Saturday 1 June 2019

Llafar Gwlad 143 Siambrau Gladdu Sir Benfro




“Pembrokeshire must certainly have been a land of the Druids; for no county in Wales can boast so many cromlechs” Tegid (1847)

Anodd gwybod weithiau beth yw’r geiriau Cymraeg neu’r disgrifiad addas am ‘roadtrip’. Rwyf yn meddwl am Kerouak a’i gyfrol On the Road neu llyfrau’r seicoddaearyddwr Peter Finch, The Roots of Rock from Cardiff to Mississippi and Back Again. Yn yr ysbryd yma y teithiais am Sir Benfro gyda’r cerddor ‘Southern Soul’ a’r artist Jeb Loy Nichols.

A Jeb yr Americanwr bellach wedi ymgartrefu yn fy hen gynefin yng ngogledd Sir Drefaldwyn dyma gynnig y byddai cael ei ddehongliad o siambrau claddu Sir Benfro yn gwneud delwedd clawr addas ar gyfer fy nghyfrol nesa ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch, Cam i’r Deheubarth i’w gyhoeddi 2019.

Gyda’r cyfrolau hyd yma a hon ar fin ei chyhoeddi rwyf yn gweithio fy ffordd o amgylch Cymru yn raddol bach a roedd cael cwmni Jeb yn bleser pur ar ein ‘roadtrip’. Fy mwriad bob amser gyda artistiaid y cloriau yw ceisio cael dehongliad gwahanol neu olwg arall ar bethau gan roi rhyddid llwyr i’r artist.

Rwyf mor gyfarwydd a’r siambrau claddu, peth braf yw cael sgwrs hefo rhywun sydd ddim yn archaeolegydd – ac yn wir i chi, mae sgwrs fel hyn o hyd yn arwain at drafodaeth ddiddorol os nad syniadau newydd.

Dyma ymweld a siambrau claddu Pentre Ifan, Coetan Arthur, Carreg Sampson, Mathry a Llech y Trybedd, Tre’r Wyddel gyda Jeb. Bydd delweddau Jeb i’w gweld ar glawr ac oddifewn i’r gyfrol nesa.



Cyrhaeddodd amaethyddiaeth Ynysoedd Prydain oddeutu 4000 cyn Crist o Ewrop ac wrth i’r amaethwyr cynnar sefydlu ffermydd parhaol a dechrau dod yn ‘perthyn i le’ fe ddatblygodd mewn amser yr awydd i dddatgan hynny yn y dirwedd. Erbyn ail hanner y 4dd mileniwm dechreuwyd adeiladu cofadeiladau (cromlechi) sef siambrau claddu cymunedol a oedd yn fodd efallai i gadarnhau neu ddatgan perchnogaeth / fffiniau ar dir a/neu yn fodd o ddathlu a chofio lle bu eu teulu / cyn-deidiau yn byw a ffermio dros y canrifoedd blaenorol.

Awgrymir gan nifer o archaeolegwyr, gan gynnwys Sian Rees (1992) yn ei llyfr Dyfed (Cadw), ei bod yn debygol fod trigolion y wlad cyn amaethyddiaeth, sef y bobl Mesolithig (8000-4000cyn Crist), wedi dechrau cadw a chynnal a datblygu rhyw fath o drefn ar y tir yn barod erbyn diwedd y cyfnod Mesolithig ac efallai wedi dechrau ar y broses o fod yn fwy sefydlog er mai hela, pysgota a hel bwyd oedd y drefn o dydd i ddydd. Defnyddir y gair ‘mabwysiadu’ ar gyfer y broses yma o newid at amaethu fel ffordd o fyw – sef fod y trigolion Mesolithig yn mabwysiadu yr arfer newydd yma o ffermio ac aros mewn un lle ac efallai mai nifer gymharol fechan o amaethwyr groesodd o Ewrop gyda gwenith, barlysyn, gwartheg defaid a geifr.

Heddiw, ram amla, gweddillion y siambrau claddu yn unig sydd wedi goroesi – a dyma a elwir yn gromlech, sef y meini oedd yn ffurfio y siambr gladdu. Ar y cyfan, wedi hen ddiflanu dros y canrifoedd drwy’r broses amaethyddol o glirio a symud pridd a cherrig mae’r carneddau neu dwpmathau fyddai wedi gorchuddio’r siambrau claddu. Weithiau gellir gweld olion neu ffurf y garnedd ar y ddaear drwy edrych yn ofalus, efallai bydd hyn yn ymddangos fel tir ychydig bach yn uwch na gweddill y tir o amgylch y gromlech.

