Arbrawf o fath ond un llwyddiannus tu hwnt. Eleni dyma
gynnal y trydedd LLE HANES ar Faes yr Eisteddfod gyda’r cyrff a’r sefydliadau
canlynol yn cyd-weithio: Amgueddfa Cymru; Cadw; Casgliad y Werin; Llyfrgell
Genedlaethol Cymru; Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; Oriel Môn ac
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
Fel rhywun sydd yn gweithio yn y maes archaeolegol /
treftadaeth yn llawrydd doedd dim byd anarferol yn hyn o beth – mae rhywun yn
gwneud gwaith i wahanol gyrff a sefydliadau yn rheolaidd ond o ran gweld yr
holl sefydliadau yn cyd-weithio o dan yr un tô ac i’r un pwrpas, efallai fod
lle i awgrymu fod hwn wedi bod yn arbrawf arloesol.
Hanes Cymru wrth reswm oedd y ffocws a’r pwrpas, a braf
oedd gweld Hanes Cymru yn ei holl ogoniant ac amrywiaeth yn cael lle, yna ar
Faes yr Eisteddfod, ochr yn ochr a stondinau fel Y LLE CELF sydd wedi hen
gymeryd ei le. Fel Cenedl mae tuedd i gwyno byth a beunydd am ddiffygion y
gyfundrefn addysg neu rhai o’r sefydliadau uchod yng nghyd destun Hanes Cymru –
ond dyma ni, yn hollol ymarferol ac ar lawr gwlad (neu Faes yr Eisteddfod yn
sicr) yn unioni rhan o hyn.
Yn wleidyddol, agorwyd Y LLE HANES gan Rhun ap Iorwerth,
cafwyd ymweliad gan Carwyn Jones ac ymwelodd rhai o benaethiaid y sefydliadau
a’r stondin. Dyma gyfle felly i bwysleisio pwysigrwydd Hanes Cymru ac i
fanteisio ar y cyfle i atgoffa pawb fod cyd-weithio er lles Hanes Cymru yn
cynnig ffordd ymlaen. Prin yw’r cyfleoedd i gael ‘dweud ein dweud’ wrth y
gwleidyddion ac yn sicr manteisiais ar y cyfle – cenhadaeth yw archaeoleg Cymru
i mi.
Felly os cafodd y gwleidyddion a’r penaethiaid y bregeth am
bwysigrwydd archaeoleg a hanes Cymru, doedd dim angen o gwbl pregethu gyda’r
werin bobl oedd yn ymweld a’r stondin. Prynais lyfr nodiadau gan wybod y byddai
ymweliadau cyson gan bobl oedd wedi darganfod rhyw wrthrych neu a oedd am wybod
mwy am heneb ar eu fferm. Y drefnb ddyddiol oedd cadw nodiadau gan addo ymweld
yn fuan neu cael hyd i fwy o wybodaeth iddynt.
Fel y disgwyl roedd ambell un wedi cael hyd i fwyell garreg
neu efydd. Byddai’r fwyell garreg felly yn debygol o fod yn perthyn i gyfnod y
Neolithig (4000-2000 cyn Crist) a’r fwyell efydd o’r Oes Efydd (2000-700 cyn
Crist). O’r disgrifiad o’r fwyell efydd mae’n amlwg mai bwyell palstaf oedd hon
wedi ei cynllunio i’w dal rhwng pren wedi ei hollti. Byddai rhaid gweld y fwell
garreg er mwyn adnabod ffynhonnell y garreg ac o ganlyniad pa ffatri fwyeill
fyddai tarddiad y fwyell?
Y cam nesa fydd ychwanegu’r bwyeill hyn at Gofnod yr Almgylchedd Hanesyddol sydd
dan ofal Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Pwrpas hyn yw cadw cofnod o’r
gwrthrychau a’r lleoliadau y darganfuwyd hwy. Ychwanegu at ein dealltwriaeth
yw’r nod yma.
Roedd ambell gwestiwn ynglyn ac enwau llefydd. Gan fod Hwfa
Môn yn un o brif gymeriadau’r LLe Hanes eleni doedd dim syndod fod rhai wedi
gofyn beth oedd ystyr ‘hwfa’? Yn ôl Ifor Williams (Cymdeithas Enwau Lleoedd
Cymru) enw personol oedd Hwfa o bosib yn tarddu o’r enw Hwrfa o’r 14eg ganrif.
Byddai nifer yn gyfarwydd a’r pentref ar Ynys Mon, Rhostrehwfa, ond roedd yn
ddiddorol clywed am enw cae yn Nyffryn Conwy o’r enw ‘Cae Hwfa’.
