Thursday 18 April 2019

Cofiwch Dryweryn, Herald Gymraeg 17 Ebrill 2019





Felly mae wal Cofio Dryweryn ger Llanrhystyd wedi cael ei fandaleiddio eto dros y penwythnos. Y tro yma mae rhywun wedi ymdrechu i chwalu rhan o’r wal. Tro’r blaen roedd rhywun wedi peintio ‘Elvis’ dros Cofiwch Dryweryn. Roeddwn yn teithio o Langurig drosodd am Aberystwyth yn ddiweddar ar yr A44 a sylwais ar y graffiti ELVIS ger Eisteddfa Gurig.

Mae’n debyg fod y graffiti yma yn deillio o slogan yn cefnogi ‘ELLIS’ sef Islwyn Ffowc Elis fel ymgeisydd Plaid Cymru yn 1962. Heddiw mae’r slogan wedi ailbeintio sawl gwaith. Ellis gyda dwy L wedi troi yn Elvis. Yn achos paentiad Eisteddfa Gurig tydi’r slogan ddim hyd yn oed ar yr un graig ac yr oedd yn 1962.

Rwyf wedi trafod y phenomenon hyn o ailbeintio murluniau yn ddiweddar ar gyfer cyfrol newydd ‘Cam i’r Deheubarth’ (Gwasg Carreg Gwalch).  Dyma bwt o beth sgwenais ar gyfer y gyfrol:

Gallwn ddadlau mai’r wal hon a’r murlun ‘Cofiwch Dryweryn’ arni yw’r wal fwyaf eiconaidd yng Nghymru. A dweud y gwir, does fawr o gystadleuaeth mewn gwirionedd o safbwynt hanes gwleidyddol Cymru. Peintwyd y slogan gwreiddiol yn fuan ar ôl boddi Capel Celyn ger y Bala i greu cronfa ddŵr ar gyfer Dinas Lerpwl yn 1965.
Mae’n debyg mai’r diweddar awdur Meic Stephens (tad y DJ a’r cyflwynydd Huw Stephens) oedd yn gyfrifol am baentio’r slogan yn y lle cyntaf. Yr hyn sy’n gwneud yr archaeoleg ychydig yn fwy diddorol yw bod y murlun wedi ei ail-baentio sawl gwaith ers 1965. Nid dyma’r paent gwreiddiol. ond does dim ots am hynny. Mae’r wal, y stori a’r graffiti yn ychwanegu at y cyfanwaith yn yr achos hwn.
Fandaleiddiwyd y wal yn 2008 ac yn 2010, ac yn 2008 ychwanegwyd y geiriau ‘Anghofiwch Dryweryn’ arni. Yn 2010 paentwyd tag graffiti dros y slogan gan orfodi rhywun ar ran Cymdeithas yr Iaith i ailbaentio’r slogan gan ychwanegu cofnod o’r flwyddyn. Bu hefyd wyneb yn gwenu (Smiley Face), delwedd a gysylltir â’r diwylliant Rêf, ar ben y murlun ar un adeg.
Yn 2017 paentiwyd arwydd Eryr Eryri (arwydd y Free Wales Army) ar y wal, ac ychwanegwyd ail linell: ‘Cofiwch Aberfan’. Felly nid cofeb statig yw hon o bell ffordd. Ydi, mae’r wal ei hun yn wreiddiol ond mae’r paent gwreiddiol wedi hen fynd. Ond mae’r slogan yn beth byw – sy’n rhywbeth anarferol yn y byd archaeolegol.
Gan fod y murlun yn un mor eiconaidd efallai mai ond mater o amser oedd hi cyn i rywun ei herio o fewn cyd-destun diwylliant Cymraeg a Chymreig. Gwnaeth y grŵp Y Ffug o ardal Crymych hynny drwy ryddhau CD o’r enw ‘Cofiwch Dryweryn’ (CD058J) yn 2014 ar Label RASP, un o is-labeli Cwmni Fflach o Aberteifi. Er fod teitl y CD yn parchu’r hanes traddodiadol bu’r grwp ifanc yn ddigon craff i sicrhau sylw ar y cyfryngau drwy drydar ‘Anghofiwch Dryweryn’ o gyfrif Trydar Y Ffug (@BandYFfug).
Ar y cyfrif Trydar hwn, ymddanosodd llun o’r pedwarad pync yn dangos eu penolau o flaen y murlun, gan godi storm fechan yn y gwpan de, ys dywed y Sais. Ar glawr mewnol CD Y Ffug mae lluniau o’r murlun a dynnwyd yn 2013, pan oedd arwydd y FWA o dan y geiriau ‘Cofiwch Dryweryn’. Rhyfedd meddwl bod lluniau ar glawr CD grŵp pop Cymraeg yn gofnod o gyfnod penodol yn hanes y murlun”. (Rhys Mwyn / Carreg Gwalch 2019)



Ysgrifenais hyn ôll cyn y difrodi diweddar a bu rhaid cynnwys ON bach ar ddiwedd y darn am wal Dryweryn yn y gyfrol yn cydnabod y ffaith fod y murlun wedi newid ers i mi sgwennu. Rhywbeth arall braidd yn amlwg yw fod y defnydd o ‘Elvis’ ar wal Dryweryn yn awgrymu fod yr artist (defnydd llac) graffiti yn ymwybodol o wal Elvis Eisteddfa Gurig?

Wrth reswm bu galwadau ar y Cyfryngau Cymdeitrhasol am i wal Llanrhystyd gael ei warchod yn swyddogol gan Llywodraeth Cymru. Efallai fod angen i Cadw rhestru’r wal fel adeilad rhestredig hynafol Gradd II. Bu cryn drafodaeth a chymhariaeth a’r sylw a gofal a roddwyd i furlun / graffiti Banksy ym Mhort Talbot. Dwi ddim yn siwr os yw hyn yn gymhariaeth teg ond dwi’n dallt pam fod rhai fel Liz Saville Roberts wedi gwneud y pwynt.

Yn wreiddiol, ‘graffiti’ oedd wal Cofiwch Dryweryn. Gyda threigliad amser mae’r wal wedi trawsnewid i fod yn un ‘eiconiadd’. Bellach mae pwysigrwydd y wal yn llawer mwyn na’r bwriad gwreiddiol – mae’r murlun yn rhan o psyche’r Cymry - dio’m ots faint o’r paent gwreiddiol sydd wedi goroesi.

Credaf fod y ‘drafodaeth’ yn beth da ac iach – oeleiaf mae graffiti Meic Stevens o 1965 dal yn berthnasol. Rydym ym trafod ‘Hanes Cymru’ – mae’r peth yn fyw ac yn berthnasol. Perthnasol yw’r gair pwysig yma – efallai fod angen y gweithredoedd a digwyddiadau dinistriol ac eiconoclastaidd cyn fod y Cymry yn deffro o’u trwmgwsg o ran Hanes Cymru (ychwanegaf archaeoleg yma hefyd).

Nid fy mod am eiliad yn dadlau o bliad dinistrio na difrodi’r murlun. Os unrhywbeth byddwn yn dadlau mai’r cam nesa yw adfer y murlun yn ofalus gan ddefnyddio ffotograffau o 1965 er mwyn cael yr arddull yn gywir. Soniodd rhywun ar Twitter fod y ‘font’ diweddar yn anghywir er gwaetha ymdrechion y myfyrwyr i gynnal a chadw’r wal.

Yn anffodus mae’r holl ‘sylw’ hefyd yn ysgogi’r fandals – efallai nad yw’r stori yma wedi dod i ben.


No comments:

Post a Comment