Goroesodd y carneddi yn well yn yr ucheldiroedd a gwelwn engraifft dda o garnedd gerrig sydd wedi goroesi dros siambrau gladdu Carneddau Hengwm yn Ardudwy (SH 613205) ac efallai un o’r ychydig dwmpathau i oroesi dros siambr gladdu yn Bryn yr Hen Bobl ar stad Plas Newydd, Ynys Môn (SH 518690) – gyda llaw mae Bryn yr Hen Bobl ar dir preifat a ni ddylid ymweld heb ganiatad.



Wedi diflannu hefyd mae’r tai pren hirsgwar lle byddai’r trigolion Neolithig wedi byw a dim ond drwy’r broses archaeolegol mae modd dod o hyd i dai o’r fath bellach a hynny ran amla bron drwy ddamwain. Dyma un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin sydd yn cael ei ofyn pan rwyf yn tywys pobl o amgylch y siambrau claddu, “lle roedd y bobl yn byw felly?”.
Esboniaf fod y tir o amgylch y siambrau claddu wedi cael ei amaethu a mae’n rhaid fod y trigolion yn byw yma yn y cyffiniau neu yn weddol agos. Dychmygwn ffremydd bychain a chaeau cysylltiedig rhwng coedwigoedd.

Wrth archwilio’r dirwedd o amgylch siambrau claddu Trefignath ar Ynys Môn canfuwyd olion tŷ Neolithig cynnar oedd yn gorwedd ar yr un llinell ac un o’r siambrau claddu felly awgrymir fod y tŷ wedi ei godi yn fwriadol ar linell y siambr rhyw 97 medr i ffwrdd (Kenney, 2007). 

Awgrym Jane Kenney o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yw fod y siambr yn gynharach a fod y tŷ wedi ei godi i gyd fynd a llinell y siambr. Felly dyma un engraifft lle roedd pobl yn byw yn gymharol agos at siambr gladdu – yn sicr yn yr un dirwedd.
Fel arfer mae’n anodd gwybod pa mor agos i’r siambrau claddu roedd pobl yn byw gan and oes olion tai yn cael eu canfod.  Yn yr un modd heb archwilio’r dirwedd o amgylch siambr gladdu anodd dweud os oedd y siambrau yn ganolog o fewn y gymuned neu a’r gyrion ffermydd neu dir amaethyddol?

Gan fod fframiau pren y tai wedi hen bydru, dim ond drwy gloddio archaeolegol a chael hyd i dyllau pyst ar ffurf adeilad hirsgwar a llestri pridd neu offer callestr Neolithig mae modd awgrymu lle roedd y tai. Engraifft gwych o hyn yn ddiweddar yw ffurf neu gynllun y pedwar tŷa ganfuwyd ar safle ysgol newydd Llanfaethlu, Ynys Môn, gan gwmni CR Archaeology. Heb y cloddio archaeolegol cyn codi’r ysgol newydd fydda na neb wedi ‘darganfod’ y tai yma.

Cawn hyd i olion nifer o siambrau claddu Neolithig yng ngogledd Sir Benfro yn ardal Dyffryn Nyfer sydd heddiw oddifewn i ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Rhed Afon Nyfer i’r môr ger Trefdraeth ac o safle cromlech Pentre Ifan ychydig i’r gogleddol o Garnedd Meibion Owen mae rhywun yn edrych draw dros y dyffryn yma. Yn Nhrefdraeth mae cromlech fechan Carreg Coetan Arthur a safle arall gyfagos o’r enw Cerrig y Gof, ger Nanhyfer mae siambr gladdu Trellyffaint a wedyn yn Nhrewyddel (Moylgrove) cawn gromlech Llech y Dribedd (Llech y Trybedd).

Rhaid fod hon yn ardal brysur o ran amaethu yn y cyfnod Neolithig yn enwedig o ystyried yr agostarwydd at yr arfordir gorllewinol lle tueddai bobl ymgartrefu a mae’r nifer o siambrau claddu yn Sir Benfro yn dyst i’r ffaith fod y traddodiad yma o gladdu cymunedol wedi hen sefydlu yn y rhan yma o’r byd yn ystod ail hanner y bedwaredd mileniwm cyn Crist.

Cyhoeddir Cam i’r Deheubarth gan Gwasg Carreg Gwalch yn ystod 2019



No comments:

Post a Comment