Wednesday 26 June 2019

Cwestiwn Da (Archaeolegol) Herald Gymraeg 26 Mehefin 2019 Rhys Mwyn





A dyma’r haf wedi dod a’r tymor archaeoleg wedi ail ddechrau. Does dim gwell na bod allan yn yr awyr iach yn cloddio. Efallai fod yna gymhariaeth hefo dringo mynyddoedd neu garddio, neu reidio beic neu rhedeg trawsgwlad – mae rhywun yn gallu ymgolli. Tydi archaeoleg ddim yn rhywbeth mae rhywun yn gallu ‘hanner ei wneud’. Rhaid ymroi i’r broses.

Un o fy hoff ddywediadau yw ‘cwestiwn da!’. Yr hyn a olygir go iawn hefo hyn, yn ogystal a’r ffaith ei fod yn gwestiwn da go iawn yw fod yr ‘ateb’ yn llai amlwg. ‘Cwestiwn da’ yw ffordd arall o ddweud ‘da ni ddim yn siwr’, neu ‘da ni ddim yn gwybod’. A does dim o’i le hefo hynny. Gwell cyfaddef nad ydym yn siwr na malu awyr hefo damcaniaethau gwirion.
Peth anodd yw cyfaddef nad ydym yn siwr. Dyma’r ffordd orau o sicrhau dim sylw yn y papurau newydd ac ar y cyfryngau. Dim penawdau trawiadol fel ‘the new Stonhenge’. Achos penawdau fel hyn sydd yn denu sylw. Heb os. Iawn os di’r penawdau yn weddol gywir. Iawn os di’r cynnwys wedyn yn egluro pethau. Ond efallai ddim mor ‘iawn’ os di’r holl beth yn hollol gamarweiniol ac yn ddi-sail.

‘The New Stonehenge’ oedd y penwad a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwaith cloddio diweddar o amgylch Bryn Celli Ddu. Rydym yn gyfarwydd a’r siambr gladdu cyntedd Neolithig (passage grave) yn yr arddull Wyddelig sydd yn dyddio oddeutu 3100 cyn Crist. Dyma un o’r henebion amlycaf ar Ynys Môn ac yng ngogledd Cymru ond tan y gwaith cloddio dros y bedair mlynedd ddwethaf ychydig o ddealltwriaeth oedd yna go iawn am y dirwedd hanesyddol a chynhanesyddol o amgylch y siambr gladdu.

Bellach rydym yn gwybod fod yna lawer mwy o safleoedd yn bodoli yn y dirwedd yma oedd wedi ei amgylchu gan dir gwlyb – yr Afon Braint ar un ochr ac afon cynhanesyddol arall i’r gogledd. Rhaid dychmygu Bryn Celli Ddu yn eistedd ar ‘ynys’ gyda tir gwlyb o amgylch a nid y tir amaethyddol wedi draenio rydym yn ei weld heddiw.

I’r gorllewin o’r siambr claddu rydym ar ein trydydd tymor o gloddio carnedd gladdu Oes Efydd (ring cairn). A dyma lle mae’r gymhariaeth a thirwedd Côr y Cewri (Stonehenge). Bydda oleiaf mil o flynyddoedd rhwng codi siambr gladdu Bryn Celli Ddu a chodi’r garnedd gladdu. Bryn Celli yn perthyn i’r Neolithig – yr amaethwyr cynnar a’r garnedd gladdu yn perthyn i’r Oes Efydd – amaethwyr oedd bellach yn defnyddio metal.

A’i son am dirwedd gladdu sanctaidd mewn defnydd dros gyfnod hir o amser yda ni felly yma ym Mryn Celli Ddu? Er bod mil o flynyddoedd oleiaf rhwng codi’r ddau gofadail byddai adeiladwyr y garnedd Oes Efydd yn hollol ymwybodol o’r siambr gladdu Neolithig. Bydda’r siambr a’r twmpath drosto yn dal i sefyll – yn hollol weladwy!

A mae llawer mwy i’r dirwedd cynhanesyddol yma. Saif dwy faenhir o fewn tafliad carreg i Fryn Celli Ddu. Ar greigiau naturiol o amgylch yr ardal cawn gelf (rock art) cynhanesyddol – y cafn-nodau neu ‘cupmarks’ wedi eu naddu i’r graig yn ystod y Neolithig / Oes Efydd. Credir hefyd fod carneddau claddu eraill o dan y pridd. Fel gyda Côr y Cewri rydym yn son am dirwedd cynhanesyddol a nid un cofadail bach ar ben ei hyn.



Safle arall lle mae ambell gwestiwn yw Llys Dorfil yng Nghwm Bowydd, Blaenau Ffestiniog. Dan ofal Bill Jones a chriw lleol o archaeolegwyr brwd, dyma’r ail dymor o gloddio yn Llys Dorfil. Awgrymir yr enw ‘llys’ fod yma adeilad hynafol pwysig. Beth bynnag sydd yn cael ei gloddio yma dwi’n weddol sicr ei fod yn fwy na hafoty arferol. O ble daeth yr enw ‘Llys Dorfil’?
Wrth edrych yn fanwl ar yr adeilad gallwn weld ei fod wedi ei derasu ar ymyl y bryn – mae sawl llawr i’r adeilad sydd yn wahanol iawn i’r hafotaiu a thai llwyfan (platform houses) canoloesol arferol. Heb os mae Llys Dorfil yn adeilad o statws uwch gyda waliau sychion sylweddol ac yn wir ymddengys fod dwy wal sylweddol yn amgylchu neu yn rhan o’r adeilad.
A’i adeilad a oedd wedi ei amddiffyn sydd yma felly? A’i llys neu neuadd statws uwch o’r canoloesoedd sydd yma yng Nghwm Bowydd. Os mai llys oedd yma – pwy oedd Dorfil? 

Cwestiynau cwestiynau! Cawn awgrym arall bosib o statws uwch y safle gyda’r stepiau sydd yn arwain i mewn i’r adeilad a’r ffaith fod teras bychan o flaen y tŷ– sgwn’i os mai yma oedd yr ardd llysiau?



Dyma’r ail dymor hefyd i mi gael ambell ddiwrnod yn cloddio yma. Dwi’n gorfod gwneud y cloddio rhwng ddyddiau o waith cyflogedig – felly ran amla gwaith gwirfoddol yw cael bod yn y gwynt a’r glaw a’r baw gyda fy nhrywal bach. Llynedd fe weithiais ar gerrig gyfochrog a all fod yn gist gladdu.

Byddai cist gladdu fel hyn yn fwy tebygol o ddyddio o’r Oes Efydd. Saif y gist o fewn 5 medr i adeilad y llys. Oes cysyylltiad? Ydi hyn yn gyd-ddigwyddiad? Neu yd ani yn edrych ar direwdd hanesyddol aml-gyfnod – sydd yn ddigon rhesymol.

Cwestwin da medda Mr Mwyn! Fel soniais uchod – rhaid ymwneud a’r broses archaeolegol – a rhaid bod yn gofyn cwestiynau ac yn herio damcaniaethau yn barhaol. Dyna’r pwynt – gofynnwch y cwestiwn gwirion. Gofynnwch gwestiynau – tydi’r ateb ddim mor hawdd bob tro ond y cwestiynu yw’r peth pwysig!

No comments:

Post a Comment