Yn ystod mis Medi 2016, bu criw ohonnom ar ran
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cloddio am y drydedd tymor yng
nghastell Carndochan ger Llanuwchllyn. Does dim angen atgoffa darllenwyr Llafar
Gwlad am bwysigrwydd hyn ond bu sawl sgwrs ymhlith y criw dros banad am
bwysigrwydd y gwaith. Dyma un o gestyll tywysogion Gwynedd a doedd neb yn
anghofio hynny am eiliad na chwaith yn anghofio faint o ‘fraint’ yw cael
cloddio a’r safle o’r fath.
Ond, y ‘dirgelwch’ mawr hyd yma o ran yr archaeoleg, yw fod
y ddyddiadau radiocarbon sydd ganddom yn disgyn yn rhywle rhwng y ddau
Llywelyn. Y posibilrwydd felly gyda Castell Carndochan yw fod yma adeiladwaith
gan Llywelyn ab Iorwerth a hefyd ei ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd? Petae modd
dyddio rhai o’r adeiladau yn fwy pendant mi fydda hynny yn gymorth mawr o ran
dehongli’r castell a phwy oedd yn gyfrifol a phryd bu’r gwaith adeiladu.
Awgrymai David Hopewell, y cyfarwyddwr cloddio, fod yna
gyfnodau gwahanol o adeiladu yma gan fod mortar gwahanol wedi cael ei
ddefnyddio yn rhai o’r adeiladau. Y gamp wedyn yw ceisio dehongli’r drefn
adeiladu – pa dŵr neu fur ddaeth gyntaf? Yn sicr, rydym bob amser yn dysgu
rhywbeth wrth gloddio, felly fy nadl i gyda safle fel Carndochan yw fod unrhyw
waith archaeolegol pellach yn cyfrannu ac yn ychwanegu at yr hyn rydym yn ei
wybod. Gan ein bod ar un o safleoedd tywysogion Gwynedd, does dim angen
pwysleisio hyn ymhellach – mae’r peth yn amlwg.
O ran yr ochr ymarferol o ‘gloddio’ yng Ngharndochan, mae’n
debyg mai symud cerrig yw rhan helaeth o’r gwaith. Pur anaml mae’r trywal yn
dod allan gan fod cymaint o gerrig wedi disgyn o’r muriau neu’r tyrrau a rhaid
clirio rhain cyn gallwn ddechrau gweld unrhyw ‘archaeoleg go iawn’.
Mae’n waith caled ac yn cymeryd rhai dyddiau cyn i ni
glirio digon o gerrig i ddechrau gweld beth yw beth. Ffactor arall yma yng
Ngharndochan yw ein bod yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri felly mae unrhyw
symud cerrig yn fater sensitif. Does dim modd gadael tomennydd o gerrig ar ein
hol yma! Ar ôl hir feddwl dyma benderfynu mai’r peth doethaf a mwyaf sensitif
i’r diwredd fyddai creu llwybr tuag at y castell gyda’r cerrig rydym yn eu
clirio.
Felly o hyn ymlaen bydd modd i ymwelwyr gyrraedd porth y
castell heb orfod dringo’r sgri neu’r holl fowlderi rhydd sydd o amgylch y
castell. Efallai fod hyn yn fymryn o gyfaddawd, sef ‘creu’ llwybr newydd tuag
at y castell, ond tydi symud cerrig o’r safle ddim yn bosib a fel soniais tydi
gadael tomennydd ddim yn dderbyniol chwaith o fewn y Parc. Gyda threuliad amser
bydd ein llwybr bach newydd ni yn ymdoddi’n naturiol i’r dirwedd.
Dyna oedd y ddadl neu’r cyfaddawd ymarferol. Wrth ddadlau’r
achos ac wrth ofyn y cwestiwn sylfaenol pam ein bod yn cloddio yng Ngharndochan
yr ateb bob amser yw ein bod am wella ein dealltwriaeth o safleoedd tywysogion
Gwynedd. Rhan o’r fargen felly yw dwyn sylw i’r safleoedd yma yn y gobaith bydd
mwy o ymweliadau hefyd maes o law. Wrth ddarlithio hyd a lled y wlad, rwyf yn
gofyn yn aml faint sydd wedi clywed am Gastell Carndochan? Tydi’r ateb ddim o
hyd yr un yr hoffwn ei glywed – er nad yw hynny yn hollol annisgwyl wrth reswm.
