Llwyddodd Patti Smith i sgwennu cyfrol gyfan am yfed coffi mewn caffis a thynnu lluniau polaroid o wrthrychau ei hoff artistiaid. Y llyfr oed ‘M Train’ (2015). Gallaf feddwl am ddau reswm amlwg pam fod hyn yn gweithio. Yn gyntaf mae gan Smith y ddawn anhygoel o allu disgrifio a chreu darlun ac ymdeimlad o le mewn amser penodol ac yn ail, wel, hi di Patti Smith ynde, cyfansoddwr yr LP ‘Horses’ a chaneuon fel ‘Because the Night’, felly mae ganddi ddarllewnyr parod.
Digon o waith byddai llyfr gan awdur anghyfarwydd yn
gweithio yn yr un modd. Perthyn i draddodiad rhai fel Kerouac a’r awduron Beat
mae Smith, ac o ddeall y ‘traddodiad’ a’r ‘llinach’, mae’r broses o brosesu
geiriau Smith yn llawer mwy rhwydd. Dwi dal ddim yn hollol siwr beth mae hi yn
drio ei ddweud. Tydi hynny ddim gormod o’r ots. Mae pob pennod ganddi fel darn o farddoniaeth disgrifiadol.
Gallwn ail ddarllen llyfr Smith mewn rhyw fis neu ddau a
dwi’n siwr byddwn yn mwynhau eto, ac yn gweld golygfeydd newydd, yn clywed
synnau newydd, yn profi awyrgylchoedd newydd.
Tydi Caffi Croesor ddim o’r naws ac awyrgylch ddinesig
sydd yn gysylltiedig a’r caffis mae Smith yn ei fynychu. A dweud y gwir
byddai’n ddiddorol llusgo Smith ar daith o amgylch caffis bach gogledd Cymru, Tŷ
Mawr yn Rhyd Ddu, Caffi Sam yn Llanberis, y Gegin Fawr yn Aberdaron - a gweld
beth fyddai yn ymddangos ar ei thudalennau, pa polaroids fydda hi yn ei dynnu.
Rwyf yn eistedd yng Nghaffi Croesor yn sgwennu hwn. Yn hwyrach
y noson hon byddaf yn rhoi sgwrs yn y caffi ar Brexit, Cŵl Cymru a llawer mwy.
Gan fy mod yn rhoi sgwrs yng Nghroesor gyda’r nos penderfynais adael o adre yn
gynt gyda’r bwriad o ddringo Cnicht yn y prynhawn. Roedd y syniad yn dda ond y
tywydd yn ofnadwy.
Felly ar ôl cerdded am rhyw awr a hanner ar lethrau
Cnicht a gwlychu at fy nghroen rwyf yn newid i ddillad sych ac yn treulio’r
ddwy awr cyn fy sgwrs yn y caffi yn sgwennu ychydig ac yn mwynhau cawl cenin, tatws
a chaws stilton. Tydi stilton ddim at fy nant fel arfer ond ar Dydd Gwener y
Grogrlith oer a gwlyb, dwi ddim am ddadla a dyma fwynhau pob llwyad o’r cawl
trwchus chwilboeth.
Oleiaf ar ôl hynny roeddwn wedi cynhesu ac yn barod am fy
sgwrs y noson honno. Ceisias ddyfalu neu ddychmygu beth fyddai’n dal sywl
camera polaroid Smith. Daeth criw o ddringwyr i mewn a chlywais un ferch yn
esbonio sut byddai ychwanegu R at Croeso yn gwneud enw’r pentref, Roedd arwydd ‘Croeso’
uwchben y lle tân. Efallai mai hwn fyddai Smith wedi ei dynnu, neu y gadair
siglo wrth y tân?
Fel arfer mae’r dodrefn yn ei lluniau yn rhai sydd wedi
cael defnydd ganddi, neu yn perthyn i artist fel Frida Kahlo, felly dwi dal
ddim wedi fy argyhoeddi fod yr arwydd Croeso yn ddigon. Beth fyddw’n i yn ei
dynnu?
Dyna gwestiwn da, felly dyma grwydro’r caffi yn chwilio
am ysbrydoliaeth.Mae yna gardiau post o luniau gan Tudur Owen ar werth yma. Fo
yw mab yr enwog Bob Owen, Croesor. Cawn lun o ffens grawiau ar un cerdyn post.
Dyna fyddai wedi hawlio sylw Smith meddyliais. A dweud y gwir, dyna un o’r
delweddau cryfaf sydd i’w gael yn Eryri, o Ogwen i Nantlle.
No comments:
Post a Comment