Thursday 20 October 2016

Adolygiad Bendith yn Galeri, Herald Gymraeg 19 Hydref 2016





Dwi’n siwr bysa pawb yn cytuno fod ‘cadw safon’ ac yn wir ‘codi’r safon’ yn bwysig yng nghyd destyn diwylliant cyfoes poblogaidd Cymraeg ond tybiaf fod gan pawb ei farn ynglyn a beth yn union yw safon a sut yn union mae mesur hynny. Tydi ‘poblogaidd’ ddim o reidrwydd yn gyfystryr a ‘safon’ a mae achosion di-ri o’r hyn rwyf yn ei alw’r ‘nodwedd gyffredin’, y saff, y gor-syml, y ceidwadol yn britho’r dirwedd ddiwylliannol Gymraeg.

Petrusaf cyn gwneud, ond rwyf am awgrymu ein bod fel Cenedl wedi arbenigo dros y blynyddoedd mewn dyrchafu’r cyffredin a’r cymedrol yn y byd diwylliannol.  Efallai fod hyn yn mynd yn ôl i’r Noson Lawen, y Steddfod Pentref, y ddrama lleol, y gig yn y dafarn, y felltith gân actol neu yn waeth byth, yr opera roc. Yn eu lle mae rhain yn iawn. Cyfle i’r werin bobl gael perfformio. Ond, os mai’r gymhariaeth yw peldroed, peidied drysu rhwng gêm 5 pob ochr ar fuarth yr ysgol a thim Cymru yn chwarae yn Euro 2016.

Canlyniad dyrchafu’r amatur, y cyffredin a’r cymedrol yw drysu pethau. Drwy chwistrellu niwl dros y cae peldroed does neb yn gweld pwy sy’n cicio’r bel – a felly hefyd gyda diwylliant poblogaidd. Mae’n debyg y byddaf yn cael fy ngweld fel snob diwylliannol yn sgwennu hyn ond dwi’n credu ei bod yn ofnadwy o bwysig ein bod yn gwahaniaethu. Gwahaniaethu rhwng y gwir dalentog - a’r amatur sydd yn iawn yn ei le.

Felly, gan gytuno neu dderbyn fod angen croesawu pob perfformiad ac ymdrech gan yr amatur, a phob lwc iddynt, a fod cael pobl yn ymwneud a’r celfyddydau a diwylliant Cymraeg yn beth pwysig – pwysleisiaf mai cyd destun sydd yn bwysig. Mae lle i bopeth ond fod popeth yn ei le.

A gan dderbyn hefyd fod hyn oll yn fater o farn, dyma awgrymu fy mod wedi gweld un o’r perfformiadau mwyaf grymys yn ddiweddar i mi weld ers amser. Perfformiad oedd hwn yn y Galeri Caernarfon gan Carwyn Ellis o’r grwp Colorama ar y cyd ac aelodau’r grwp gwerin cyfoes Plu a cherddorion lled glasurol eraill. Naw cerddor i gyd.

Beth bynnag yw diffiniad ‘athrylith’, rwyf yn eitha sicr fod Carwyn Ellis yn un o rheini. Ers amser bellach rwyf wedi bod yn ffan mawr o ganeuon Colorama, fel yr amlwg ‘Dere Mewn’ a’r trefniant bendigedig o ‘Lisa Lan’, ond rwan dyma weld Carwyn yn ymuno a thriawd Plu i greu prosiect Bendith gan creu rhywbeth wirioneddol fendigedig.

Digon hawdd yw osgoi ystrydeb fel ‘siwpergrwp,’ achos nid dyna sydd yma, ond amhosib yw osgoi’r hollol amlwg gyda Bendith - fod yma dalentau anhygoel. Yn amlwg mae’r ffaith fod Plu yn cynnwys brawd a dwy chwaer yn creu undod cerddorol sydd yn ymylu ar y perffaith. Nid ers Linda a Roy Plethyn y gwelwyd y fath raen o ran cyd-ganu ar lwyfannau Cymru.



Caneuon ‘gwerin’ sydd gan Bendith ond fod trefniant lled glasurol a llinynnol i rai ohonnynt heb son am ambell offeryn gwahanol iawn. O ran creu y CD a’r perfformiad byw rydym yn gorfod dychwelyd at y gair ‘athrylith’. Os mai gweledigaeth Carwyn yw hyn oll, rhaid, does dim dewis, ond cydnabod athrylith wrth ei waith.


Wrth ei longyfarch ar ddiwedd y sioe awgrymais wrth Carwyn fod pob eiliad wedi cyfri. Doedd dim gwastraff a dim gor-ddefnydd yn ystod y perfformiad a felly hefyd gyda’r CD. Mae popeth yn ei le ac i bwrpas. Dyma’r peth agosaf at berffeithrwydd cerddorol dwi di glywed ers amser – efallai ers ‘Y Dydd Olaf’ gan Gwenno.


Mater o farn yn sicr – ond dyma brosiect sydd wedi dyrchafu Cerddoriaeth Gymraeg i’w briod le – yn agosach at y nefoedd!

No comments:

Post a Comment