Sunday 26 February 2017

Llafar Gwlad 135




Rwyf newydd gyhoeddi fy ail gyfrol archaeoleg ‘Cam Arall i’r Gorffennol, safloedd archaeolegol yng ngogledd-ddwyrain Cymru a’r gororau’ sydd fel mae’r teitl yn awgrymu yn canolbwyntio ar ardal Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys. Neu oleiaf gogledd Powys, da ni ddim yn cyrraedd Sir Frycheiniog yn y gyfrol hon (Cyfrol 3 efallai?)  ond daw dyfyniad gwych Mike Parker o’i lyfr Real Powys, 2011, (Seren) i’m meddwl bob tro byddaf yn trafod y canolbarth.

Cyfeirio at Llandrindod fel cyrchfan cynadleddau sydd “yr un mor anghyfleus i bawb” wnai Parker. Wrth reswm does ganddo ond geiriau da go iawn am nodweddion hanesyddol Llandrindod yn ei gyfrol ond mae’r hiwmor yma efallai yn cyffwrdd a’r rhai o’r pethau ddaeth mor amlwg wrth i mi sgwennu’r ail gyfrol hon.

Y canolbarth yw’r lle hynny rydym yn gwybio trwyddo ar yr A470. Efallai cawn baned sydun yn Machinations, Llanbrynmair, ond dim mwy na hynny. Y canolbarth yw’r diwredd hyfryd honno sydd yn cael ei ‘ail-ddarganfod’ gan y genedl bob tro mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld a Mathrafal. Ond mae yna bobl yn byw yno hefyd. Cefais fy magu yno.

Un feirniadaeth a gefais am fy nghyfrol gyntaf ar ogledd-orllewin Cymru oedd fod cestyll tywysogion Gwynedd wedi cael eu hanwybyddu. Ddigon gwir, y broblem fawr gyda’r gyfrol gyntaf oedd beth i’w gynnwys ac o ganlyniad – beth i’w adael allan. Penderfynu canolbwyntio ar y cyfnodau cyn-hanesyddol wnaethom yn y gyfrol gyntaf gan fod cymaint o safleoedd amlwg fel Bryn Celli Ddu, Barclodiad y Gawres neu Dre’r Ceiri yn haeddu triniaeth.

Ond gyda’r ail gyfrol, doedd y safloedd ‘amlwg’ efallai ddim mor amlwg a hynny. Dyma gyfle felly i edrych ar safleoedd ‘llai amlwg’ ac wrth reswm tydi ‘llai amlwg’ ddim yn gyfystyr a ‘llai ddiddorol’. Ac o ystyried y feirniadaeth a gefais am gestyll tywysogion Gwynedd dyma benderfynu yn fuan iawn yn y broses sgwennu y byddai’n werth ymdrin a chestyll Ewlo, Caergwrle, Dolforwyn a Charndochan.

Dolforwyn

Y cwestiwn amlwg wrth reswm yw faint ohonnom sydd yn gyfarwydd a’r cestyll hyn? Faint ohonnom sydd wedi ymweld a nhw? Does yr un o’r cestyll yma yn Safleoedd Treftadaeth y Byd, yr un ohonnynt yn denu 176,000 o ymwelwyr yn flynyddol fel Castell Caernarfon, yr un hefo rampau ar gyfer cadeiriau olwyn.

Cawn ‘feirniadaeth’ arall, un gyffredinol, ddigon amwys neu anelwig go iawn, fod y cestyll Cymreig wedi cael eu hanwybyddu a fod cestyll Edward 1 wedi hawlio’r holl sylw. Teimlais fod hyn yn rhywbeth oedd werth ei drafod cyn i mi ymdrin a chestyll y tywysogion.
Defnyddiais y Rhagymadrodd fel y man trafod. Dyma yr wyf yn ei ddweud am ‘anwybyddu’ y Cestyll Cymreig:

“Yn y gyfrol hon, gobeithiaf ymhelaethu ar y safbwynt Cymreig − yn sicr bydd sylw yma i’r cestyll Cymreig, sef y cestyll hynny a adeiladwyd gan y twysogion Cymreig (tywysogion Gwynedd a Phowys) yn ogystal â safleoedd diweddarach Glyndŵr. Dyma gestyll sydd wedi eu hanwybyddu − dyna i chi air dadleuol, yntê? Dywed rhai cenedlaetholwyr fod Edward I a’i gestyll yn Harlech, Conwy, Caernarfon a Biwmares wedi hawlio’r sylw i gyd, gan greu cyfle i roi y bai ar ‘rywun arall’ yn hytrach na holi pam i ni fod mor ddifater a di-hid am hanes Cymru dros y blynyddoedd.

            Gan fod cestyll Edward I yn Eryri yn Safleoedd Treftadaeth y Byd, ac yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn (dros 170,00 yn achos Caernarfon) efallai wir fod ‘yr holl sylw’ arnynt − ond chawn ni byth gwynion am y sylw (neu’r diffyg sylw) a roddir i gestyll Edward I yn Fflint, Llanfair ym Muallt neu Aberystwyth. Go brin fod mwyafrif teithwyr yr A470 hyd yn oed yn sylwi ar y domen gastell yn Llanfair ym Muallt. Gellir dadlau fod y diffyg sylw i gastell Llanfair ym Muallt felly yn enghraifft pellach o gastell yn cael ei ‘anwybyddu’, ond nid am y rheswm arferol, sef ei fod yn gastell Cymreig, ond bod llai yno i’w weld neu lai yno i fodloni’r ymwelydd cyffredin. Felly mae ’na gestyll Seisnig (a Normanaidd) yn dioddef o ddiffyg sylw hefyd!

