Wednesday 3 April 2019

Crwydro ac Apel am Wybodaeth, Herald Gymraeg 3 Ebrill 2019






Apel sydd gennyf yr wythnos hon – apel am wybodaeth. Rwyf wedi bod yn ymchwilio ychydig i hanes yr actor Rupert Davies (1919-1976). Dyma’r actor sydd wedi ei gladdu ym mynwent Eglwys Beuno Sant, Pistyll, Llŷn. Fel ‘Maigret’ y ditectif dychmygol Ffrengig y mae Rupert Davies yn cael ei gofio ran amla ond bu hefyd yn actio mewn ffilmiau fel The Brides of Fu Manchu (1966), Dracula Has Risen from the Grave (1968) a The Spy Who Came in from the Cold (1965).

Pob tro dwi di holi pobl Pistyll am Rupert Davies yr ymateb dwi di gael yw ‘Oh Maigret ti’n feddwl’. Maigret ydi’o i bawb bellach nid Rupert Davies. Ond beth ddaeth a fo i Bistyll – dyna’r cwestiwn mawr?

O ddiddordeb mawr i mi fel cyflwynydd radio oedd y ffaith fod Rupert Davies wedi cyhoeddi record o’r enw ‘Smoking My Pipe’ ar label Parlaphone yn 1963. Y flwyddyn ganlynol Rupert oedd derbynydd cyntaf wobr ‘Pipe Smoker of the Year’. Nid fod hyn yn rhywbeth i’w ymfalchio ynddo go iawn.

Cawn naws strydoedd a chaffis Paris ac yn wir naws Maigret a theledu du a gwyn ar y record – accordion yn cyfeilio a Rupert yn canu yn yr arddull chanteur. Dyma record fach ddiddorol er fod y neges yn un wrthyn mewn ffordd i rhywun sydd am gadw’n iach ac yn credu mewn ‘awyr iach’.

Sut ymdopodd Rupert a bywyd cefn gwlad Llŷn? Beth oedd ei agwedd tuag at yr iaith a diwylliant Cymraeg? Oedd o’n mynd i’r dafarn yn Nefyn? Oedd o’n myd i’r capel? Beth oedd pobl leol yn feddwl am yr actor enwog y neu plith?

SMOKING MY PIPE Rupert Davies: https://www.youtube.com/watch?v=MVe8STc5FBU






Apel arall sydd gennyf yw am fwy o hanes yr hen Central Hall ym Mlaenau Ffestiniog. Dwi’n cofio’r adeilad fel Aelwyd yr Urdd. Dyma lle bu i’r grwp Anweledig berfformio am y tro cyntaf – a hynny yn rhannu’r llwyfan hefo’r Anhrefn. Mae’r arwydd Urdd dal yna ar wal allanol yr adeilad.

Ond, wrth edrych ar yr adeilad dros y penwythnos a dechrau sgwrsio hefo gŵr lleol dyma sylweddoli fod mymryn o’r arwydd gwreiddiol mewn paent yn dal i’w weld ar lechan ar flaen yr adeilad. Yn sicr roedd modd darllen y gair ‘Hall’ ond fedrw’ni ddim gwneud pen na chynffon o’r gweddill.



Mici Plwn esboniodd yn ddiweddarcah fod yr adeilad wedi gweld defnydd fel sinema ar un adeg a rhywun arall yn cyfeirio at ddawnsfeydd yn cael eu cynnal yno. Hyn cyn bwrlwm grwpiau roc Blaenau Ffestiniog yn ystod yr 1980au a 90au.

Yr awdur, bardd a seicoddaearyddwr o Gaerdydd, Peter Finch, yn ei lyfr The Roots of Rock from Cardiff to Mississippi and Back (2015) sydd wedi dechrau’r diddordeb mewn cofnodi adeiladau lle bu unwaith gyngherddau. Adeiladau sydd yn wag, eraill dal mewn defnydd, eraill wedi eu chwalu ar gyfer meusydd parcio. Meddyliwch Tanybont neu’r Majestic yng Nghaernarfon – y ddau yma bellach yn feusydd parcio.

Rhyfedd, wrth grwydro Blaenau Ffestiniog dros y Sul, cofiais fy mod wedi canu sawl gwaith yn ‘Queens’ sydd bellach wedi ei enwi yn Gwesty Ty Gorsaf. Ond oleiaf mae’r adeilad yn dal i sefyll. Draw ym Manod, ar ymyl yr A470, ochr ddeheuol Blaenau Ffestiniog mae’r Wynnes wedi cau. Bordiau pren lle bu unwaith ddrws a ffenestri. Wedi cau go iawn. Bu’r Anhrefn yn canu ar lwyfan bach yng ngardd y dafarn sawl gwaith. Rhywbryd yn yr 1980au.

Crwydro o amgylch y lle mae rhywun. Hel straeon. Cofnodi. Fe wnaiff rhai o’r pethau yma golofn i’r Herald Gymraeg, eraill ddeunydd ar gyfer llyfr rwyf yn sgwennu ar hyn o bryd i Peter Finch – ‘Real Gwynedd’. Neu ella fod yma ddeunydd ar gyfer y sioe radio.



