Dyna ddiwedd ar ‘Anus of the North’ felly. Bu rhaid i Ken
Skates syrthio ar ei gleddyf canoloesol a chydnabod maint y gwrthwynebiad i’r
cylch mawr dur celfyddydol ar gyfer y dirwedd ger Castell y Fflint. Boed y
cylch yn cynrychioli gormes Edward I neu ddim fe arwyddwyd deiseb gan drso
11,000 yn gwrthwynebu.
Byddwn yn hapusach petae’r 11,000 yn eu tro hefyd yn ymweld
a chestyll Cymreig tysysogion Gwynedd ac yn ymddiddori yn yr archaeoleg a hanes
rhyfeddol sydd gennym yma yn y gogledd. Fel soniais yn fy ngholofn 9 Awst, mae
gwrthwynebu yn gallu bod yn fwy poblogaidd (neu’n haws) na dathlu a mynychu
Onibai fod yr holl beth am ‘Anus of the North’ yn ymylu ar
y trist byddai rhywun yn chwerthin yn uchel. Gwyliwch allan neu mi fydd yna
ddraig arall yn ymddangos yn un o’r cestyll. Mwy Cymreig o bosib ond yr un mor
ystrydebol. Dyma ni (eto) yn brwydro dros ail-ddehongli ac osgoi’r ystradebau.
Hen bregeth yw hon gennyf wrthgwrs, rwyf wedi bod yn dadlau fod angen i ni Gymry ail-berchnogi ein hanes ers blynyddoedd. Does dim digon yn newid drwy gwyno’n barhaol – dim ond drwy newid y naratif, newid y drafodaeth a newid agwedd mae modd i ni newid pethau.
Gall y naratif gael ei newid yn hawdd. Trwy ddathlu Hanes
Cymru ac archaeoleg Cymru, buan iawn y ni sydd yn gyfrifol am y naratif. Clywaf
ddigon yn cwyno am ddiffyg “ein Hanes ni”, ond mae hyn rhy aml ar sail fod
rhaid i rhywun arall newid pethau – byth y ni – rhywun arall.
Hyd yn oed os oedd gwrthwynebu’r cylch dur yn
angenrheidiol, rhaid peidio anghofio’r dathlu. Dal i sefyll mae cestyll
tywysogion Gwynedd, er efallai yn fwy unig na ddylia nhw fod o ran ymwelwyr o
Gymru. Esgus stepan drws ydi hi rhy aml. Rioed di bod, o hyd wedi bwriadu mynd.
Cyn unrhyw ormes gan Edward I, cyn y Normaniaid a’r Eing-Sacsoniaid
roedd y Rhufeiniaid yma. Wedi difa’r Derwyddon oddeutu 60-61 oed Crist ar Ynys
Môn. Efallai fod y Rhufeiniaid mor bell yn ôl tyda ni ddim yn gweld eu holion
nhw fel rhai gormesol nac o goncwest ond ddyna oedd y caerau i chi heb os nac
onibai. Dim ond treigliad amser sydd yn gwahaniaethu Segontium, Caerhun a
Thomen y Mur o Gestyll Caernarfon, Harlech a Chonwy.
Pob un o rhain yn rhan o broses o amgylchu Eryri – yn ein
cadw dan reolaeth, yn ein cadw yn ein lle. Efallai? Ond, dwi heb glywed cwynion
am y Rhufeiniaid eto? Cofiwch nid gormes oedd popeth. Fe gafodd ambell ffarmwr
cyfoethog ar Ynys Môn fodd i fyw o dan y drefn Rufeinig gan werth nwyddau a
chynyrch amaethyddol iddynt.
Dyna hanes Din Lligwy, y fila neu ‘blasdy’ (cytiau crynion)
Celtaidd wedi ei ddylanwadu gan dai crand y Rhufeiniaid yn ne ddwyrain Lloegr.
Ffarmwr wedi gwneud yn dda, tirfeddianwr dwy fil o flynyddoedd yn ôl yn edrych
dros ei stad yn ardal Lligwy. Chafodd hwnnw ddim ei ormesu yn sicr.
Roedd digon o statws cymdeithsol gan berchennog Din Lligwy i
fewnforio gwin yn y 3dd a 4dd ganrif. Byddai wedi byw yn gyfforddus o fewn y
muriau calchfaen pump ochrog nobl oedd yn amgylchu’r tai crynion a’r holl
weithdai. Yn y gweithdai cafwyd dystiolaeth o weithio haearn – bydda’r teulu
yma wedi gallu cynhyrchu a thrwsio arfau ac offer fferm.
Dyma chi ran o hanes amaethyddol Môn dwy fil o flynyddoedd
yn ôl, ond wrth reswm, am bob tirfeddianwr byddai cannoedd o ffermwyr cyffredin
yn llawer mwy caeth i effeithiau tywydd a threthi’r Rhufeiniaid. Y gwahaniaeth
mawr fyddai’r cyfoeth.
Cafwyd diwrnod agored fel rhan o gynllun Drysau Agored yn
Din Lligwy dros y penwythnos ar hyn oedd yn codi calon rhywun oedd faint o
drigolion Môn alwodd heibio. Dyma ddechrau ar y broses o ail-berchnogi hanes.
Er mor hyfryd a distaw yw’r safle – roedd hyn yn gyfle i drafod sut fywyd fydda
yma yn y cyfnod Rhufeinig. Roedd bwrlwm yn lle tawelwch yma dros y penwythnos.
Gall hanes fod yn ddiddorol yn sicr – y camp yw gwneud
hanes yn berthnasol. Hawdd iawn yn cynnwys ffolineb Brexit heddiw wrth drafod y
gorffennol – pobl yn symud, syniadau yn symud, rhannu diwylliannau – dyma sut
mae dyn wedi symud yn ei flaen. Fedra’i ddim gweld unrhywbeth da yn Brexit, yn
sicr nid yn wleidyddol, ond fel archaeolegydd byddwn yn dadlau fod Brexit a’r
meddylfryd Seisnig cenedlaetholgar cul hynny sydd yn ei yrru yn groes i bopeth
rydym yn ei ddysgu o archaeoleg. Symud yw ein hanes. Erioed.
Fel rhan o gynllun Drysau Agored byddaf yn arwain teithiau tywys yng Nghastell
Dolforwyn ger y Drenewydd Sadwrn 16 Medi rhwng 11am a 4pm ac yng Nghastell y
Bere ger Abergynolwyn ar Sul 17 Medi - yr un amseroedd.
Dyma fydd fy her wythnos yma. – denu mwy yno. Faint sydd
hyd yn oed yn gwybod lle mae Dolforwyn heb son amdano? Un o gestyll Llywelyn ap
Gruffudd. Pwysig iawn. Yma cododd Llywelyn ddau fys ar y Brenin Harri III gan
adeiladu castell a thref Gymreig o fewn tafliad carreg (rhyw pump milltir) o
gastell Harri yn Nhrefaldwyn.
Os fuodd yna weithred well, dychmygwch Llywelyn yn
anwybyddu Brenin Lloegr ac yn parhau i adeiladu. Ger llaw mae Rhyd Chwimau lle
arwyddwyd Cytundeb Trefaldwyn yn 1267 lle roedd Harri yn cydnabod Llywelyn fel
tywysog Cymru. Sir Drefladwyn di hyn – yn allweddol i hanes Cymru yn y 13eg
ganrif.
Dewch draw, fe gwech groeso, taith dywys a hwyl – a chyfle i
fod yn rhan o’r dathlu.
No comments:
Post a Comment