Agoriad sioe SAITH Swci Delic hefo Janice Long a Mared Lenny
Dyma chi’r cwestiwn yr wythnos yma – oes yna adfywiad
diwylliannol yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd? Fe gafwyd ‘Cool Cymru’ ar
ddiwedd y 1990au / troad y Mileniwm, disgrifiad amhoblogaidd gan gymaint a
grewyd gan y Wasg. Dwi o hyd wedi dadlau fod ‘Cool Cymru’ yn well na ‘Un-cool
Cymru’, ond prin iawn yw’r artistiaid / cerddorion oedd yn hapus hefo’r
disgrifiad yma. Ond dyna fo, fedrith artistiaid ddim rheoli beth sydd yn y Wasg
ac ar y Cyfryngau – nac yn yr Herald Gymraeg.
Y frwydr mewn ffordd yw sicrhau fod diwylliant Cymraeg a
Chymreig yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Brwydr arall gyfochrog yw cyrraedd y
Cymry hynny (a bleidleisiodd dros Brexit), ‘I don’t speak Welsh’ sydd yn fwy
tebygol o wylio ‘Eastenders’ na thiwnio mewn i Radio Cymru. Dwi’n gwneud y
pwynt yn wythnosol ar fy sioe radio – “Does dim byd ar y teli” – be dwi’n drio
ddweud yw fod yna gyfoeth o gerddoriaeth yn cael ei chwarae ar raglenni
Georgia, Lisa a Huw gyda’r nos ar Radio Cymru – tiwniwch i mewn!
Dyma ni yn 2019. Dim ond hen ffans Super Furry’s a’r Manic
Street Preachers sydd hyd yn oed yn cofio’r term ‘Cool Cymru’. Tydi’r 2 filiwn
a mwy sydd wedi lawrlwytho cân ‘Gwenwyn’ gan y grwp Alffa ddim yn poeni am ‘cool’
unrhywle – mae nhw jest wedi gwirioni / cyffroi hefo arddull blues y band ifanc
o Lanrug. Wrth edrych ar Spotify wrth sgwennu’r golofn hon mae ‘Gwenwyn’ wedi
ei lawrlwytho 2,762 150 o weithiau – yn bell dros y 2 filiwn erbyn hyn.
Os di Alffa yn arwain un chwyldro – yr un digidol, ar-lein,
ifanc, hip, does fawr o neb wedi cysylltu hyn a’r ffaith fod rhywbeth ehangach
yn digwydd yng Nghymru – onibai fod y Guardian wedi sgwennu rhywbeth yn
ddiweddar. Wrth reswm mae hyn oll yn hollol amlwg i’r rhai sydd yn dilyn pethau
yn agos gyda bys ar y pyls.
Mae labeli fel Libertino ac yn enwedig y grwp Adwaith yn
creu argraff ar hyn o bryd. Led led Prydain does dim ond canmoliaeth i’r grwp o
ferched o Gaerfyrddin. Eto ifanc – digwydd bod yn ferched – ond y pwynt pwysig
ydi fod Adwaith mor mor dda, mor mor safonol – mae yna agwedd yn sicr – ond mae’r
gerddoriaeth hefyd yn dweud y cyfan – dim angen esgusion o unrhyw fath.
Dim ond canmoliaeth sydd wedi bod i albym diweddaraf
Lleuwen ‘Gwn Glan Beibl Budr’, campwaith rhyfeddol, angerddol, amrwd sydd yn
effeithio’r gwrandawr. Canmoliaeth ac ymateb haeddianol i gampwaith cerddorol.
Does dim dadl am ddawn Lleuwen fel cantores a chyfansoddwraig ond mae Aled a
Dafydd o Cowbois Rhos Botwnnog, Llio Rhydderch a Owen Lloyd Evans ar y double
bass wedi cyfrannu at y naws yma – o’r pridd ac o’r galon.