O bosib y sioe radio fydda cartref naturiol hanes George a Paul o’r Beatles yn ymweld a Harlech. Hynny cyn y Beatles – tua 1956/57. Cyn enwogrwydd Byd-eang. Dyma’r dda arddegyn yn gwersylla yn Harlech. Rwyf wedi llwyddo i gael hyd i hanes grwp y Vikings ac yn wir cael hyd i ambell gyn-aelod o’r grwp. Y cam nesafydd cael sgwrs i gael gweld beth yn union yw’r storiau yma am George a Paul yn canu hefo’r Vikings yn y Neuadd Goffa, Harlech?

Prin bythefnos yn ôl roeddwn yn rhoi darlith ar waith cloddio diweddar ym Mryn Celli Ddu i’r Gymdeithas Hanes lleol yn y Neuadd Goffa. Cyrhaeddais yn fuan. Crwydrais o amgylch Harlech a phan agorodd y neuadd dyma dynu ambell lun o’r llwyfan gwag. Bu George a Paul yn canu yma meddyliais. Heno dwi’n traddodi ar yr un llwyfan a dau o’r Beatles.
Efallai fod lleni’r llwyfan wedi cael eu newid ers 1956/57 ond siawn mai’r un llwyfan sydd yna? Cefais sgwrs hefo ambell un yn Harlech oedd yn gyfarwydd a’r storiau. Gormod i’w drafod ar ôl darlitrh felly dyma drefnu i fynd yn ôl am sgwrs go iawn yn y dyfodol agos.

Rhaid cyfaddef fod hyn yn bleser pur – cael crwydro a hel straeon. Prin fod hyn yn waith go iawn, ond mae angen amser ac amynedd i gael at wriadd pethau go iawn. Rhaid wrth amser ac ymchwil er mwyn gwahaniaethu rhwng y gwir a’r storiau. Er mor dda yw’r storiau rhaid ceisio rhywsut sicrhau fod y ffeithiau yn gywir neu mor gywir a phosib.
Cewch ebostio rhysmwyn@hotmail.co.uk os oes gennych unrhyw fwy o fanylion.





1 comment:

  1. Helo, fy enw i yw Cranogwen Rwy'n dod o Gaerdydd ond rwy'n symud i Barc Cenedlaethol Waterton Lakes Canada gyda fy ngŵr. Ni all y geiriau esbonio pa mor gyffrous ydw i am adfer fy mhriodas wedi torri ac erbyn hyn mae fy ngŵr yn ôl yn llwyr ar ôl gadael fi a'n plant i fenyw arall. Rydym wedi bod yn briod ers saith mlynedd, ac yn ystod ein priodas, rydym wedi cael ymladd cyfresi a barhaodd i ni nes iddo adael gyda mi a'n plant a symud i Awstralia i fod gyda menyw arall. roedd yn rhwystro cyfathrebu pob modd, gan ei wneud yn annilys. Roeddwn i'n dysgu bod fy mywyd dros ac roedd fy mhlant yn dysgu na fyddent byth yn gweld eu tad eto. Ceisiais fod yn gryf ar gyfer fy mhlant yn unig, ond ni allwn reoli'r poenau a oedd yn poenydio fy nghalon, cefais fy nhrin gan dristwch a phoen oherwydd roeddwn i wrth fy modd gydag ef. Bob dydd a nos rwy'n meddwl amdano a byddwn bob amser yn hoffi iddo ddod yn ôl gyda mi, roeddwn i'n mynd yn wallgof yn llythrennol ac roedd angen ymyriad dwyfol arnaf, felly fe ddywedais wrth bob un o'm problemau i ffrind i mi a oedd wedi cael heriau tebyg iddi ar un adeg bywyd priodas. Cyfeiriodd fi at enw dyn grymus iawn DrIgbinovia. Dywedodd mai ef oedd yr unig reswm dros yr hapusrwydd yr oedd hi'n ei fwynhau hyd heddiw. Gall Drigbinovia helpu, a pherthynas wedi torri, dywedodd fy mod wedi gorfod ei roi ar gais. Cysylltais ag ef ar ei E-bost: doctorigbinovia93@gmail.com} a rhoddodd gyfarwyddiadau i mi ar beth i'w wneud ac felly fe wnes i, yna fe wnaeth gyfnod cariadus i mi. Ar ôl fy syrpreis mwyaf, ar ôl tair wythnos, galwodd fy ngŵr fi a dweud wrthyf ei fod wedi ein colli cymaint â'r plant, roeddwn i mor synnu, roedd fy nghalon wedi'i llenwi â llawenydd a chyffro, a dechreuais fy nghroeni. Ymddiheurodd am ei gamgymeriad ac ymddiheurodd am y boen a achosodd i mi a'r plant. Dyna sut y daeth yn ôl atom, gyda llawer o gariad a llawenydd, ac o'r diwrnod hwnnw roedd ein priodas yn gryfach nag o'r blaen. Diolch i Drigbinovia ei fod yn ddyn pwerus iawn, felly penderfynais rannu fy stori er mwyn y merched hynny a dynion a brofodd yr hyn a ddigwyddodd. Rwyf am i chi wybod bod yna ateb. Drigbinovia yw'r ateb, sillafu gwir a phwerus a weddïodd am fyw amser hir i helpu menywod a phlant yn eu hamser o boen. Ac mae ganddo hefyd gyfnodau ar gyfer gwella hiv, canser, ac ati neu WhatsApp iddo drwy +2348144480786 Lwc Dda,

    ReplyDelete