Dwi’n dal i chael hi’n anodd gweld unrhyw fanteision o
Brexit. Rhai misoedd ers y refferendwm does fawr o ddim wedi cael ei ddweud
fyddai hyd yn oed yn cynnig llygedyn o obaith ar gyfer y dyfodol. Ar ben hyn
oll mae’n ymddangos fod Corbyn ddigon hapus i fod yn arweinydd plaid sydd am
wrthdystio ar yr ymylon yn hytrach nac arwain Llywodraeth.
Do fe lwyddodd Corbyn i chwyddo ei fandad ond dyna chi
wastraff amser llwyr oedd yr etholiad ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Pam? Doedd Owen Smith byth yn mynd i argyhoeddi. Fydd neb yn cofio amdano mewn
blwyddyn. I unrhywun fel fi a ddaeth i oedran pleidleisio yng nghyfnod Punk,
does dim gobaith fod rhywun a barf (a mwy na thebyg yn gwisgo sandalau) yn mynd
i’n argyhoeddi chwaith. Mae Corbyn yn rhy ystrydebol o’r chwith barfog fyddai’n
destyn gwawd rhaglen gomedi fel The Young Ones. Mae angen rhywun llawer mwy
siarp. Dwi’n meddwl am wleidydd mor siarp a Weller neu Strummer (neu Sturgeon a
McGuinnes). Nid cadach llestri.
Wrthgwrs dydi’r Toriaid ddim yn hiliol. Wrthgwrs dydi’r
Brexiteers ddim yn hiliol. Ddim i gyd. Ond o wrando ar Rudd yng nghynhadledd y
Toriaid hawdd fyddai drysu a dechrau meddwl ein bod yn gwrando ar ddarlith
hanesyddol. Dwi’n meddwl am y math o bethau oedd yn cael eu crybwyll ar y
Cyfandir yn ystod y 1930au. ‘Foreign’ hyn a ‘foreign’ llall. ‘British’ hyn a
‘British’ llall.
Anhygoel, angrhedadwy, brawychus. Pwy fydda wedi disgwyl
clywed iaith fel hyn? Doeddwn rioed yn ffan mawr o Cameron ac Osborne ond dwi
ddim yn credu bod nhw cweit fel Rudd, Hunt a May. Dyma ymdrech amlwg i fod yn
fwy UKIP na UKIP gan Theresa a’i Brexiteers. A does neb yna i’w gwrthwynebu.
Dyma son am fod yn hunnan gynhaliol gyda doctoriaid
Prydeinig o fewn deng mlynedd. Hunt oedd hyn. Anghredadwy. Anghyfrifol. Ac eto,
pam ddylia rhywun synnu hefo Hunt? Ond er gwaetha bygythiadau Rudd i gosbi
busnesau am gyflogi tramorwyr os na chafodd Prydeinwyr gynnig y swyddi gyntaf,
doedd na ddim golwg o Corbyn, dim siw na miw. Anghredadwy.
Felly dyma Theresa yn croesi i’r ochr arall yn gynt na
Farage yn ceisio ymddeol. Yn wreiddiol roedd rhywun yn meddwl fod penodi Davis,
Fox a Johnson yn ffordd iddi roi y bai ar y triawd doeth pan fydd yr holl beth
yn mynd yn fler. Ond na, dyma Theresa yn troi am y dde cyn i neb gael cyfle i’w
chymharu a Thatcher. Clapio mawr gan y Toriaid. Y mwya y rhethreg y mwya roedd
y clapomedr yn cyrraedd y coch.
Byddai unrhywun call yn gweld fod addewidion am gael
Gwasanaeth Iechyd wedi ei staffio’n llwyr a Phrydeinwyr yn hollol amhosib os
nad hollol afresymol. Ond, dyma’r clapomedr yn y coch ac yn aros yn y coch.
Dyma mae’r Brexiteers eisiau ei glwyed, ‘British jobs for British workers’.
Does dim synnwyr yn y peth. Heb dramorwyr o ddoctoriaid a nyrsys fydd na ddim
Gwasanaeth Iechyd.
Ond nid y gwirionedd mae’r Brexiteers eisiau ei glywed.
Dwi’n methu coelio fod May, Rudd a Hunt wedi cael dweud y fath bethau heb
achosi chwyldro. Davis, Fox a Johnson ella – mae nhw yn dweud pethau mawr o
hyd. Felly beth am gael gwared a phob doctor o dramor a fydd na neb ar ôl i’n
trin. Gadewch i’r cleifion ddioddef ond oleiaf bydd Brexit yn golygu Brexit.
Rhywsut rydym wedi cyrraedd pwynt fydda wedi bod yn
amhosib yw amgyffred blwyddyn yn ôl. Fel mae pawb yn dweud, dydi’r Brexiteers
ddim yn hiliol, ond mae’n anodd meddwl am ddisgrifiad arall addas ar eu cyfer
wrth wrando ar iaith a rhethreg fel hyn.