feddwl. Dyfyniad Graucho Marx yw’r llinell fesur bob amser. “Ni fyddwn yn ymuno ac unrhyw glwb fydda yn fy nerbyn fel aelod”. Felly gyda’r anarchwyr – dwi ddim am ymaelodi na dilyn eu ‘rheolau’. Er mor wirion y datganiad yna, mae yna hefyd wir ynddi.

Y dyfyniad cywir oedd, “I sent the club a wire stating, PLEASE ACCEPT MY RESIGNATION. I DON'T WANT TO BELONG TO ANY CLUB THAT WILL ACCEPT ME AS A MEMBER”. Anodd anghytuno a Groucho. Hiwmor yn aml yw’r arf gorau. Neu gwell chwerthin neu bydd rhywun yn crio.

Cefais wahoddiad gan Ian Bone o Class War i sefyll ar eu rhan fel ymgeisydd yn erbyn Stephen Kinnock yn sedd Castell Nedd Port Talbot, Etholiad Cyffredinol 2015. Am eiliad roedd temtasiwn. A’i dyma ddechrau ar yrfa newydd fel gwrth-wleidydd? Ond wedyn wrth bwyllo, pwyso a mesur – dyma lais Groucho yn fy narbwyllo. Am faint fyddwn yn para yn dilyn rheolau Class War? Nid yn hir.

Rhywbeth arall a fy anesmwythodd am gynnig Class War oedd iddynt son ar y ffon “it’s somewhere near Carmarthen”. Caernarfon. Carmarthen. Hmmm, ddim mor agos a hynny efallai. Tua’r un pryd roedd egin sgwrs wedi dechrau hefo uwch gynhyrchydd cerddoriaeth y BBC, Gareth Iwan, am i mi gyflwyno rhaglen gerddoriaeth ar Radio Cymru gyda cynulleidfa darged rhwng 30 a 60 oed.

Hawdd oedd gwneud y penderfyniad am gyfeiriad fy mywyd. Dyma bori drwy hen recordiau feinyl a dechrau swydd newydd yn cyflwyno’r sioe nos Lun ar Radio Cymru. Dwi dal yno. Petawn wedi dilyn y trywydd (gwrth) wleidyddol byddwn yn dlotach yn ysbrydol erbyn heddiw. Byddai pob pont dan haul wedi ei llosgi. Ac i beth? Byddai Brexit dal hefo ni.

Byddai dadlau hefo Kinnock wedi bod yn hwyl. Byddai Ian Bone a Class War siwr o fod wedi creu dramau cyfryngol ond dwi ddim yn siwr beth fydda’i wedi ei gyflawni. Rwyf yn anarchydd sydd wedi methu rhywsut. Fel cymaint arall, tydi ffurfioldeb y drefn wleidyddol ddim yn fforwm i’r eneidiau rhydd. Neu fel fydda fy hen fodryb yn dweud “mae nhw gyd yn ddiawled drwg”.

Os nad anarchydd na chenedlaetholwr -  be wyt ti? Atgoffir rhywun o eiriau Adam Ant “don’t smoke, don’t drink – what do you do?” Defnyddiaf fantell ‘anarchiaeth’ yn aml iawn wrth drafod hefo cenedlaetholwyr. Nid hawdd. Un cam i ffwrdd o fod yn ‘fradwr’ yw awgrymu nad yw rhywun yn ‘genedlaetholwr’. Fedri di ddim bod yn Gymro go iawn heb gredu mewn annibyniaeth. Ond mae modd cymeryd camau tuag at annibyniaeth neu barhau a’r broses o ddatganoli heb fod yn genedlaetholwr. Onid oes lle ar y sbectrwm Gymreig i anarchwyr ffaeledig?

Nid ceisio am ateb nac ymdrech i gyfiawnhau sydd yma. Os amlygwyd un peth gan ‘Brexit means Brexit’, does neb yn cytuno beth yw Brexit a does neb yn gwybod beth yw Brexit. Dyna ganlyniad sloganau di-sylwedd. ‘Rhyfelgri’ yw un ffurf o ‘slogan’. Dyna oedd Brexit ynde – ‘rhyfelgri’, WWII, hiliaeth, diwedd yr Ymerodraeth Brydeinig. Dyma pam fod yr holl beth mor wenwynig. Nid ffordd arall o feddwl oedd hyn ond ‘rhyfelgri’. Casineb a rhagfarn yn gyrru’r agenda.

Beth petae’r galw am annibyniaeth i Gymru yn troi yn ‘ryfelgri’? Ar y cyfan mae Plaid Cymru yn weddol glir eu bod yn arddel cenedlaetholdeb flaengar, groesawgar ac un sydd yn edrych am allan. Fel gyda’r SNP, does dim gwadu hyn. Ond mae rhai o fewn neu ar gyrion y Mudiad Cendlaethol yn trafod syniadaeth sydd i’r dde a chredaf fod angen eu herio ar frys. Heb eu hewni, mae nhw ddigon amlwg ar Twitter.

Clywais awgrym yn ddiweddar mai gwell fyddai uno gyda’r gri dros annibyniaeth a wedyn trafod y manylion ar ôl cyrraedd y nod. Dyma oedd gwendid mawr Brexit. Hmmmm. Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y syniad AUOB. All Under One Banner. Ddim diolch – dwi dim am gerdded dan yr un faner a’r dde. Cwsg-gerdded yw hyn. Cwsg-gerdded mewn i lanast.

Pryderaf am awgrymiadau diweddar Adam Price yn y Times y dylid derbyn iawndal gan San Steffan / Lloegr / Prydain am eu troseddau hanesyddol tuag at Gymru. Nid Malcolm X neu Martin Luther King sydd wrthi yma. Ar adegau fel hyn dwi’n troi yn anarchydd pur. Wrth drio dadansoddi damcaniaethau’r Dde Gymreig, y poblyddon, a’r academyddion yn aml, mae rhywun yn anesmwytho. Gwell gennyf fantell neu faner Groucho Mark.






No comments:

Post a Comment