Holodd rhywun arall am ‘Cae Crogi’ ger Gwyndy, Glan yr
Afon, eto ar Ynys Môn. Wrth edrych ar gofnodion Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Gwynedd mae hyn yn agos iawn i adfeilion canol oesol Bodychan, ond oes unrhyw
gysylltiad? Dyma’r math o ymholiad sydd yn arwain at fwy o waith ymchwil. Amser
ac ymchwil a ddengys o caen unrhyw wybodaeth pellach.
Rhywbeth hollol newydd i mi oedd ymholiad am Dai Cwrdd
Methodistaidd cynnar. Wrth sgwrsio a gwraig o Flaenau Ffestiniog awgrymodd fod
adefeilion tai cwrdd i’w cael ger Llyn Elsi, Betws y Coed a hefyd ar Fwlch
Sychnant. Yr unig awgrym yn yr achos yma yw trefnu ymweliad. Rhaid cael ei
chwmni i weld be di be – i gael mwy o wybodaeth.
Arweiniodd sgwrs arall at ymholiad am gerflun neu ddelw
Nelson ar lan y Fenai. Rhyfedd o fyd, ond rwyf wedi gorfod dysgu am y cerflun o
Nelson ar gyfer yr holl deithiau tywys lle rydym yn croesi Pont Britannia
(Robert Stephenson 1850). Wrth edrych at lan y Fenai ochr Môn, mae’r cerflun
i’w weld ychydig i’r gorllewin o fynwent Eglwys Santes Fair (ddim mor bell a
hynny o garreg fedd John Morris Jones).
Mae’n debyg mai Clarence Pagett, mab fenga Ardalydd Môn, Plas
Newydd, oedd yn gyfrifol am gerfio Nelson. Bu Clarence yn y llynges gan dreulio
amser ar HMS Asia, Pearl, Howe, Princess Royal ac Ailge. Mae son fod Nelson
wedi cyfeirio at y Fenai rhwng y ddwy bont fel un o’r darnau mwyaf peryglus i’w
hwylio yn y Byd ond hyd yma rwyf wedi methu dod o hyd i dystiolaeth fod Neslon
wedi treuliuo amser yma.
Cerflunydd amatur ond brwdfrydig oedd Clarence a thybiwn
mai ei gefndir morwrol a gyda’r llynges ysgogodd iddo osod Nelson ar ymyl y
‘Strait nid Straits’.
Efallai o fwy o bwys na’r hen Nelson druan, er mor ddiddorol
yw’r cerflun, oedd cwestiwn ynglyn a dyfodol carreg Gwern mab Cuuris Cini yn Eglwys Llangaffo. Awgrymir fod hwn yn un
o’r engreifftiau cyntaf ysgrifenedig yn yr iaith Gymraeg neu o enwau Cymraeg.
Dyddia’r garreg i’r 7fed ganrif ond awgrymir gan Frances Lynch mai cofeb i rhyw
bwrpas ansicr yw hon yn hytrach na charreg fedd.
Gwelwn nifer o gerrig beddau croes 9fed-13eg ganrif
gyferbyn a phorth yr eglwys sydd yn gasgliad hynod iawn ond mae carreg Gwern yn
y Festri a mae cwestiwn wedi codi ynglyn a pherchnogaeth yr adeilad a beth fydd
yn digwydd i’r garreg? Deallaf fod Frances Lynch ac Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd yn ymwybodol o’r sefyllfa ond dyma chi engraifft berffaith
o sut mae henebion pwysig yn gallu bod dan fygythiad.
Os yw’r garreg yn engraifft cynnar o enwau Cymraeg, mae hyn
yn golygu fod hon yn gofeb o bwys Cenedlaethol yn ogystal a bod yn heneb pwysig
o ran Ynys Môn. Efallai mai yn Oriel Mon dylia hi fod os nad oes modd ei symud
i’r eglwys? Yr hyn sydd yn sicr yw fod angen gwneud yn siwr ein bod ni (y
cyhoedd) yn gallu gweld a gwerthfawrogi’r garreg.
Ychydig o engreifftiau felly o’r sgyrsiau a gafwyd yn Y LLE
HANES. Dywedias wrth bawb oedd yn ymweld fod Hanes Cymru yn fyw – nid yn bodoli
mewn cas gwydr – er fod atgynyrchiadau o wrthrychau Llyn Cerrig Bach a Llyfr
Gwyn Rhydderch yn cael eu harddangos mewn casus ar y stondin !!!!
No comments:
Post a Comment