Wednesday 19 April 2017

Brexit ac Archaeoleg, Herald Gymraeg 19 Ebrill 2017




Yn aml wrth eistedd i lawr i sgwennu fy ngholofn ar gyfer yr Herald Gymraeg byddaf yn gofyn y cwestiwn os gallaf gyfiawnhau sgwennu colofn arall am archaeoleg pan mae’r byd yn mynd mor amlwg wallgof? Gofynwyd yn ddiweddar i’r cyn Brif Weindog, Tony Blair, os oes unrhywbeth cadarnhaol am y broses Brexit, ac ar ôl seibiant hir, ei ateb oedd ‘Nagoes’.

Er gwaetha’i gangymeriadau difrifol o rhan Rhyfel Irac, dyma gael fy hyn yn cytuno a Blair, a felly hefyd hefo gwleidyddion eraill na fyddwn fel arfer yn cytuno a nhw, John Major, Nick Clegg, Kenneth Clarke. O wylio Question Time yn wythnosol mae’r ‘mob’ Brexit yn mynd yn fwy fwy ddiamynedd gyda unrhywun sydd yn gofidio am ganlyniad y refferendwm mis Mehefin dwetha.

Bellach mae’r profiad o wylio Question Time yn un poenus, mae’r ‘Little Englanders’ yn methu stopio gweiddi. Llais y Bobl. Yn fathamategol roedd ‘mwyafrif’ y refferendwm  yn un o drwch blewyn. Yn fathamategol mae hyn yn ganlyniad rhy sigledig a bregus ar gyfer penderfyniad mor bell gyrrhaeddol. Cameron ????????

Heb wrthblaid effeithiol (onibai am Sturgeon), heb lais amlwg i’r 48%, dim ond geiriau rhai fel Blair a Major sydd yn gwneud unrhyw fath o synnwyr. Pwy fydda wedi dychmygu?. A thra dwi’n cael cyfle i ymosod (colbio) ychydig ar wleidyddion, does dim golwg fod unrhywun ohonynt, yn unrhywle yn y byd, hefo unrhyw weledigaeth ar sut i ddatrys y problemau difrifol yn Syria. Yn sicr tydi creu gwagle gwleidyddol ddim yn mynd i weithio - fe ddysgom hynny o Irac a Lybia. Efallai ei bod yn haws sgwennu am archaeoleg cofiwch!

Mae yna golofn arall yn rhywle am ‘gangymeriad’ Sean Spicer a’i ddiffyg gwybodaeth anghredadwy am Hanes yr 20fed ganrif. Mae fy nghamgymeriad ffeithiol i yn y golofn wythnos dwetha yn teimlo yn fach iawn a chymharol dibwys o gymharu a ‘clangar’ Spicer ond dwi hefyd yn teimlo mai gwell fyddai ymddiheuro.

Fy nghamgymeriad i oedd cyfeirio at stori Branwen fel Pedwerydd Gainc y Mabinogi. Ail Gainc y Mabinogi yw stori Branwen ferch Llŷr – dwi’n gwybod hynny! Fe gewch sbario sgwennu llythyrau i’r Herald yn fy nghywiro felly …..

Cadw at yr archaeoleg yw’r peth doeth efallai. Yn sicr i chi dyma lle dwi hapusa a mwyaf cyfforddus ac yn cael y mwyaf o fwynhad. Dwi ddim yn credu y gallwn ddygymod a’r rhwystredigaethau o fod yn wleidydd mwy na gallwn ddioddef fod yng nghwmni’r rhan fwyaf ohonnynt. Mae’r syniad o ddod wyneb yn wyneb a Hamilton yn y Cynulliad yn ormod i mi.



Wythnos yn ôl dyma dderbyn gwahoddiad gan Gymdeithas Archaeoleg Blaenau Ffestiniog i ymweld a Chwmorthin, uwchben Tanygrisiau, er mwyn ceisio dehongli beth oedd y twmpathau sydd i’w gweld ar ochr ogledd-ddwyreiniol Llyn Orthin. Roedd David Hopewell o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn gwmni i mi a buan iawn daethpwyd at y canlyniad mai gweddillion teisi mawn oedd y nodweddion yma ar y dirwedd. Roedd modd gwthio ein ffon gerdded i mewn i’r mawn heb unrhyw drafferth ac roedd y lliw du ar y ffon yn cadarnhau mai mawn oedd hyn yn hytrach na charnedd o gerrig neu pridd. Y gobaith yw y cawn wneud ychydig o waith cloddio yma yn ystod 2018 i gadarnhau mai teisi mawn yw rhain gyda mwy o sicrwydd.

Gwelir tair tas fawn amlwg ger y llyn ond wedyn o edrych yn ofalus reodd un arall yn gorwedd ger, neu hyd yn oed o dan, tomen sbwriel y chwarel tra roedd yna awgrym o ddwy das arall oedd wedi eu clirio. Roedd yn weddol amlwg, am ba bynnag reswm, fod y teisi oedd ar ôl yn rhai wedi eu gadael, erioed wedi eu defnyddio. Pam oedd y cwestiwn amlwg?
Ar ôl cadarnhau cystal ac y gallwn o ymweliad a’r olwg gyntaf mai teisi mawn oedd rhain, dyma gerdded yn ein blaen gan geisio cadw at lwybr yr hen ffordd drol ar ochr ogleddol y llyn nes cyrraedd adfeilion Cwmorthin Uchaf. Dyma’r adeilad hynaf yn y cwm gyda dyddiad dendrocronoleg o ddechrau’r 16ganrif neu 15ganrif hwyr. Archwilwyd y safle yn archaeolegol gan Bill Jones a’r criw a mae eu canlyniadau i’w gweld ar safle we cwmorthin.com

A’i teisi mawn ar gyfer Cwmorthin Uchaf neu Cwmorthin Isaf (sydd o dan y domen chwarel) oedd rhain? Braidd yn bell o’r tai oedd y farn ond wedyn efallai mai dyma lle cloddiwyd am y mawn a byddai’r mawn wedi ei symud wedyn ar ôl sychu yn agosach at y tai?

Rhaid dweud, anodd curo diwrnod fel hyn lle mae rhywun allan yn y wlad, yn cerdded mewn cwmni da ac yn ychwanegu at ein gwybodaeth / dealltwriaeth archaeolegol o dirwedd Cymru. Felly, oes, mae pwrpas sgwennu am archaeoleg yndoes. Nid rhywbeth dibwys ymylol yw hyn ond modd o wella ein dealltwriaeth o’r union lle rydym yn byw.



Er cymaint dwi’n dymuno ‘colbio’  y gwleidyddion, dwi ddim yn un am osgoi gwleidyddiaeth chwaith. Mae popeth yn wleidyddol a mae golygydd y cylchgrawn British Archaeology, cyhoeddiad Cyngor Archaeoleg Prydain, Mike Pitts, yn un arall sydd ddim yn colli cyfle i fynegi pa mor ddrwg yw Brexit i’r maes arcaheoleg.

Mae’r sector archaeoleg o fewn ein prifysgolion yn derbyn swm sylweddol o arian ERC  – sef nawdd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd – efallai cymaint a £41.5 miliwn, heb son am grantiau arall academaidd fel rhai Erasmus a Marie Curie. Ar hyn o bryd does dim sicrwydd beth fydd effaith hir dymor Brexit on dwi ddim yn gweld y ‘mob’ Brexit yn poeni rhyw lawer am archaeoleg!



1 comment:

  1. This looks of interest to me ,can I read it in English please?

    ReplyDelete