The Vikings
Y dewis oedd, ‘Y Beatles neu’r Stones?’. Cefais fy ngeni yn
1962, felly doedd y dewis yma ddim yn golygu rhyw lawer i mi fel plentyn. Er
hyn roedd copi o ‘She Loves You’ yn y cartref. Adroddwyd storiau gan fy rhieni
fy mod yn dawnsio yn yr ystafell ffrynt i’r record yn ddwy oed – hynny yn 1964.
Doedd dim recordiau Rolling Stones yn y cartref.
Efallai, fod fy rhieni wedi gwneud eu dewis, Y Beatles oedd
hi yn ein tŷ ni. Wedyn wrth dyfu fyny mae’n debyg i George Best fod yn fwy o
ddylanwad na unrhyw grwp neu ganwr pop. Hynny tan 1977, a wedyn ar b-side
‘White Riot’ gan The Clash dyma Strummer yn canu ‘no Beatles o’r Stones in
1977’. Felly ar ôl 1977 cafwyd sêl bendith Punk Rock i gasau y Beatles a’r
Stones a chas berffaith am fod ‘rhy hen’ ac yn ‘amherthnasol’.
Er dweud hyn, mae’r copi o ‘She Loves You’ dal gennyf.
Pallodd dylanwad Stalinaidd Punk rhyw fymryn dros y blynyddoedd a dechreuais
werthfawrogi ambell i gân gan y Rolling Stones. Efallai oherwydd agweddau
heriol a gwrthryfelgar Andrew Loog
Oldham fel rheolwr tueddais i fynd ochri hefo’r Stones yn hytrach nac Epstein
a’r Beatles.
Ond dyma dro arall ar bethau. Yn sgil fy ngwaith yn
cyflwyno’r sioe nos Lun ar BBC Radio Cymru a fel awdur llyfr i’w gyhoeddi yn
2020 yn dwyn y teitl ‘Real Gwynedd’ dyma ddechrau ymchwilio i gysylltiadau’r
Beatles a gogledd Cymru. Fe fydd nifer yn gyfarwydd a’r ffaith fod y Beatles
wedi aros yn y Coleg Normal ym Mangor ar gyfnod marwolaeth eu rheolwr Brian
Epstein yn 1967.
Bu farw Epstein yn ddamweiniol oherwydd cymysgedd o
gyffuriau. Roedd y Beatles ym Mangor i gyfarfod a Maharishi Mahesh Yogi. Roedd
George Harrison yn sicr wedi dechrau dilyn trywydd llawer mwy ‘ysbrydol’. Mae
pawb yn weddol gyfarwydd a’r hanes yma. Y llai cvyfarwydd sydd fwyaf o
ddiddordeb i mi fel darlledydd ac awdur.
Yn ddiweddarach bu Paul McCartney draw i weld cartref
Alfred Bestall ym Meddgelert. Bestall oedd yn cynllunio’r cartŵns Rupert the
Bear ar gyfer y Daily Express. Gwelir cofeb i Bestall ar ochr ei fwthyn,
Penlan, nepell o ganol pentref Beddgelert. Un o luniau enwocaf Bestall ‘”The
Frog Chorus” ysbrydolodd McCartney i gyfansoddi ‘The Frog Song’. Digon o waith
byddaf yn chwarae’r ‘Frog Song’ ar Radio Cymru.
Stori sydd llawer mwy at fy nant yw’r un am George a Paul yn
gwersylla yn Harlech yn y cyfnod 1956-1958. Byddai hyn yn nyddia cynnar The
Quarrymen a rhai blynyddoedd cyn llwyddiant Byd-eang y Beatles. George fu lawr
i Harlech gyntaf ar wyliau hefo ei fam. Ar yr un pryd roedd criw o gerddorion
ifanc yn dechrau dysgu chwarae gitars yn Harlech. Naturiol felly fod si ar led
fod hogyn yn ei arddegau o Lerpwl sydd yn chwarae gitar yn aros yn y pentref a
fod y gitaryddion ifanc wedi dod at eu gilydd.
Bernard Lee a John Brierley oedd dau o aelodau The Vikings
Skiffle band, ynghyd a Gwyn ‘Gwndwn’ ac Aneurin Thomas. Fel mae cerddorion yn
hoff o wneud, y peth nesa fydda eistedd o gwmpas yn cael ‘jam’. Cyd-chwarae
gitars, cyfle i ddangos eu gallu, eu meistrolrwydd gyda chwech tant, cyfle i
ddangos ffwrdd hyd yn oed.
Yn ôl Bernie, roedd George yn awyddus i wahaodd ei ffrind
Paul draw i ymuno yn yr hwyl a mae’n debyg fod y ddau wedi canu hefo’r Viking
Skiffle Band sawl gwaith ar lwyfan y Queen’s Hotel, Harlech yn ystod Awst 1958.
Fell mae yna wirionedd i’r storiau. Fel dywedodd Bernie wrthyf ar y ffôn,
’roedd George a Paul yn aelodau o’r grwp’.
Yn ddiweddarach bu newidiadau yn aelodaeth y band a dyma’r
canwr ‘Dino’ yn ymuno a’r grwp. Mewn amsewr newidiodd enw’r band i Dino &
the Wildfires ac yn eu tro bu i’r Wildfires gefnogi Gerry & the Pacemakers yn
Neuadd Goffa Cricieth a’r Beatles yn y Tower Ballroom, New Brighton.
Gwilym Phillips / Vikings / Dino & the Wildfires
Erbyn hyn roedd y gitarydd Gwilym Phillips o
Benrhyndeudraeth wedi ymuno a’r Vikings / Dino & the Wildfires ac erbyn
heddiw dim ond Gwilym a Bernie o’r grwp sydd dal hefo ni. Drwy ymholi yma ac
acw rwyf wedi llwyddo i sgwrsio hefo’r ddau a wedi cael modd i fyw yn clywed am
eu hanesion a helyntion hefo George, Paul a’r Beatles.
Yr hyn sydd yn ddiddorol yma yw faint o wirionedd sydd i’r
storiau am y Beatles a Harlech. Gyda cerddorion mor enwog a’r Beatles mae yna
dueddiad i’r storiau gael eu dyrchafu i rengoedd fytholeg a fod George a Paul
wedi gwersylla ar bob lawnt yn Harlech a wedi canu ar bob llwyfan bosib.
Wrth sgwrsio hefo Gwilym, diddorol oedd cael argraff o
faint o fwrlwm oedd yng ngogledd Cymru yn y cyfnod yna rhwg y 50au hwyr a’r
1960au. Roedd Neuaddau Goffa fel Penrhyn’ a Chricieth yn rhoi llwyfan i
artistiaid mawr y dydd, fel Them (Van Morrison) a Billy J Kramer & the
Dakotas. Amseroedd da.
Cysylltiad arall rhwng y Beatles a gogledd Cymru yw’r
ffaith fod gan Brian Epstein fflat ar brydles tymor byr ym Mhortmeirion drwy ei
gyfeillgarwch a Clough Williams- Ellis. Bu rheolwr Portmeirion, Meurig Jones,
yn ymchwilio i’r holl hanesion am gysylltiad Clough a’r Beatles.
Gallwch glywed sgwrs hefo Meurig Jones (Portmeirion) a
Gwilym Phillips (The Vikings) ar BBC Radio Cymru nos Lun 11eg Tachwedd.
https://www.bbc.co.uk/programmes/b075t6wd
https://www.bbc.co.uk/programmes/b075t6wd