Yn y golofn wythnos dwetha cyfeiriais at ŵyl ffilm a cherddoriaeth Psylence a lwyfanwyd yn Pontio, Bangor. Fe berfformiodd y grwp Datblygu ar y llwyfan ar y nos Wener – gan gyhoeddi mai hwn fydd eu cyngerdd olaf. Unwaith eto hoffwn ddweud fod rhywun yn byw mewn gobaith y cawn gyfle eto (rhywbryd yn y dyfodol) i weld Datblygu yn gwneud rhywbeth ar lwyfannau Cymru. Mae’r grwp bell rhy bwysig i ddiflanu am byth.
Adloniant gwahanol iawn oedd ar y pnawn Sul wrth i Dylan
Huw holi’r awdur Jon Savage. Ddyliwn ni ddim fod angen cyfeirio at hyn o gwbl a
dweud y gwir, ond mi nath Dylan Huw son sawl gwaith am artistiaid hoyw, fe
gyfeririodd at gelf ‘queer’, felly
dyma ategu Dylan Huw ychydig yma. Mae’n well gennyf ddynion hoyw na ‘hogia’
(lads) unrhyw ddiwrnod o’r wythnos a braf oedd cael cwmni Dylan a Jon ar bnawn
Sul (ar lwyfan) – doedd hwn ddim yn ddigwyddiad ‘queer’ o gwbl gan mai trafodd filmiau Jon Savage oedd y pwrpas –
ond roedd y naws yn plesio (dweud dim mwy).
Savage wrthgwrs yw awdur llyfrau fel ‘Teenage’ a ‘England’s Dreaming’ ac efallai mae Jon yw un o’r awduron mwyaf
dylanwadol yn y maes o drafod diwylliant poblogaidd / pobl ifanc, sef
Diwylliant Pop. Fel awdur mae Savage yn
un o fy arwyr. Mae Savage hefyd yn un o fy ffrindiau pennaf, ond roedd gwrando
arno yn sgwrsio ar lwyfan yn gyfle i atgoffa fy hyn pam fel hogyn yn ei
arddegau roedd erthyglau Savage yn y cylchgronau pop yn fy ysbrydoli.
Doedd na neb yng Nghymru yn sgwennu fel Savage ar ddiwedd
y 1970au, nid hyd yn oed Hefin Wyn a Hywel Trewyn yn Y Cymro a does dim dwy
waith fod arddull Savage (ynghyd a Parsons, Burchill a Morley) wedi cael
dylanwad mawr arnaf. Darllenwch fy erthyglau i’r Faner dan olygyddiaeth Emyr
Price yn 1985-86 a chewch gyfieithiaid pur neu drawblaniad pur o arddull
Savage.
Felly roedd Savage yn plesio’r dorf, a roedd digon o
wrandawyr yno ar bnawn Sul, wrth iddo drafod y ffilm Teenage oedd yn dadansoddi
bywydau pobl yn eu harddegau hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Felly hefyd wrth
iddo ddangos clipiau o’i ffilm am Brian Epstein, rheolwr y Beatles. Mewn ffordd
fe allwn fod yn gofyn – beth sydd ddim yw hoffi am hyn? – clips du a gwyn am
ddiwylliant pop ar bnawn Sul. Perffaith.
Er mai ffilmiau Savage oedd dan sylw, roedd bron yn
anorfod fod Dylan Huw yn mynd i gyfeirio at y ffaith fod Savage bellach wedi
ymgartrefu yng ngogledd Cymru a wedi troi ei gefn ar orllewin Llundain. Holodd
Dylan Huw am argraffiadau Jon wrth iddo ddod wyneb yn wyneb a diwylliant
poblogaidd Cymreig a Chymreig a does syndod mai’r grwp cyntaf y cyfeiriodd Jon
ato oedd Gorky’s Zygotig Mynci. Os bu grwp Cymraeg / Cymreig erioed lwyddodd i bonito
rhwng y ddau ddiwylliant – dyma chi un o’r rhai mwyaf blaenllaw.
Ond efallai o fwy o ddiddordeb i mi oedd sut roedd Savage
yn gweld gogledd Cymru fel meithrinfa ar gyfer magu talent – a hynny i ffwrdd o
chwyddwydr cyfryngol Llundain (neu hyd yn oed Caerdydd).
Fel dinesydd gogledd Cymru, hawdd yw gweld y
rhwystredigaethau - dim digon yn digwydd, dim digon o ganolfanau, angen popeth
yn Gymraeg OND roedd gan Savage bwynt. I ffwrdd o sŵn y Byd, i ffwrdd o’r carlamu
a’r baglu trefol/dinesig mae gennym feithrinfa hamddenol yma. Gall y dirwedd a’r
mynyddoedd, gall y diffyg poblogaeth, fod yn beth da o ran meithrin annibyniaeth
ac ysbryd annibynnol.
O’r tu allan roedd Savage yn gweld y manteision sydd yn
gallu bod yn rhwystredig os ganed rhywun yma. Diddorol. Hamddenol a jest mymryn
bach yn ‘queer’.
No comments:
Post a Comment