Wednesday 1 February 2017

'Cadw dy blydi chips', Herald Gymraeg 1 Chwefror 2017





Festri Capel Coch



‘Cadw dy blydi chips’, y llinell anfarwol honno gan T Rowland Hughes yn ei nofel ‘William Jones’. O bosib, yn ôl pob son, ac ar gyfer yr erthygl yma – ‘ffaith’, dyma’r tro cyntaf i ni weld rhegi mewn llenyddiaeth gyfoes Gymraeg. Rydym yn anghofio iaith liwgar Dafydd ap Gwylim am y tro felly.

Sadwrn dwethaf roeddwn yn arwain taith gerdded hanesyddol (lled seicoddaearyddol) o amgylch Llanberis ac ar ôl gadael canolfan Y Festri, dyma hel pawb at eu gilydd o flaen cartref T Rowland Hughes ar Stryd Goodman. Mewn ffordd roedd hyn yn gwneud synnwyr perffaith – dechrau hefo ‘Cadw dy blydi chips’. ‘Chydig bach o ddrama.

Er mai taith hanesyddol yn ymwneud a Chymru a’i Hanes oedd dan sylw, credaf fod ychydig bach o hiwmor yn bwysig a diolchais yn ddistaw i mi fyn hyn nad yma ganed Dafydd ap Gwilym. Fydd na neb yn cwyno os byddaf yn dweud ‘blydi’ a hynny o fewn cyd-destyn llenyddol. Wrth reswm mae gwaith T Rowland Hughes ac awduron eraill fel Kate Roberts yn glasuron yr Iaith Gymraeg a fydda na neb am eiliad yn dadlau i’r gwrthwyneb.

Boed yn ‘Traed Mewn Cyffion’, ‘Te yn y Grug’ neu ‘Y Chwalfa’ cawn ddarlun real iawn o fywyd y gymdeithas chwarelyddol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Does fawr o newid mewn patrwm bywyd – gwaith, capel, tê. Yr effaith fwyaf hir dymor ar bob cymdeithas yn ystod yr Ugeinfed Ganrif wrth reswm yw’r Rhyfelau Byd. Newidwyd bywyd cymaintar ôl y Rhyfel Mawr ac yn sicr yr Ail Ryfel Byd yw’r pwynt lle mae’r Byd Modern yn dechrau go iawn.

Fel plentyn, fel disgybl ysgol ac yn wir am flynyddoedd wedyn fel ‘rebal rock’n roll Cymraeg ifanc’, teimlais mae fy nhraed i oedd yn y cyffion. Fedrwn i ddim dygymod a llenyddiaeth oedd mor drwm a di-galon. Deallaf yn iawn fod pobl wedi dioddef tlodi enbyd ond roedd y culni Methodistaidd sych Dduwiol oedd mor ynghlwm a’r bywyd Cymraeg yn ormod i’w ddioddef ac yn anoddach byth i’w ddeall.


Rwyf yn dal i ddadlau fod y ‘ffraeo dibwys plentynaidd’ a gawn yn ‘Te yn y Grug’ er engraifft yn ddigon i mi weddi allan, ‘Cadw dy blydi llenyddiaeth, cadw dy blydi capel, cadw dy blydi Pethe traddodiadol’. Clostroffobia yw’r gair. Mae’n waeth na chulni – mae’n rhywbeth sy’n diffinio a rhywystro. Er i mi gael fy ngeni yn 1962 tu allan i’r ardal chwarelyddol, ac yn sicr dwi ddim wedi profi tlodi o unrhyw fath, mae darllen llenyddiaeth o’r fath hyd at heddiw yn dal i godi anesmwythtod arnaf.

Diddorol ynde, achos fel rhywun yn ei bumdegau, bydda rhywun yn meddwl y byddai modd drallen y pethau yma yn hollol wrthrychol ond dwi dal yn eu gweld rhyw dywyll, rhy gul – yn rhy agos i’r hyn mae rhywun wedi ‘gwffio’ yn ei erbyn dros yr holl flynyddoedd. Rhowch i mi David R Edwards, Llwyd Owen neu Euron Griffith.

Doedd y daith gerdded ddim yr achlysur i fanylu ar fy nheimladau ar effaith y gymdeithas draddodiadol gapelog sych Dduwiol ar ddiwylliant Cymraeg ond roedd yn sbardun i awgrymu fod y ‘Pethe’ yma wedi ysbrydoli cynifer ohonnom i greu tirwedd ddiwylliannol arall (amgen) yn y Gymraeg. Amser symud ymlaen.






Y pwynt nesa ar ein taith gerdded oedd stryd fechan o’r enw Srtyd Ianci (Yankee). Chefais ddim esboniad o draddiad yr enw ond eglurais fod sylwi ar enwau yn rhan anatod o grwydro’r dirwedd hanesyddol a ddiwylliannol Gymraeg / Gymreig.


Ychydig bach mwy o gerdded a fe gafodd pawb seibiant yn festri Capel Coch, y festri Art Noveau a godwyd yn 1909. Cawsom drafod nodweddion pensaerniol godidog Art Noveau yn Llanberis  a dyna chi beth braf.






No comments:

Post a Comment