Hwn oedd y diwrnod cyntaf o ‘archaeoleg go iawn’ eleni a
rhaid cyfaddef roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael diwrnod allan yn
yr awyr iach (beth bynnag y tywydd) gyda fy nghydweithwyr.
Daeth y gwahoddiad gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
a’r bwriad oedd clirio llysdyfiant o amgylch safle’r Ysgol Magnelau ar y
Gogarth sydd yn dyddio yn ôl i gyfnod yr Ail Ryfel Byd. Felly rydym am gael
diwrnod ar y Gogarth (beth bynnag y tywydd) a chael diwrnod yn gweithio ar
safle milwrol Ail Ryfel Byd. Does dim modd i hyn beidio bod yn ddiwrnod da.
Rheswm arall dros fod yn awyddus i fod yn rhan o’r prosiect
yma oedd fod hon yn safle newydd i mi. Ychydig a wyddais o flaen llaw er i mi
gofio fy nhad yn son am y gynnau mawr yn tanio ar y Gogarth pan roedd yn aros
gyda’i ewythr ym Mhenmaenmawr ar adegau yn ystod y Rhyfel. Does dim gwell na
chyfle i ddysgu rhywbeth newydd.
Sefydlwyd yr Ysgol Magnelau Arfodirol ar y Gogarth gan y Magnelau
Brenhinol wrth i’r ysgol wreiddiol yn Shoeburyness, Essex orfod symud gan fod
yr Almaenwyr yn agosau at arfordir gorllewinol Ewrop. Codwyd y safle yn sydun
gan y Peirianwyr Brenhinol ym Medi 1940 gan dyllu i ochr llethrau isaf y
Gogarth, gosod llwyfanau ar gyfer adeiladau, gosod ffyrdd a’r holl isadeiledd
angenrheidiol. Chwalwyd nifer o’r adeiladau ar ôl y Rhyfel ond yr hyn sydd yn
bwysig ar ochr orllewinol y Gogarth yw fod cymaint o olion wedi goroesi hyd
heddiw.
Drwy edrych yn ofalus mae sylfaeni adeiladau, sylfaeni ar
gyfer y gynnau mawr, cuddfannau tanddaearol yma i’w gweld. Y broblem fwyaf
efallai ar y darn yma o’r Gogarth yw fod yr eithin Ewropeaidd yn frith ar y
llethrau ac yn tyfu dros a chuddio rhannau o safle’r Ysgol Magnelau Arfordirol.
Bwriad Cadw yn hyn o beth yw gwella’r cyfleoedd dehongli
archaeolegol ar gyfer y cyhoedd tra fod Parc Gwledig y Gogarth yn gyfrifol am
yr holl dirwedd. Felly roedd yr archaeolegwyr a’r naturiaethwyr yn cyd-gerdded
llaw yn llaw yn yr achos yma. Pwysleisiaf pa mor dda yw hyn – mae’r holl
amgylchedd a’r dirwedd yn bwysig – does dim blaenoriaeth gan un elfen. Rhaid cael
cydbwysedd cadwriaethol – rhaid cadw’r olion Ail Ryfel Byd a’r glaswellt hynod
sydd yn tyfu ar y galchfaen (limestone grassland).
Treulwyd rhan health y diwrnod yn clirio ardal y ‘magazine’,
sef y storfa arfau (arfdy neu ystordy arfau) felly torri a symud yr eithin a
wedyn ei losgi ar lwyfan bwrpasol er mwyn osgoi unrhwy niwed i’r archaeoleg neu’r
glaswellt dan droed. Mewn geiriau arall – gwaith caled, ond ar ôl awr neu ddwy
roedd rhywun yn dechrau gweld canlyniadau yr holl chwysu.
A dweud y gwir mae digon o waith yma i hyn fod yn brosiect
tymor hirach a dyna yn sicr yw bwriad Cadw. Hyn a hyn sydd modd ei gyflawni
mewn diwrnod, ond mae pob diwrnod yn gwneud gwahaniaeth. Roedd criw go dda o
wirfoddolwyr wrthi yn clirio – pawb hefo’i focs bwyd, pawb i weld yn sgwrsio ac
yn mwynhau.
Dros amser cinio cafwyd taith o rhan o’r safle gan Jeff
Spencer o Cadw a braf oedd cael darganfod safleoedd eraill oedd wedi eu cuddio
gan fieri ac eithin. O fewn hanner awr roedd pawb wedi cael cipolwg go dda ar
tua hanner y safle. Yn ei gyfanrwydd mae’r olion Ail Ryfel Byd yn ymestyn am tua
kilomedr i gyfeiriad y gorllewin ar hyd llethrau isaf y Gogarth.
Wedi goroesi mae’r tri adeilad ar gyfer y chwiloleadau
(searchlight houses) er fod y goleadau a’r peirianwaith wedi hen fynd. Felly
mae’r rhan yma o’r safle yn weddol amlwg a hawdd i’w ddehongli. Roedd rhywun yn
sylwi fod darnau o’r rendro allanol yn disgyn yn rhydd o’r adeiladwaith ac yn
amlwg byddai rhywun yn hoffi gweld mwy o waith cynnal a chadw ar yr adeiladau
hyn.
Does dim disgwyl i’r gynnau mawr fod wedi goroesi ond mae’r
llwyfannau ar eu cyfer ddigon amlwg ac yn enwedig y bolltau haearn ar gyfer
gosod y gynnau – mae rheini dal yna ar y llawr hyd heddiw. Wedi goroesi hefyd
mae un o’r adeiladau peiriannau ar gyfer y chiloleadau.
Dwi ddim am ddechrau ar ‘Brexit’ ond yn sicr bydd yr arian
sydd ar gael ar gyfer archaeoleg yn debygol o leihau os yw Brexit yn digwydd.
Bydd llai byth o arian ar gyfer archaeoleg os bydd Brexit yn mynd a ni dros y
clogwyn di-gytundeb. Doedd neb yn trafod archaeoleg wrth drafod Brexit mwy na
gafodd y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth ei chrybwyll. Mae’r pethau
yma yn bwysig. Mae’r pethau yma yn cael effaith bois bach!
Y gobaith, os bydd y gwaith yn parhau ar y safle yma, yw
bydd ein dealltwriaeth o dactegau a hyfforddiant milwrol yn ystod yr Ail Ryfel
Byd yn cynyddu. Diddorol mewn ffordd yw fod yr ysgol wedi ei symud yma rhag y
bygythiad o’r Cyfandir a’r yr union adeg (1940-41) pan roedd bygythiad arall
fod yr Almaenwyr am ymosod arnom o’r Iwerddon niwtral neu di-duedd. Dyma pam
fod cymaint o flychau amddiffyn yn ardal Nant Ffrancon, Pen y Pass a’r arfiodir
gorllewinol rhwng Borth y Gest a’r Friog.
Diwrnod da felly. Fe gafwyd tywydd braf. Fe ddysgom
rhywbeth newydd a’r gobaith yw cawn ddychwelyd cyn ddiwedd y flwyddyn i wneud
mwy o waith clirio.
No comments:
Post a Comment