Dwi ar yr un trywydd eto yr wythnos yma. Y llefydd yma yng
Nghymru sydd yn osgoi’r Gymraeg – dyma sydd yn fy mhoeni ac yn fy niddori. Dros
y Sul roeddwn yn chwarae gitar fas i grwp o Gaernarfon mewn digwyddiad o’r enw ‘Prestatyn
Rocks’. Doeddwn ddim yn disgwyl gweld unrhyw grwp yn canu yn y Gymraeg yno.
Tydi’r grwp dwi’n chwarae bas iddynt ddim chwaith. Mae honno yn stori arall.
Doeddwn ddim wirioneddol yn disgwyl clywed y Gymraeg ym
Mhrestatyn ond fe ddigwyddodd rhywbeth weddol anisgwyl. Doniol. Dweud y cyfan.
A dweud y gwir ddylia rhywun byth glustfeinio ar sgwrs rhywun arall ond wrth i mi
wrando ar rieni yn trafod sut hwyl roedd eu plant wedi gael ar eu haroliadau
dyma glywed yr hyn fyddwn yn alw yn ‘ddyfyniad y dydd’.
Yn y dorf roedd rhain. O ran ei acen roedd y tad o
Fanceinion, ond yn amlwg yn byw yn lleol, a dyma fam arall yn son fod ei merch
wedi gwneud yn drychinebus yn ei haroliad Cymraeg. Ateb y tad, oedd iddi beidio
poeni, “The only Welsh you need is Dim Siarad Cymraeg” meddai’r Manc, a hynny
mewn Cymraeg perffaith.
Roeddwn yn eistedd drws nesa iddynt. Roedd yn weddol amlwg
fy mod yn chwerthin yn ddistaw os nad uchel wrth glywed hyn. A oedd ateb
gennyf? Methais a meddwl am ddim byd addas. Dyma’r Manc yn troi atof a son fod
y grwp oedd ar y llwyfan ar y pryd yn ei atgoffa o Joy Division ac o fewn
eiliadau da ni wrthi yn trafod Ian Curtis, The Cure ac yn rhannu’r un dant
cerddorol.
Dwi heb ddweud dim am y Gymraeg, dwi heb faddau iddo ond dwi heb willtio chwaith. Mewn maes parcio ger yr orsaf ym Mhrestatyn ar bnawn Sul gyda llwythi o bandiau roc o ogledd Cymru yn perfformio – yr unig beth fedra’i neud yw chwerthin a meddwl pa mor swreal yw hyn ôll.
Does dim diwylliant Cymraeg cyfoes i’w weld ar strydoedd
Prestatyn. Tydi’r Manc, na’r rhieni eraill, ddim wedi gweld na chlywed Bendith,
HMS Morris, Ani Glass, Candelas, Adwaith, (na’r grwp Ian Rush o’r Wyddgrug hyd
yn oed?). Nid fy mod yn cytuno a’r boi bach OND – pryd glywodd o neu welodd o
rhywbeth Cymraeg cyfoes, ifanc cŵl? Yn amlwg mae eu plant, yn Ysgol Prestatyn,
angen eu trochi mewn pethe Cymraeg cyfoes.
Lle od, ang-nghymreig, anghyfarwydd. Tref a ddatblygwyd gan
Henry Pochin (Bodnant) gyda dyfodiad y rheilffordd yn y cyfnod Fictoraidd.
Fuodd na rioed ddim byd Cymreig am y lle felly. Wrth grwydo’r stryd fawr rwyf
yn taro ar draws ffowntan gofeb Henry Pochin. Dyn hynod.
Cemegydd oedd Pochin a lwyddodd i greu sebon gwyn drwy buro’r
rosin – dyna ddaeth a rhan o’i gyfoeth iddo. Llwyddoodd hefyd i ddefnyddio Clai
Tseina i greu papur o well ansawdd. Dyna’r ail ran o’r cyfoeth. Dau beth sydd
yn cael eu cymeryd yn hollol ganiataol heddiw a dau beth gafodd eu datblygu gan
y gŵr hynod yma, Henry Pochin. Gyda’r cyfoeth prynodd Stad Bodnant.
O 1874 ymlaen datblygodd y gerddi ym Modnant, Dyffryn
Conwy. Y teulu Puddle, y garddwyr, tair cenhedlaeth ohonynt, ddatblygodd y
gerddi go iawn a hynny ar ran Pochin ac yn ddiweddarach y McLaren’s er mai
gweledigaeth Pochin a’r McLarens oedd wrth waith yma.
Does fawr o ddiwylliant Cymreig yn perthyn i Bodnant
rhywsut chwaith. Hanes Cymru yndi. Cymreig nacdi. Wrth grwydro Stryd Fawr
Prestatyn mae’n amlwg fod fwy o gaffis a siopau bach boutique yma. Gwelaf yr
ochr dda a’r ymdrech ond o ran Cymreigtod mae angen, i ddyfynu Saunders, dim
llai na chwyldro.
Croeso i Gymru medda ni, ond mae angen rhywbeth gweledol,
clywedol, amlwg yn y llefydd yma.
No comments:
Post a Comment