            Rhaid derbyn bod cestyll Edward I yr un mor berthnasol i hanes Cymru â’r cestyll Cymreig; maen nhw’n rhan allweddol o hanes a rhaid wrth olwg wrthrychol a chynhwysfawr o’r hanes hwnnw os am ddeall y cyd-destun llawn. Fedrwch chi ddim dewis a dethol pa rannau o hanes i’w hadrodd heb ail-sgwennu hanes fel y gwnaeth y Sais:  ‘History is written by the victors’ meddai Walter Benjamin. Ond, fe allwn arbenigo mewn rhai meysydd, fe allwn ganolbwyntio ar agweddau gwahanol ac fe allwn ddechrau perchnogi, neu ail-berchnogi, y cestyll Cymreig.

Rhaid wrth ddealltwriaeth o Llywelyn Fawr a’r Brenin John – a rhaid wrth reswm wybod am Siwan os am ymdrin â Chymru ar ddechrau’r 13eg ganrif, ac yn yr un modd does dim posib trafod Llywelyn ap Gruffydd heb feddu ar wybodaeth am Harri III ac Edward I a chanlyniad pellgyrhaeddol Rhagfyr 1282 i ni fel cenedl.

            Rwyf yn hollol argyhoeddedig fod rhaid i ni fel Cymry Cymraeg ailberchnogi pethau - boed yn siambr gladdu, yn faen hir neu yn gestyll Llywelyn ab Iorwerth, ond yr wyf yr un mor argyhoeddedig fod cwyno am Edward I neu feio gwahanol gyrff cyhoeddus neu’r gyfundrefn addysg yn gwneud fawr mwy na hel esgusion. Dyna’r wers bob amser - ewch am dro. Ewch i Ewloe i ddarganfod castell Llywelyn ap Gruffydd - does dim i’ch rhwystro!”

Caergwrle


Rhywbeth arall oedd (a sydd) yn fy mhoeni yn fawr am y byd archaeolegol yng Nghymru yw’r diffyg Cymraeg yn y maes. Dyma rhywbeth anoddach I’w drafod achos rwyf yn son am fy ngyd-weithwyr ac yn aml fy ffrindiau, ond fedra’I ddim peidio teimlo fod hin anodd os nad amhosib gwerthfawrogi’r dirwedd hanesyddol ac archaeolegol yng Nghymru heb yr Iaith Gymraeg.

Y ddadl arferol gennyf yw fod angen dealltwriaeth o gerddi T.H Parry Williams os rydym am werthfawrogi’r dirwedd hanesyddol yn ardal Rhyd Ddu. Tydi ‘archaeoleg’ ddim yn dechrau a gorffen ar rhyw ddyddiadau penodol cyfleus. Mae olion materol dyn yn mynd yn nol  dros 200,000 mil o flynyddoedd yn achos y danedd Neanderthalaidd yn ogof Bontneywdd ger Llanelwy ond gallwn ddadlau hefyd fod graffiti diweddar o arfbais tywysogion Gwynedd ger Castell Dolforwyn hefyd yn ‘olion materol dyn’ ac os felly, o ddiffiniad, yn olion archaeolegol.

Unwaith eto dyma awgrymais o ran y diffyg Cymraeg yn y maes:

O ran y Gymraeg, rhaid bachu ar y cyfle i awgrymu fod unrhyw ymdrech i ddeall y diwredd hanesyddol ac archaeolegol yng Nghymru heb fedru’r iaith, yn anorfod yn arwain at olwg gul ar y dirwedd honno. Dwi’n dychmygu’r sefyllfa fel hyn: mae’r di-Gymraeg yn eistedd yn yr ystafell ffrynt yn gwylio teledu du a gwyn, a’r siaradwyr Cymraeg yn cael gwylio teledu lliw HD. Cymhariaeth ddigon teg – sut fedrwch chi werthfawrogi Cymru yn gyflawn heb yr iaith? Dyma her i’r holl archaeolegwyr di-Gymraeg hynny yng Nghymru: os yw Cymru mor bwysig â hynny, sut nad oes gwell ymdrech ymhlith y proffesiwn i ddysgu’r iaith?



Yn Gymraeg mae rhegi – yn Gymraeg mae ’i morio hi
Meirion Macintyre Huws

Efallai fy mod wedi camu i’r dirwedd ychydig fwy gwleidyddol y tro yma. Anodd peidio wrth drafod y castell hynod hwnnw yng Ngharndochan ger Llanuwchllyn. Bu tymor arall o gloddio archaeolegol yno Mis Medi dan ofan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a fe gâf adrodd peth o’r hanes yn fy ngholofn nesa ar gyfer Llafar Gwlad.


Anodd osgoi gwleidyddiaeth wrth drafod Castell Caergwrle, wedi’r cyfan, o yma yr ymosododd Dafydd ap Gruffudd ar gastell Penarlag a’r weithred honno ddechreuodd y rhyfel olaf rhwng tywysogion Gwynedd ac Edward I. Yr ymosodiad yma ar Benarlag sydd yn arwain yn uniongyrchol at gwymp Llywelyn ap Gruffudd  yng Ngilmeru ym mis Rhagfyr 1282 – digwyddiad pellgyrrhaeddol sydd wedi ei naddu ar isymwybod pob Cymro ers hynny.

No comments:

Post a Comment