Wrth i mi eistedd lawr i sgwennu’r golofn wythnos yma rwyf yn edrych ar gyfrif trydar y grwp gwerin Cymreig Calan i weld lle mae nhw arni. Mae nhw ar eu ffordd i berfformio yn The Saint, New Jersey. Mae nhw newydd ganu yn y Cadzan yn Illinois yn y ‘mid-west’ a chyn hynny ym Mhrifysgol Lawrence Appleton, Wisconsin. Dyma chi artistiaid Cymraeg yn teithio’r Byd.
Pan fyddaf yn sgwennu am ‘ddiwylliant’ a ‘diwylliant
poblogaidd’ yn benodol mae cymaint o ddarllenwyr yr Herald Gymraeg yn dweud wrthyf
nad ydynt yn ‘dallt’ canu pop. Ond, a mae hwn yn ond pwysig – does dim cymaint
a hynny i’w ddeallt. Dychmygwch eich bod yn gwrando ar Ar Log neu Plethyn – wel
dyma chi Calan. Yr unig wahaniaeth go iawn yw ein bod yn gwrando ar Calan yn
2017.
Gwych iawn yw eu CD diweddara ‘Solomon’. Ar y CD gallwn
wrando ar ganeuon ‘cyfarwydd’ fel ‘Yr Eneth Ga’dd ei Gwrthod’ neu jigs fel ‘Ryan
Jigs’. Rwyf yn fodlon cyfaddef fod ‘Kân’ ychydig fwy heriol – mae nhw yn rapio
a rhegi, ond hyd yn oed wedyn …….
Does dim rheswm yn y byd na fedra unrhywun werthfawrogi CD
Calan. Yr hyn rwyf am ei awgrymu yw fod angen cymeryd siawns – ewch allan a
phrynnwch y CD – chewch chi ddim eich siomi, ac os cewch, mae o hyd modd sgwennu
at yr Herald Gymraeg i gwyno!
CDs arall dwi newydd brynu yw ‘Penmon’ a ‘Tân’ gan Lleuwen
Steffan. Eto, er fod naws fwy jazz i rai o’r caneuon, does bosib na all y
mwyafrif ohonnom werthfawrogi CDs Lleuwen. Safonol. Newydd ‘ddarganfod’ Lleuwen
ydw’i go iawn, a dyna pam y penderfynais brynu’r ddau CD a threulio penwythnos
cyfan yn gwrando arnynt trosodd a throsodd.
Efallai mae fy ‘ngwaith cartref’ cychwynnol oedd hyn gan fy
mod wedyn wedi bod i weld Lleuwen yn perfformio yn fyw yn Galeri fel rhan o
Annibynwyl. Dyma’r gigs cyntaf iddi berfformio gyda ei drwm-troed ‘reuddrwm’
newydd. Drwm troed, rhyw fath o focs roedd Lleuwen yn daro gyda ei thread noeth
– rhy anodd hefo sgidia yn amlwg. Synnau rhyfeddol – gwerinol, o’r ddaear.
Wrth son fy mod newydd ‘ddarganfod’ Llewuen rhaid cyfaddef
mai’r trobwynt oedd gweld Lleuwen a Sian James yn cyd-ganu yn y perfformiad ‘Llechi’
yn Pontio yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol. Rhyfeddais at eu dawn a’r ffordd
meistrolgar roedd y ddwy yn gallu chwarae hefo a rheoli eu lleisiau.
Ella na ddyliwn ddweud hyn, ond mai Lleuwen y math o
berfformwraig mae rhywun yn gallu syrthio mewn cariad a hi drosodd a throsodd
wrth wrando arni a’i gwylio yn perfformio. Gall yr un peth ddigwydd hefo Imelda
May neu yr amlwg Debbie Harry. Nid syrthio mewn cariad yng ngwir ystyr cariad
yw hyn wrth reswm ond y modd mae rhai perfformwyr yn gallu eich hudo a’ch cludo
i arall-fyd.
A dyna pan da ni yn prynnu tocynnau i gyngherddau ynde. I
gael awr neu ddwy o ymgolli mewn cerddoriaeth. Cael anghofio efallai am pa mor ‘ddiflas’
oedd ein diwrnod. Pa mor galed oedd y gwaith. Rhywun di bod yn flin neu yn gas
neu yn annymunol. Cerddoriaeth yw’r paracetamol ar gyfer y cur-pen.
Byddaf yn sgwennu am ddiwylliant achos fod diwylliant yn
bwysig. Diwylliant yw’r goriad ar gyfer y drysau caeedig. Diwylliant yw’r tanc
sydd am chwythu’r muriau. Diwylliant a cherddoriaeth sydd yn gallu achub bywyd
rhywun. Cerddoriaeth sydd yn aml yn newid bywyd rhywun. Fydd pethau byth ru’n
fath ar ôl clywed y gân neu gwylio’r grwp.
Ond does dim o hyn yn beth diethr go iawn. Rhaid fod y rhan
fwyaf o ddarllewnyr yr Herald wedi oleiaf profi’r Rolling Stones neu’r Beatles –
dyna’i gyd ydio o – yn Gymraeg !