Efallai does dim cysylltiad go iawn rhwng Alffa, Adwaith a
Lleuwen heblaw’r Iaith Gymraeg – ac eto mae nhw’n digwydd rwan hyn – ac yn rhan
o’r clytwaith amrywiol yna dan faner y Byd Pop Cymraeg. Cwl heb unrhyw label.
Yng Nghaerdydd mae digon o ddewis, dyddiol, wythnosol,
misol. Gigs, agoriadau celf, theatr. O fewn y dalgylch ehangach – y Cymoedd a
chyffiniau’r M4 mae treuan o boblogaeth Cymru yn byw – da ni’n son am agos i filiwn
o bobl o fewn llai nac awr o deithio nes cyrraedd unrhyw ddigwyddiad yn y
Brifddinas.
Tydi’r boblogaeth ddim yn agos i hynny yn y Wynedd wledig
ac eto yn ddiweddar roedd gig Lleuwen yng Nghapel y Groes, Penygroes wedi gwerthu
allan – pob tocyn wedi mynd. Roedd y 300 tocyn ar gyfer gig diweddar MR (Mark
Cyrff) yn Galeri wedi gwerthu. Dyma pam dwi’n awgrymu bod adfywiad a bwrlwm yn
digwydd – o flaen ein trwynau.
Llwyddodd MR (Mark Cyrff fel cyfansoddwr) ar ei albym newydd
i gyfansoddi caneuon sydd yn barod yn ‘glasuron’. Yn y gig yn Galeri bu bron
iawn i ‘Pwysau’ gan MR gael cystal ymateb a ‘Cymru’ Lloegr a Llanrwst’ y clasur
gan Y Cyrff. Be dwi’n ddweud yn fan hyn, yn datgan yn hytrach nac awgrymu yw
fod Mark Roberts yn dal i sgwennu clasuron.
Galeri hefo Mark a Paul Cyrff / Catatonia / MR etc
Bron yn wythnosol rwan dwi’n cael y cyfle i fynychu digwyddiad
yn Galeri neu Pontio Bangor. Rhaid cydnabod gwaith da Emyr Ankst yn rhaglennu
ffilmiau Pontio. Dyma ni ar bnawn Sadwrn yn ail-wylio ffilm Derek Jarman,’Jubilee’
(1978) gyda Adam Ant, Toyah, Gene October, Jenny Runacre (a’r Slits yn gwneud
ymddangosiad sydun iawn). Wythnos yn ddiweddarach, sinema Galeri a dwi’n gwylio
ffilm ddogfen am Frank Sidebottom a gwrando ar sgwrs fyw gyda’r cyfarwyddwr.
Dim angen byw yng Nghaerdydd (neu Lerpwl / Maceinion) felly
i gael mwynhau Frank Sidebottom neu Derek Jarman. Rhyfeddol pa mor broffwydiol
oedd ‘Jubilee’ – fe all fod yn ffilm am wallgofrwydd Brexit heddiw mor hawdd.
Nid nostalgia am Adam Ant a gafwyd – ond ‘wake up call’ – dyma ni heddiw –
deffrwch bobl bach!
Ac o ran celf, mae Ffordd Balaclafa, Doc Fictoria, Gweriniaeth
Cofiland yn fwrlwm o gelf gweledol. Balaclafa yw’r enw ar yr oriel fechan ar
Ffordd Balaclafa – drws nesa i Galeri. Yr hen gaffi ‘Pieces of Ate’. Ar hyn o
bryd mae Balaclafa yn gartref i gelf gan fenywod dan faner Gŵyl y Ferch.
Drws nesa yn oriel Galeri mae arddangosfa lliwgar a
seicadelig Swci Delic sef Mared Lenny y cerddor a fu yn perfformio fel Swci
Boscawen ond sydd bellach yn canolwbyntio ar ei gyrfa fel artist. Cefais y
fraint o sgwrsio a hi yn ddiaweddar yn fyw ar lwyfan fel rhan o Gŵyl Arall.