Wrth sgwennu’r erthygl yma rwyf yn gwrando ar CD ‘Everybody
Digs Bill Evans’ y cerddor jazz o dras Gymreig. Ei dad, Harry, mewn ffordd oedd
o dras Cymreig uniongyrchol, felly roedd Bill yn Gymro o bell. Yn ôl y son
roedd Harry yn ddyn cas a threisgar oherwydd y ddiod feddwol.
Cyfrannau at y record ‘Kind of Blue’ yr albym jazz sydd
wedi gwerthu mwyaf erioed ddaeth a Bill i enwogrwydd fel pianydd. Pedair miliwn
copi sydd wedi gwerthu o LP Miles Davies (a ryddhawyd yn 1959) hyd yma. Ond y
‘poen’ sydd am ddwyn fy sylw yr wythnos hon. Anghofiwch y cyffuriau, er mae’n
debyg fod heroin wedi chwarae rhan amlwg yn natblygiad y sîn jazz yn y cyfnod
yna hefyd.
Bill Evans
Y ‘poen’ yw’r peth yna mae cymaint ohonnom yn ei gario – weithiau
mae modd cyfeirio at hyn fel ‘angerdd’ ond mae’n ddyfnach peth na hynny. O ran
pethau Cymraeg a’r iaith Gymraeg mae’n weddol amlwg fod cymaint o bobl yn
gweithredu yn angerddol achos eu bod yn credu yn nyfodol y Gymraeg. Gall
angerdd a brwdfrydedd fodoli yn hawdd iawn yn y cyd-destun Cymraeg – cyfrannu
at y Papur Bro, eisteddfota, gwylio S4C yn nosweithiol, pleidleisio i’r Blaid –
protestio yn achlysurol hyd yn oed. Chafodd heroin rioed effaith ar y Gymraeg.
Fyddwn i ddim am eiliad yn amau didwylledd cefnogwyr yr Iaith
Gymraeg, ond faint ohonnynt sydd yn cario’r ‘boen’ barhaol? Yn achlysurol iawn
fe fyddaf yn cyfarfod Cymro / Cymraes arall lle rydym yn sgwrsio ac yn esbonio
nad ‘dewis’ yw hyn ond ‘rheidrwydd’. Rhaid creu, rhaid mynegi, rhaid rhannu’r
boen ac arllwys pethau allan, mewn print, ar record, mewn llyfr, mewn darlith
neu a’r raglen radio ….. lle bynnag.
Dwi ddim yn credu mai cyfrinach yw’r ffaith ein bod ni fel
colofnwyr yr Herald yn sgwennu achos ein bod awydd cyfathrebu gyda’r
darllenwyr, rhannu’r pethau sydd yn ‘bwysig’ neu o ‘ddiddordeb’ i ni fel
colofnwyr. ‘We ain’t doing it for the money kids’, mae hynny yn sicr. Y gobaith
bob pythefnos yw eich bod chi ddarllenwyr yn cael rhyw bleser a mwynhad o
ddarllen y golofn.
Y ‘sgwrs’ arall felly yw’r un gyda’r bobl hynny sydd yn
‘gorfod’ creu yn hytrach na chreu er mwyn gwneud bywoliaeth. Bywoliaeth yw un
nod (yn y Byd go iawn hefo biliau i’w talu) yn sicr, ond yn y Gymraeg does byth
ddigon ohonnom (yn prynu) rhywsut nagoes? Crafu byw am dros 10 mlynedd wnaeth y
grwp roc Anhrefn. Byw ar ‘ffa pob ar dost’ os mynnwch. Heb Ewrop, heb
gynulleidfa’r Almaen, Ffrainc, Sbaen, yr Iseldiroedd, Belg, y Weriniaeth Tsiec,
Iwerddon mi fydda hi wedi bod yn weddol bîg arnom. A dyma ni heddiw yn wynebu
Brexit – popeth sydd yn groes i’r hyn ddysgom wrth deithio’r cyfandir yn y
1980-90au.
Dave Datblygu sgwennodd y llinell fod “byw yng Nghymru fel
gwylio paent yn sychu”, a mae yna wir yn hynny. Gwir poenus. Cefais sgwrs
hefo’r cerddor Gai Toms yn ddiweddar wrth iddo lansio ei CD newydd ‘Gwalia’. Ar
y CD yna mae cân hollol berthnasol a hollol hanfodol o’r enw ‘Ewrop’. Heblaw am
y neges hanfodol, mae’r gerddoriaeth yn eich hudo a chludo i arall fyd.