Canolbwyntwyd y tro yma (2016) ar archwilio porth y
castell. Roedd safle’r porth wedi ei ‘ddarganfod’ yn 2015 felly penderfynwyd
cynnal mwy o waith ar y rhan yma o’r castell ac o fewn ddyddiau o glirio cerrig
dyma wneud darganfyddiad pwysig a chyffrous iawn. O dan yr holl rwbel oedd wedi
disgyn o’r gorthwr ac i lawr ar ben y fynedfa - ac i raddau felly nid yn unig wedi
chwalu’r porth ond hefyd wedi ei gladdu dyma ddod ar draws ddarnau o fwa
cerrig.
Roedd y ‘garreg gloi’ yn amlwg – sef y garreg olaf oedd yn
cloi y bwa yn gyfan – a thua hanner y bwa yn weddill. Roedd ail hanner y bwa yn
deilchion. Dyma sylweddoli felly fod yna borth a bwa yn fynedfa i’r castell ac
er fod elfen amrwd i’r cerrig byddai hyn yn sicr wedi bod yn fynedfa ddigon
‘nobl’ neu drawiadol wrth i bobl gyrraedd Carndochan.
Yn anffodus oherwydd cyflwr bregus y bwa, penderfynwyd
mai’r peth doethaf fyddai i’w ail-gladdu. Does dim posib ar hyn o bryd ail
godi’r bwa a’r porth – does dim cyllideb ar gyfer hynny, na chwaith unrhyw
obaith byddai gweddill y bwa yn goroesi’r tywydd garw petae ni wedi gadael y
bwa ar un ochr yn yr awyr agored. Felly ar ôl ei gofnodi yn ofalus a thynnu
lluniau, dyma osod cerrig a phridd yn ofalus dros ein bwa gan wybod bydd yno yn
saff am flynyddoedd i ddod – reit o dan draed unrhyw ymwelwyr fydd yn cyrraedd
Carndochan drwy’r porth.
Sicrhawyd fod y porth yn aros ar agor drwy wneud gwaith
cynnal a chadw gan seiri maen lleol felly un canlyniad cadarnhaol iawn o waith
2016 yw fod llawer mwy o’r fynedfa bellach yn weladwy – ac yn weddol hawdd i’w
ddehongli.
Darn arall bu i ni ei archwilio eleni oedd y gorthwr
canolog lled sgwar. Unwaith eto proses o glirio rwbel oedd hi i ddechrau gan
symud unrhyw gerrig oedd yn amlwg yn rhydd neu wedi disgyn i un ochr ac yn
raddol dod o hyd i weddillion muriau go iawn y gorthwr. Dim ond rhyw dri neu
pedwar cwrs o’r mur oedd wedi goroesi. Camp arall wrth edrych ar y gorthwr
canolog oedd sicrhau ar ddiwedd y gwaith fod yr holl gerrig yn cael eu hail
osod fel fod neb yn sylwi ein bod wedi cloddio yma.
Rhyw ddiwrnod go dda o waith oedd clirio’r cerrig a glanhau
wyneb gwaelod y tŵr a’r hyn oedd yn bwysig iawn yn yr achos yma oedd gallu
cadarnhau fod yna ‘batter’ ar waelod
y tŵr. Batter yw’r nodwedd
pensaerniol lle mae gwalod tŵr yn ymledu am allan (goleddf) gan gyrfhau gwaelod
tŵr. Gwelwn engrieifftiau gwych o ‘batter’
ar dyrrau Castell Biwmares ond hefyd
gwelwn awgrym o ‘batter’ o amgylch y
tŵr lled sgwar yn Ninas Emrys.
O gymharu, roedd rhaid cydnabod y tebygrwydd rhwng y tyrrau
sgwar yn Ninas Emrys a Charndochan – gwneuthuriad tywysogion Gwynedd. Felly, er
mai darn fechan iawn gafodd ei glirio o amgylch y tŵr canolog roedd gallu
cadarnhau y ‘batter’ yn ddarn bach
ychwanegol o wybodaeth a gafwyd o ganlyniad i waith cloddio 2016. Mae pob darn
o wybodaeth newydd yn bwysig.
Wrth ysgrifennu’r erthygl yma, does dim sicrwydd cawn
ddychwelyd i Garndochan yn ystod 2017. Mae hyn yn llwyr ddibynnol ar gyllidebu.
Cawn weld beth ddaw, ond gallwn fod yn fodlon fod y gwaith tros y dair mlynedd
dwethaf oleiaf wedi bod yn help i roi Carndochan ‘ar y map’. Rydym wedi codi
ymwybyddiaeth am un o safleoedd tywysogion Gwynedd. Mae llawer mwy wedi ymweld
a’r safle (gan gynnwys disgyblion ysgol) na fydda wedi bod yno petae ni heb
gloddio. Rydym yn deall mwy ac o ganlyniad yn gyfoethocach fel Cenedl o ran
Hanes Cymru yn ystod y 13eg ganrif.
No comments:
Post a Comment