Wednesday 7 September 2016

Mwy ar Brexit, Herald Gymraeg 7 Medi 2016




Felly, dwi di aros tan ar ôl 5-30pm ar 31ain Awst cyn sgwennu’r golofn er mwyn gweld beth yn union gafwyd ei ddweud am Brexit yn Chequers wrth i Teresa May a’r Cabinet ymgynull am y tro cyntaf ers eu gwyliau haf (braf ar rai ynde). Sa waeth i mi fod heb drafferthu aros, dydi rhywun ddim mymryn callach go iawn.

Clywsom eisoes wrth i May ddechrau’r joban fawr yn Rhif 10 fod “Brexit yn golygu Brexit”, un o’r datganiadau mwyaf hurt, gor-syml wleidyddol a gafwyd yn yr holl broses, a mi gafwyd digon o rheini yndo fel “cael rheolaeth yn ôl” a “gwneud Prydain yn Fawr eto”, gan beri i unrhywun hefo hanner owns o ymennydd i ymateb “Iawn Teresa, ond oes unrhywun yn eich plith  yn gwybod beth mae Brexit yn ei olygu?”

Yr hyn gafwyd ar 31ain Awst oedd addewid i “wthio ymlaen hefo Brexit”, na fydd ail refferendwm ac yn fwy brawychus, na fydd y Senedd yn pleidleisio (rhoi sel bendith) dros bwyso’r botwm coch (Erthygl 50). Fe ategodd May fod “Brexit yn golygu Brexit”, rhag ofn fod unrhywun yn y Cabinet ddim yn dallt!

Y gwir amdani felly, yw mai amser a ddengys beth yn union mae Brexit yn mynd ei olygu ond dyma ni dau fis ar ôl y refferendwm a dwi ddim yn credu i mi glywed unrhywbeth o gwbl positif ynglyn a Brexit gan unrhywun? Yr hyn sydd yn frawychus yw fod pobl wedi pleidleisio ‘dros rhywbeth’ heb i neb fod yn sicr beth yw’r ‘peth’ hynny! Does neb i weld yn son bellach fod pobl wedi eu camarwain, fod arbed y £350 miliwn yn gelwydd noeth. Na, mae’n rhaid parchu barn y bobl. Ond beth os cafodd y bobl eu twyllo?

Yr hyn sydd yn fwy brawychus yw fod y Llywodraeth yn “gwthio ymlaen” heb wybod eto am beth mae nhw’n gwthio. Cawn weld felly. Anodd credu fod ni mewn sefyllfa o’r fath. Ond dyna ni, dyna lle mae’r holl beth yn ymylu ar ffars wleidyddol. Nid pleidleisio dros rhywbeth nath y mwyafrif o’r mwyafrif ond yn erbyn mewnfudwyr. Ofnaf mai dyna’r peth mwyaf liwiodd barn gormod o’r 52%. Rhaid fod Prydain / Lloegr (a Chymru yn anffodus) yn wlad fach gul, hiliol ond fod yr agweddau ychydig bach o dan y wyneb, ychydig bach o’r golwg, yn sibrwd yn hytrach na gweiddi – cyn Brexit.

Wrth ymateb ym Mis Mhehefin i bleidlais Brexit yn yr Herald Gymraeg, defnyddiais y disgrifiad ‘anllythrennog-wleidyddol’ yn fwriadol i ddisgrifio rhan helaeth o’r werin Brexiteers, yn sicr o ran y rhai oedd wedi coelio’r sloganau. Anghenfil gwahanol iawn yw’r Brexiteers ar yr adain dde eithafol – mae rheini yn gyfforddus yn eu cyfoeth ac uwchlaw unrhyw sgil effeithau fydd yn brifo’r werin Brexiteers o ran yr economi.

Anodd credu nad oes gwrthblaid ym Mhrydain ar yr union adeg pan mae gwir angen un. Pan gaiff Corbyn ei ail ethol dyna ddiwedd ar y Blaid Lafur mwy na thebyg. Canlyniad hyn fydd rhwydd hynt i’r Dde Eithafol. Anodd i May eu ffrwyno, a’n helpo!

Un arall da yn ddiweddar, o ran gor-symleiddio gwallgof, heb son am fod yn ffeithiol anghywir oedd cefnogwyr Trump yn yr USA yn gweiddi “Beth am wneud America yn groenwyn eto”. Yr ‘eto’ oedd y broblem ffeithiol, Hmmm, cyn 1492 dim ond y brodorion oedd yno. Felly yn syml iawn, cefnogwyr Trump – darllenwch hanes eich gwlad!  Beth yw hyn on KKK mewn dillad parchus? Brawychus.

Wrth sgwennu’r golofn mae gwr 40oed o’r enw Arkadiusz Jóźwik  wedi ei lofruddio yn Harlow gan gang o lanciau ifanc. Y tebygrwydd yw fod hyn yn ymosodiad hiliol. Unwaith eto, diolch Brexit. Anodd credu mai dyma Prydain 2016.


No comments:

Post a Comment