1282 y flwyddyn dyngedfennol o ran Hanes Cymru. Dyna’n ‘1066’ ni fel Cymry Cymraeg yn sicr, (onibai am 1588). Ond mae hyn 734 o flynyddoedd yn ôl. Rwyf wedi trafod arwyddocad 1282 ar seicoleg y Cymry sawl gwaith yn ddiweddar. Mewn cyfweliad gyda gwefan Welsh Not, awgrymais fod y ffaith ein bod wedi ein ‘gormesu’ ers 1282 wedi creu rhyw fath o is-ddiwyllliant negyddol a masocistaidd ymhlith rhai o’r Cymry – dyma’r peth sydd yn cadw’r fflam yn fyw.
Rwyf hefyd wedi ymdrin a hyn yn fy llyfr nesa ar
archaeoleg wrth holi pam fod y cestyll Cymreig (sef rhai tywysogion Gwynedd yn
benodol) yn cael eu ‘hanwybyddu’. Awgrymaf yn y llyfr fod y diwylliant o gael
ein gormesu yn ein rhwystro rhag gweld a mynd am dro. Llawer haws rhoi bai ar
bawb a phopeth (a rhywun arall) nac ydi darllen map OS a mynd i grwydro.
Yr ystrydeb arferol yw fod yr holl sylw a ffocws yn cael
ei roi ar gestyll Edward I. Nawr, rwyf yn cydnabod bod elfen o wirionedd yn hyn
ond, a’r ond mawr, yw pwy sydd yn caniatau hyn? Awgrymaf yn garedig mai’n
difaterwch ni yw’r broblem fwyaf nid cyrff cyhoeddus, athrawon gwael neu hyd yn
oed gweledigaeth (neu ddim) Llywodraeth Cymru.
Os yw’n haws beio’r ‘rhywun arall’ na darllen map OS, a
dyna rwyf yn ei awgrymu, mae’n rhaid i ni ddechrau felly, geisio newid agweddau
– a hynny ymhlith y Cymry Cymraeg. Yn
aml iawn wrth drafod hyn byddaf yn gofyn y cwestiwn, ‘faint o honnoch sydd yn
ymwybodol o Gastell Carndochan?’
Rydym newydd gwblhau’r trydydd tymor o gloddio yng
nghastell Carndochan gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Dyma chi un o
gestyll tywysogion Gwynedd ar gopa bryn a chraig serth ger Llanuwchllyn. O bosib,
dyma’r castell Cymreig lleiaf adnabyddus yng Ngwynedd, onibai ein bod yn
dechrau son am gastell Cymer (lle????).
Dyma chi safle a hanner, ac wrth edrych i gyfeiriad y
gogledd-ddwyrain dros Ddyfffryn Dyfrdwy a Llyn Tegid mae’n weddol amlwg pam y
lleolid y castell yma gan dywysogion Gwynedd. Byddai’r castell hefyd wedi cadw
golwg ar y ffordd drosodd am Drawsfynydd ac Eryri, felly mae’r lleoliad yn
arwyddocaol heb son am fod yn drawiadol.
Ond, yn achos Carndochan, mae’n bur debyg na fu hir oes na
chyfnod wirioneddol llewyrchus i’r castell. Rydym yn dysgu llawer wrth gloddio
ac awgrymir dyddiad rhywbryd yng nghanol y 13eg ganrif gan ddyddiadau
radiocarbon. Oleiaf mae hyn yn y cyfnod cywir ond does dim ddigon o fanylder o’r
dyddiadau radiocarbon i allu cadarnhau 100% os mai un o gestyll Llywelyn ab
Iorwerth yw hwn ynteu Llywelyn ap Gruffudd, neu fod y ddau wedi adeiladu yma.
A beth oedd pwrpas y castell? A’i rheoli de Gwynedd a
Dyffryn Dyfrdwy oedd y bwriad. Beth fyddai’r berthynas a’r castell llawer mwy
sylweddol yn y Bere ger Abergynolwyn?
Awgrymir fod gwahanol gyfnodau o adeiladu yma. Mae’r
archaeoleg wedi dangos fod mortar gwahanol wedi ei ddefnyddio mewn gwahanol
ddarnau o’r muriau, ac o bosib, a phwysleisiaf yr ‘o bosib’ yma, fod y twr siap
D deheuol o wneuthuriad gwahanol i weddill y castell.
Cafwyd hyd i fynedfa’r castell y llynedd ac eleni fe
wnaethpwyd llawer mwy o waith cloddio ar y rhan yma o’r castell gan ddarganfod
darn syweddol o’r bwa fyddai ar un adeg wedi sefyll dros borth y castell. Y
broblem fawr gyda gweithio yng Ngharndochan a cheisio dehongli’r safle yw fod
gymaint o gerrig wedi disgyn o’r muriau a’r tyrau fel fod unrhyw weddillion
wedi eu claddu o dan dunelli o gerrig.
Gwaith caled felly, symud cerrig (trwm) er mwyn gweld
beth sydd yna, ond does dim modd disgrifio mewn geiriau pa mor wirioneddol
freintiedig yr oeddem fel criw i gael y cyfle i gloddio yma. Dyma ni yn gweld
muriau a waliau (a bwa) sydd wedi eu cuddio ers canrifoedd, dyma ni yn gweithio
ar safle a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr neu Llywelyn Ein Llyw Olaf neu’r ddau.
Nid fod angen gwneud hynny, ond bachais ar y cyfle yn
ddyddiol i atgoffa pawb ar y criw pa mor freintiedig oedda ni. Ond roedd pawb
yn gwybod hynny, pawb yn angerddol am eu gwaith a dangoswyd hynny wrth i bawb
weithio drwy’r gwynt a’r glaw mwyaf erchydus bron yn ddyddiol.
Rydym yn dechrau gweld fod gwneuthuriad y castell yn un weddol
sâl. Fe weithiais yn ystod yr wythnos olaf ar ddarn o’r twr sgwar canolog a
synnais pa mor wael oedd sylfaen y twr. Nid
dyma fyddwn wedi ei ddisgwyl o gwbl, felly mae’n rhaid i ni ystyried fod
rhannau o’r castell wedi disgyn ar ôl cyfnod y tywysogion oherwydd gwneuthuriad
y castell. Fod y mortar yn pydru neu erydu a’r cerrig yn disgyn.
Er dweud hyn, fe ddangosodd y cloddio archaeolegol fod
yna ‘batter’ ar waelod y twr canolog, sef fod y waliau yn ymestyn am allan ar y
gwaelod fel modd o gryfhau gwelod y twr. Wrth chwerthin dros banad, rhaid oedd
gofyn os oedd adeiladwyr Llywelyn yn chydig bach o ‘gowbois’?
Anodd dweud os bu i’r castell gael ei chwalu drwy ymosodiad
neu yn fwriadol neu drwy dreigl amser yn unig? Rydym wedi cael hyd i olosg
oddifewn i’r twr canolog ond cawn weld os bydd hyn yn ddigon i awgrymu rhyw
anffawd neu ymosodiad.
Yr hyn sydd yn bwysig, ofnadwy o bwysig, yw fod Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd, Cadw a Pharc Cenedlaethol Eryri yn gwneud y gwaith yma
yng Ngharndochan.Dydi’r cestyll Cymreig DDIM yn cael eu hanwybyddu!
No comments:
Post a Comment