Mae cân gan Steve Eaves o’r enw ‘Nigger Boi John Boi Cymro’.
Ymddangosodd y gân yn wreiddiol ar yr albym Sbectol Dywyll. Efallai mai’r
disgrifiad gora o’r gân yw ‘beltar’, tempo cyflym, cân brotest, cân angerddol.
Atgoffir rhywun o Springsteen ‘Born to Run’.
Bellach mae’r gair ‘nigger’ yn annerbyniol – hyd yn oed
mewn cân brotest. Dwi’n gwybod hyn achos cha’i ddim chwarae’r gân ar fy sioe
radio nos Lun ar BBC Radio Cymru. Nid fy mod yn cwyno o gwbl am hyn – mae’r oes
wedi newid a’r ffin wleidyddol gywir wedi symud gyda’r amser. Ydi – mae hi’n gân
dda ond dwi ddim yn siwr ynglyn a’r gair ‘N’ – hyd yn oed mewn cân brotest a
chyd-destyn gwleidyddol.
Deallaf y cyd-destyn gwleidyddol i raddau, fe wnaeth y
Trwynau Coch rhywbeth tebyg gyda’r gan ‘Niggers Cymraeg’. Engraifft arall o gân
angerddol ac alaw fachog ond mae’r un gair yna yn golygu na fydd modd ei
chwarae.
Mae’n debyg y bywddwn i yn chwarae’r caneuon petae polisi’r
BBC yn caniatau a jest gweld os bydd yna ymateb. Doedd neb yn poeni yn ormodol
am y geiriau pan rhyddhawyd y caneuon yn wreiddiol. Byddwn yn cyfiawnhau eu
chwarae drwy ddadlau fod y caneuon yn perthyn i gyfnod. Ac yn amlwg nid oes
unrhyw sentiment na agweddau hiliol yn perthyn i’r caneuon – i’r gwrthwyneb.
Felly – dyma drio rhoi fy sylwadau o fewn erthygl ar gyfer
yr Herald Gymraeg. Os am dderbyn y ddadl fod y caneuon yn perthyn i’w cyfnod
does dim modd eu golygu – dyma fel y cyfansoddwyd nhw. Gallwn restru caneuon
protest Cymraeg lle mae’r cyd-destyn gwleidyddol wedi newid ond tydi hynny ddim
yn reswm dros beidio eu chwarae.
Gall rhywun ddychmygu cân fel ‘Croeso Chwedeg Nain’ yn dod
yn berthnasol unwaith eto petae William yn cael ei arwisgo yng Nghastell
Caernarfon. Mae pethau mwy gwallgof wedi digwydd. Neu beth am gân fel ‘Dŵr’ Huw
Jones neu ‘Dryweryn’ Meic Stevens – pwy fydda wedi disgwyl i’r murlun ‘Cofiwch
Dryweryn’ yn Llanrhystyd ddod yn rhywbeth mor ddadleuol ac amserol yn 2019?
Fel rhywun dyfodd fyny yn y cyfnod Punk – dwi ddim yn
rhywun sydd ynj cael ei ddychryn yn hawdd. I raddau felly tydi geiriau caneuon
ddim yn debygol o fod yn achosi sioc na phoen meddwl. Ond hefyd fel rhywun
dyfodd fyny yn y cyfnod Punk roedd neges grwpiau hiliol asgell dde fel
Skrewdriver yn wrthyn – roedd pawb yn deall y gwahaniaeth rhwng corddi’r
dyfroedd a hiliaeth.
Byddai neges Tom Robinson am fod yn falch o fod yn hoyw neu
neges Steel Pulse yn gwrthwynebu’r Ku Klux Klan bob amser yn trechu casineb
rhai fel Skrewdriver. Byddai Tom Robinson neu Steel Pulse yn eu trechu yn
gerddorol hefyd.Bach iawn oedd dylanwad rhai fel Skrewdriver mewn gwirionedd –
a diolch byth am hynny.
Un peth fydda yng nghefn fy meddwl gyda hunan sensoriaeth
yw fod angen parchu deallusrwydd y gynulleidfa. Weithiau mae angen gwneud y
gynulleidfa feddwl. Ond tydi trio dychryn y gynulleidfa jest er mwyn eu dychryn
ddim yn dacteg ddigon da bellach. Dyma
rhywbeth mae colofnwyr yn ymrafael ac e yn gyson ynde – pa bwrpas sgwennu
colofn?
Efallai mai’r peth sydd yn fy ‘mhoeni’ fwyaf am ddefnydd o’r
gair ‘N’ gan grwpiau Cymraeg yw ein bod ar y cyfan yn groenwyn. Gadewch y gair ‘N’
i Chuck D neu grwpiau rap fel NWA. Gadewch i bobl groenddu benderfynu ar pryd a
lle mae modd defnyddio’r gair. Ru’n fath gyda ‘queer’ – gadewch hynny i bobl
hoyw benderfynu pryd mae’r defnydd yn briodol.
Cyfeiria Steve Eaves yn y gân fod angen rhywun i roi sglein
ar y sgidia a fod angen rhywun i lanhau y toiledau. Yn sicr roedd hyn yn
brofiadau cyffredin i’r dyn du dros y blynyddoedd a parhau mae’r arfer o gyflog
isel a halwiau israddol am lanhau’r toiledau i’r mewnfwudwyr tlotaf boed rheini
o ddwyrain Ewrop, y Phillipines neu ganoldir America.
Ond nid dyna profiad y Cymry ar y cyfan. Dyna lle efallai
byddwn yn anghytuno hefo Steve neu’r Trwynau – beth bynnag sydd wedi digwydd i ni
Gymry, Welsh Not, Tryweryn, Streic Fawr Penrhyn, Aberfan – tydi hynny ddim yr
un profiad a chaeswasiaeth. Tydi’n ‘shit’ ni ddim cweit mor ddrwg a beth
ddigwyddodd i’r dyn du dros y canrifoedd diweddar.
Gan droi yn ôl at y caneuon. Penderfyniad yr artist a’r
cyfansoddwr fyddai unrhyw olygu neu newidiadau. Er mwyn eu chwarae ar y radio byddwn
yn dweud wrth Steve a’r Trwynau unai i ail recordio’r gair hefo rhywbeth arall
neu i wneud be mae nhw’n alw yn ‘radio edit’. Fy nadl i yw fod y caneuon mor
dda – mae’n biti na chawn eu chwarae.
Anghyfforddus fydda rhywun hefo sensoriaeth ac ymyraeth –
ers pryd mae unrhyw gelf a chreadigrwydd i fod i gydymffurfio? Does dim ateb
gennyf go iawn. Dwi ddim yn trio cynnig ateb chwaith – jest rhoi sylwadau ar bapur
er mwyn colofn papur newydd.
Fy ffrind Owen Cob, dyn a brwdfrydedd am y ‘Blues’ sydd
wedi fy ail-gyflwyno i Steve Eaves. Dwi newydd brynu’r Box Set ‘Ffoaduriad’ ac
rwyf wrth fy modd yn pori drwy ganeuon Steve – o’r blues i’r gwerinol. Heb os
dyma artist Cymraeg sydd wedi cadw ei hyn allan o’r hwrli bwrli, cadw hyd
braich o unrhyw sîn neu ffasiwn ac o ganlyniad wedi creu corff o waith, corff o
ganeuon sydd yn gweiddi am gael eu ail darganfod.
Edrychaf ymlaen i chwarae mwy o Steve Eaves ar nosweithiau
Llun ar y radio.
No comments:
Post a Comment