Chwarel Cilgwyn 1932
John Richard Thomas ail o'r chwith rhes gwaelod
Dros y pythefnos dwethaf rwyf wedi cael y pleser o gloddio
gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ar dyddynnod chwarelwyr Pen y Bryn
sydd yn gorwedd o fewn chwareli llechi Dorothea, Dyffryn Nantlle. Efallai bydd
rhai o ddarllenwyr yr Herald Gymraeg yn ymwybodol o’r ffaith fod fy nhaid,
Morgan Thomas wedi bod yn chwarelwr yng Nghilgwyn a Phen yr Orsedd. Ganed fy
nhad ar fynydd Cilgwyn, ym Mhen-ffynnon-wen.
Er i mi gael fy magu yn Sir Drefaldwyn, yn fab i athrawon,
mae’r cysylltiad teuluol gyda Cilgwyn yn rhywbeth roeddwn yn ymwybodol ohonno
dros gyfnod fy magwraeth alltud ym mwynder Maldwyn. Bellach fel un o
ddinesyddion Caernarfon a fy nhad wedi dychwelyd i fyw i Garmel mae’r cysylltiad
teuluol a’r cysylltiad chwarelyddol yn fymryn cryfach.
Ond doedd yr hyn ddigwyddodd wrth gloddio yn y tyddynnod
ger hen ffermdy Pen y Bryn yn ddim llai na rhywbeth hollol anisgwyl. Fel arfer
gyda’r gwaith archaeoleg mae rhywun yn magu hyder a sgiliai cloddio drwy
brofiad ymarefrol, drwy wrando a bod yn barod i ddysgu. Does gan y teulu fawr o
gysylltiad na pherthnasedd a’r profiad archaeolegol go iawn.
Yn ystod yr wythnos gyntaf o gloddio, roedd pobl ifanc
Dyffryn Nantlle, fel rhan o gynllun ‘Treftadaeth Disylw’ sydd yn rhoi cyfleoedd
i ieuenctyd ymwneud a’r maes archaeoleg, wedi clirio’r llysdyfiant ar graig
naturiol sydd ger y tyddynnod. Canfuwyd graffiti o’r 19eg ganrif ar y graig.
Graffiti wedi ei naddu, a’r tebygrwydd yw fod yr enwau neu’r llythrennau yn
gysylltiedig a’r rheini oedd yn byw yn y tyddynnod.
Carreg Fedd JRT
Y dirgelwch mawr oedd y llythyren ‘I fawr’ gyda llinell yn
ei chanol (gweler llun). A dyma’r cysylltiad teuluol. Roedd cof plentyn gennyf
am garreg fedd fy hen ewythr John Richard Thomas, Cilgwyn. Roedd JRT yn frawd i
fy nain. Rwan dim ond ei brif lythrennau oedd ar y garreg fedd hynod hon a
roedd yr ysgrif yn darllen IRT gyda llinell ar draws yr I yn hytrach na JRT fel
bydda rhywun wedi ei ddisgwyl ar gyfer John Richard.
Felly wrth i’r archaeolegwyr grafu pen am arwyddocad y
lythyren od, llythyren yn gysylltiedig a rhai ysgrifau crefyddol a hyd yn oed
symbol Tsieineaidd cofiais am yr hen garreg fedd. Digon o waith fod cysylltiad
Tsieineaidd a chwareli Dyffryn Nantlle a llai tebygol fyth yw fod rhyw gwlt
crefyddol wedi bodoli yma yn Norothea yn y 19eg ganrif. Dyma dynu llun y garreg
fedd a chynnig esboniad.
Wrth drafodd y J wedi ei naddu fel I fawr gyda llinell ar ei
thraws, daeth yn weddol amlwg yn weddol sydun a dweud y gwir nad oedd fawr o
neb wedi dod ar draws y symbol yma o’r blaen. Gofynwyd y cwestiwn os oedd hyn
yn rhywbeth arbennig i Ddyffryn Nantlle? Hyd yma ni chafwyd ateb i hyn.