Llwyddiant o ran cyfansoddi ddywedwn i.
Ond yr hyn a fynegais wrth Gai, (doedd ganddo ddim dewis
ond gwrando), oedd y byddwn wrth fy modd yn gallu diflanu am flwyddyn neu ddwy
i gyfansoddi albym neu i gael sgwennu fy llyfrau. Ond dwi’n gaeth i wneud
bywoliaeth. Doedd unrhyw freindal o ‘Rhedeg i Paris’ ddim yn caniatau
ymddeoliad cynnar. Croeso i Gymru.
Felly mae’r ‘creadigrwydd’ yn gorfod digwydd o fewn
fframwaith gwneud bywoliaeth. Rheoli amser yw’r gyfrinach. Dwi’n credu mewn
gweithio. Dwi ddim yn ddiog. A bod yn onest prin iawn yw’r amser rhydd rwyf yn
ddewis ei gymeryd. Hyd yn oed wrth gerdded mynyddoedd – dwi’n meddwl am
rhywbeth, yn tynnu lluniau yn llunio colofn Herad Gymraeg yn fy mhen.
Efallai fod fy mod yn ‘gryfach’ na’r cerddorion jazz - mewn
rhai ffyrdd, yn fwy ‘normal’, mae gennyf wraig a dau o hogia (wedi eu
mabwysiadu) a rwyf hefo swydd go iawn gyda’r sioe radio wythnosol ar Radio
Cymru. Efallai mai mwy ffodus neu lwcus ydwyf. Mae’r ‘boen’ parhaol yn dal yna,
pob eiliad o bod diwrnod – fe ddyliwn fod yn hapus neu hapusach. Dwi rioed di
bod yn berson ‘cyffuriau’.
Rhyfedd pam fod y Gymareg mor allweddol yn hyn ôll. Berwaf
yn barhaol am y byd Archaeolegol Cymreig lle mae’r Gymraeg mor brin ymhlith y
rhai sydd yn honni eu bod a diddordeb yng Nghymru. Rwyf newydd sgwennu colofn
am hyn i Llafar Gwlad. Os am gloddio ar safle fel Meillionydd onid oes angen
ynganu’r enw yn gywir? Engraifft cyffredinol yw hyn yn hytrach na engraifft
penodol.
Onid set deledu du a gwyn sydd gan yr holl archaeolegwyr
di-Gymraeg felly yn hytrach na theledu lliw HD? Pam fod y di-Gymraeg hyd yn oed
yn bodoli o gwbl yng Nghymru? Anghofiwch cefndir teuluol, y
chwyldro-diwydiannol, daearyddiaeth a’r drefn addysg am eiliad. Cwestiwn
(moesol), lle mae’r awydd? Rhaid wrth y Gymraeg os am ddallt y dalltings – ar
ei fwyaf syml, i gael gwerthfawrogi T H Parry Williams os am ymweld a Rhyd Ddu.
Teledu lliw.
I rai mae ‘salwch meddwl’ yn gallu oleiaf esbonio’r ‘boen’,
nid ei leddfu ond oleiaf cynnig rhyw fath o ateb. Rhywle ar y spectrwm mae gan
gerddorion, beirdd ac awduron y cysur yna, mae’r alcohol neu’r cyffuriau neu’r
salwch yn cyfrannu at y creadigrwydd a mae pawb yn ‘dallt’ hynny. Dwi bell rhy
‘normal’ i hynny. Jest gormod o angerdd sydd gennyf.
Popeth yn Gymraeg.
Annwyl Rhys,
ReplyDeleteRydyn ni’n ysgrifennu atoch chi achos bod ni’n datblygu prosiect newydd pwysig ynglŷn â’r iaith Gymraeg a hoffen ni gael eich help.
Mae prosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) yn brosiect uchelgeisiol a ddechreuodd yn swyddogol ar Fawrth 1af 2016 (gellir dod o hyd i fanylion pellach am hyn yma: sites.cardiff.ac.uk/corcencc/).
Oes posib i chi gysylltu â mi ar WilliamsL10@cardiff.ac.uk er mwyn i mi yrru mwy o wybodaeth i chi?
Cofion cynnes,
Lowri Williams
CorCenCC Research Assistant | Cynorthwwydd Ymchwil CorCenCC
Cardiff University | Prifysgol Caerdydd