Peth digon anodd yw cael ‘ymateb’ os yn creu mewn unrhyw ffordd neu gyfrwng yn y Gymraeg. Fel arfer mae ‘gwylltio’ pobl yn gweithio yn eitha da, bod yn fwriadol ddadleuol hyd yn oed.
Pan ddechreuais ysgrifennu colofn i’r Faner dan
olygyddiaeth Emyr Price yn y 1980au dyna oedd fy unig fwriad. Doedd y gynulleidfa
pop Cymraeg arferol ddim yn darllen y Faner felly rhesymais mae’r unig bwynt
mewn sgwennu colofn oedd i herio’r drefn hen-ffordd-draddodiadol Gymraeg.
Roeddwn rhy ifanc a di-brofiad i adnabod fod Emyr Price yn gyd-deithiwr o fath
– nath o rioed olygu na gofyn i mi newid unrhywbeth.
Trodd bod yn ‘ddadleuol’ mewn i yrfa yn mynegi barn ar y
Cyfryngau a wedyn dros y blynyddoedd, pallodd yr awydd i fod yn ddadleuol. Go
iawn roedd gennyf rhywbeth i’w ddweud ac roeddwn yn ‘credu’ yn hynny. Roedd pobl yn meddwl fod
safbwyntiau yn cael eu mynegi er mwyn bod yn ‘ddadleuol’. Ddim bob tro a llai a
llai gyda threigliad amser.
Felly tydi rhywun ddim yn mynd ati i sgwennu er mwyn bod yn
‘ddadleuol’ ond eto, yn yng nghefn y meddwl mae rhywun yn ceisio procio, neu
addysgu, neu ddiddanu, neu gwestiynnu – rhaid bod yna bwrpas mewn sgwennu
colofn.
Wrth son am fy mhrofiad yn y gig Prestatyn Rocks mae’n
amlwg fy mod wedi cyflwyno darlun llai na chywir o dref Prestatyn – argraff
hanner diwrnod oedd hwn mae’n wir.
Yn yr erthygl awgrymais nad oedd trigolion Prestatyn
efallai ddigon cyfarwydd a grwpiau pop Cymraeg cyfoes fel HMS Morris neu Ani
Glass. A dyna chi un gwendid sylfaenol yn fy ngholofn fel awgrymodd Pennaeth
Ysgol y Llys, Dyfan Philips wythnos dwetha.
Tydi trigolion y trefi mwyaf Cymraeg yng Nghymru ddim
chwaith yn gwirioni ar gerddoriaeth amgen Cymraeg. Rhywbeth ymylol iawn yw hyn
– tydi’r iaith na’r daearyddiaeth ddim yn ffactor go iawn. Dim ond yng
Nghaerdydd lle mae digon o ‘exiles’
Cymraeg gall y gynulleidfa fod yn un sylweddol. Mae Dyfan yn gywir. Fi sydd yn
gobeithio fod grwpiau o safon HMS Morris ac Ani Glass yn gallu apelio a denu
pobl at y Gymraeg.
Nid ymosod yn benodol ar Brestatyn mwy na Llandrindod yr
wythnos cynt oedd y bwriad a dweud y gwir – ac yn sicr nid ymosod ar ymdrechion
Cymry Cymraeg sydd yn gweithio dros yr iaith yn y trefi hynny. Eto mae Hari
Huws (Huw Tân) o’r Rhyl yn iawn i gwestiynu fy erthygl.
Ymosod ar ein di-faterwch ni fel Cenedl oedd y bwriad am
ganiatau i lefydd (unrhywle yng Nghymru) fod yn ddi-Gymraeg, yn ang-Nghymreig.
Nid eu bod nhw felly yn llwyr ond byddwn wedi mwynhau gweld grwp neu grwpiau
Cymraeg yn Prestatyn Rocks. Mor syml a hynny.
Gig anodd i unrhyw band ac efallai wedi eu magu ar Maes B a
gigs braf y Steddfod – nad oes grwpiau Cymraeg gyda’r elfen genhadol o fod isho
cyrraedd cynulleidfaoedd newydd i fentro i ardaloedd fel hyn.
Chlywais i ddim gair o Gymraeg go iawn yn Prestatyn Rocks –
beirniadu’r gweddill ohonnom oedd fy mwriad nid pobl Prestatyn. Tyfais fyny ar
y ffin. Nid ffedog gynnes Gwynedd a chadarnle ieithyddol oedd fy mhrofiad
arddegau ond frontline ieithyddol a
gorfod cwffio i gael unrhyw fath o fynegiant yn y Gymraeg ac yn fwy na hynny i
weld unrhyw werth yn beth oedd ar gael yn y Gymraeg pryd hynny.
Dal i ddweud – os da ni am gyrraedd y miliwn – rhaid i
bethau newid – rhaid i rhywbeth newid – tydi’r staus quo ddim yn opsiwn. Petawn
yn sgwennu er mwyn creu ymateb fe lwyddais. Diolch fod pobl Prestatyn wedi
ymateb a wedi mynegi eu siom yn fy ngholofn a hyd yn oed wedi dangos gwendidau
fy nadl. Da o beth.
No comments:
Post a Comment