Gwahoddiad gan Carys Jones o Rhyd-y-Glafes i ymweld a siambr gladdu Tan y Coed ger Llandrillo, Corwen ddechreuodd y detour. Bydd darllenwyr cyson y golofn hon yn gyfarwydd a hoffter Mr Mwyn a’r syniad o grwydro a chymeryd ambell detour. Felly ar ôl i ni gadarnhau, neu oleiaf awgrymu yn weddol bendant, mai siambr gladdu o’r arddull Hafren-Cotswold yw’r un yn Nhan y Coed yn dyddio o’r cyfnod Neolithig, doedd ond angen hanner awgrym gan Carys ein bod am ymweld a charreg fedd ‘yr eneth ga’dd ei gwrthod’ nes ein bod yn neidio nol mewn i’r car a fwrdd a ni am Gynwyd.
Rhaid cyfaddef, mai fersiwn y grwp gwerin amgen 9Bach yw’r
ferswin mwyaf cyfarwydd gennyf, ac yn sicr y trefniant gorau gennyf o’r ‘Eneth
ga’dd ei gwrthod’. Fel arall, chydig iawn a wyddom am hanes y gân go iawn,
felly roedd ymweld ag eglwys Cynwyd yn apeilio yn fawr.
Wrth i ni gyrraedd Eglwys Ioan yr Efengyl, dyma Carys yn
dangos llun o’r garreg fedd a’r her gyntaf oedd lleoli’r carreg o fewn y
fynwent, ond gyda’r eglwys yn ymddangos yn y cefndir yn y llun roedd y ddau
ohonnom yn sefyll wrth y garreg fedd o fewn ychydig eiliadau. Digon hawdd oedd
cael hyd iddi.
Jane oedd enw’r ferch a ga’dd ei gwrthod, a dim ond 23
oed oedd hi yn diweddu eu bywyd yn Afon Dyfrdwy. Tristwch ac unigrwydd sydd yn
cael ei gyfleu ym mhennill gyntaf y gân:
Gadwyd
fi yn unig
Heb
gar na chyfaill yn y byd
Na
chartref chwaith fynd iddo
Wedi ei gwrthod gan ei chariad a wedyn gan ei theulu (a’i
am fod yn feichiog?) roedd pethau yn ofnadwy o ddu ar Jane yn ystod mis
Gorffennaf 1868, Croeso i fyd rhagrithiol yr Eglwys a Chapeli yn y bedwaredd
ganrif ar bymtheg. Does dim sicrwydd pwy gyfansoddodd y geiriau a’r alaw.
Wrth syllu ar frithyll yn nofio yn Afon Dyfrdwy, edmygai
Jane symylrwydd bywyd y brithyll ac awchai am gael marw dan y dwr yn syml heb
neb yn ei hadnabod. Er mor hyfryd yw alaw’r gan, neu pa mor effeithiol yw
trefniant grwp fel 9Bach, does dim dwy waith fod y geiriau, o wrando yn ofalus,
yn iasoer.
Yr hyn sydd yn gwneud y garreg fedd yn fwy ‘diddorol’
wrthgwrs yw dymuniad Jane na ddylid codi carreg i gofio amdani. Diddorol hefyd
yw ymweld a charreg fedd sydd yn chwarae rhan mewn cân werin mor amlwg – mae hon
yn stori wir a mae’r dystiolaeth o’n blaen yn Eglwys Sant Ioan.
Fel gyda cymaint o ganeuon gwerin Cymreig, does dim
diweddglo hapus:
Y
boreu trannoeth cafwyd hi
Yn
nyfroedd glan yr afon
A
darn o baour yn ei llaw
Ac
arno’r ymadroddion
“Gwnewch
immi fedd mewn unig fan
Na
chodwch faen na chyfnod
I
nodi’r fan lle gorwedd llwch
Yr
Eneth ga’dd ei Gwrthod
Ond nawr te, dyma lle mae pethau yn mynd yn fwy diddorol.
Pwy yn union aeth yn groes i ddymuniadau Jane? Pryd codwyd y garreg iddi? Apel
sydd gennyf unwaith eto am fwy o wybodaeth. Apel hefyd i godi ychydig mwy o
ymwybyddiaeth am arwyddocad y garreg fedd di-nod yma yng Nghynwyd.
Sylwais ar gofnodion Archwilio ar y we, sef rhestr a
disgrifiad safleoedd archaeolegol yng Nghymru fod eglwys Cynnwyd yn cael sylw
ond doedd dim sylw o gwbl am yr ‘eneth ga’dd ei gwrthod’. Dydi’r archaeolegwyr
ddim yn gyfarwydd a’r traddodiad gwerin yn amlwg.
Gyda llaw mae siambr gladdu Tan y Coed ar dir preifat ond
mae hi i’w gweld yn glir o’r ffordd B4401 ychydig i’r de o fferm Rhyd-y-Glafes
rhwng Llandrillo a Cynwyd ac ar yr un ochr a’r afon o’r ffordd.
Ar ol gwneud rhywfaint o ymchwil yng Nghorwen a'r cyffiniau'n ddiweddar ar gyfer byrddau dehongli ces innau fy hudo gan hanes 'yr eneth gadd ei gwrthod'. Pam na aeth hi i'r clamp o wyrcws yng nghanol Corwen fel gymaint o ferched eraill yn ei sefyllfa, dyna beth hoffwn wybod?
ReplyDeleteAr ol gwneud rhywfaint o ymchwil yng Nghorwen a'r cyffiniau'n ddiweddar ar gyfer byrddau dehongli ces innau fy hudo gan hanes 'yr eneth gadd ei gwrthod'. Pam na aeth hi i'r clamp o wyrcws yng nghanol Corwen fel gymaint o ferched eraill yn ei sefyllfa, dyna beth hoffwn wybod?
ReplyDelete