John Richard Thomas 1903-1939
Ond yr hyn sydd yn sicr yw fod John Richard Thomas, fy hen ewythr
wedi cael ysgrif ar ei garreg fedd yn darllen IRT am JRT. Rydym yn gwybod pwy
oedd John Richard. Mae lluniau ohonno ym meddiant y teulu. Bu’n gweithio yng Nghilgwyn
yn y chwarel ond oherwydd fod ganddo nam ar ei goes mae’n debyg ei fod yn
gwneud gwaith glanhau yn y siediau yn hyrach na gweithio ar wyneb y graig. Bu
farw yn ddyn ifanc yn 34 oed.
Rhywbeth arall pwysig gafodd ei ddatgelu drwy’r gwaith
cloddio yn y ‘barics’ oedd fod chwarelwyr Dyffryn Nantlle hefyd yn cerfio
llechi yn addurnedig ar gyfer llefydd tân. Cafwyd hyd i ddau ddarn o lechan
wedi eu cerfio a chylchoedd consentrig. Dyma’r math o gerfiadau sydd mor
gyffredin yn Nyffryn Ogwen. Does ond rhaid darllen llyfr Gwenno Caffell, LLechi
Cerfiedig Dyffryn Ogwen (1983). Eto ychydig glywais dros y blynyddoedd am
gerfiadau o’r fath yn ardal Cilgwyn.
Does dim cof gennyf fod unrhyw gerfiadau llechi gan y
teulu. Unwaith eto dyma ddangos gwerth cloddio archaeolegol. Drwy gloddio
tyddynnod chwaraelwyr Pen y Bryn dyma ddangos nad yn Ogwen yn unig oedd y
cerfiadau. Er i mi dynnu coes fod hyn yn dystiolaeth bosib o rhywyn ym mudo o Fethesda
i Dalysarn mae’n debyg mai tystiolaeth o gerfiadau Nantlle fyddai rhain.
Rhywbeth arall pwysig iawn ddaeth yn amlwg o astudio Cyfrifiad
1871 yw mai teuluoedd oedd yn byw yn nhyddynnod Pen y Bryn. Nid ‘barics’ yw’r
term cywir ar eu cyfer felly. Nid chwaraelwyr yma ar gyfer yr wythnos waith ond
teuluoedd yn byw yma yn barhaol. Hollol wahanol felly i’r ‘Barics Môn’ yn
chwarel Dinorwig.
Saif y tyddynnod ar ben craig ger hen ffermdy Pen y Bryn. Adeiladau
amaethyddol oedd rhain yn wreiddiol, wedi eu haddasu i fod yn gartrefi i’r
chwarelwyr a’u teulu wth i chwareli Pen y Bryn ddatblygu ar ddiwedd y 19eg
ganrif. Bu pobl yn byw yma hyd y 1930au. Ategaf y pwynt – tyddynnod chwarelwyr
nid ‘barics’. Darganfyddiad pwysig sydd yn taflu goleuni ar hanes chwareli
Dyffryn Nantlle.
Pencraig oedd yr enw yn ôl John Pen y Bryn sydd yn dal i
ofalu am y tir yma. Heb os mae’r enw Pencraig yn ddisgrifiad addas o’r safle.
Dim yn aml mae gwreiddiau teuluol rhywun yn dod yn berthnasol
i’r broses archaeolegol. Yn amlach na pheidio mae rhywun yn cloddio safleoedd
canol oesol neu cyn-hanesyddol neu Rufeinig. Y tro yma cefais brofiad gwahanol
iawn. Dyddiau yn cloddio allan yn yr awyr iach yw’r dyddiau gorau ond mae cael
cysylltiad a fy nghyn-deidiau wedi gwneud y gwaith cloddio ym Mhen y Bryn yn
arbenig iawn, yn fyth gofiadwy ac i raddau yn emosiynol.
No comments:
Post a Comment