Wednesday 21 September 2016

Hen Eglwys Tanysgafell, Herald Gymraeg 21 Medi 2016




Rwyf yn hynod ddiolchgar i Valmai Lloyd am ei llythyr yn yr Herald Gymraeg (7fed Medi 2016) yn holi am fwy o hanes hen eglwys a mynwent Tanysgafell rhwng Tregarth a Bethesda. Fel arfer gyda unrhyw ymholiad ‘archaeolegol’ y man cychwyn  yw cael golwg ar safle we ‘Archwilio’, sef cofnodion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd o’r safleoedd sydd i’w cael yng Ngwynedd a Môn.

Proses weddol hawdd yw chwyddo’r map ar ‘Archwilio’ tuag at yr ardal gywir a wedyn lleihau faint o safleoedd a ddangosir drwy geisio cyfyngu ar hyd a lled y gwaith chwilio drwy awgrymu cyfnodau penodol yn y mynegai. A dyma ni, hawdd iawn, ‘ôl-ganol oesol’, a mae’r fynwent yn ymddangos gyda cyfeirnod map OS, SH 615667.



Digon anodd mewn gwirionedd yw gweld yr eglwys a’r fynwent o bell gan ei bod bellach wedi ei chuddio gan goed. Mae adeilad yr eglwys yn adfail a dim ond ychydig o’r cyrsiau isaf o’r wal sydd wedi goroesi. Saif y rhan fwyaf o’r cerrig beddi wedyn ar y llethr ychydig o dan yr eglwys. Wrth gyrraedd y fynwent cawn argraff o fynwent gron o amgylch yr eglwys ond mewn gwirionedd mae’r fynwent yn ymestyn allan islaw yr eglwys.

Gwelwn mai cerrig beddi o’r 19eg ganrif ydynt a fod y fynwent wedi dod i ben cyn ddiwedd y ganrif honno. Fel y byddai rhywun yn disgwyl mae’r cerrig beddi o lechan a mae awyrgylch od iawn yma gan fod y goedwig a’r mieri bellach wedi ennill y blaen ac yn cuddio’r fynwent fel rhyw fantell hud dros faes chwarae’r tywlyth teg.

Mae’r holl enwau ar y cerrig bedd wedi eu cofnodi gan Gymdeithas Hanes Teulu Gwynedd a gellir gweld y cofnodion yma ar safle we welshgenealogy.net

Cyfeiriodd Valmai yn ei llythyr at farwolaethau plant ifanc, yn aml rhywbeth oedd yn effeithio  teulu arbennig a chawn gofnod trist iawn ar garreg fedd y teulu Thomas, fel y ganlyn:

Er cof am Blant William ac Ann Thomas, Bryntirion. Maria, fu farw Hydref 6,1855, yn 4ml oed. Robert fu farw Mawrth 26, 1858, yn 5 ml oed. Robert fu farw Tachwedd 18, 1860 yn 1 fl a 4 mis oed. William fu faew Tachwedd 4, 1862, yn 6 ml oed.

Er i mi ymweld ar fynwent er mwyn sgwennu’r ethygl hon, rhaid cyfaddef nad wyf wedi cael digon o amser i wneud fawr o waith ymchwil pellach. Roedd marwolaethau ymhlith plant ifanc ddigon cyffredin cyn yr 20fed ganirf ond wrth edrych ar hanes trist y teulu Thomas mae rhai blynyddoedd rhwng bob marwolaeth sydd yn awgrymu mai rhesymau naturiol fyddai hyn yn hytrach nac un achos penodol o haint neu glefyd?

Dwi ddim yn siwr beth yw’r cysylltiad ac Eglwys Santes Ann, saif honno ar y ffordd am Fynydd Llandegai oddiar y B4409. Adeiladwyd yr eglwys newydd  yma, ym 1865 gan Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn, gan fod yr eglwys  wreiddiol i Santes Ann wedi ei guddio gan domen llechi Chwarel Penrhyn.



Adeiladwyd yr eglwys newydd gan J O Roberts, pensaer Stad Penrhyn ym Mryn Eglwys ger y pentref newydd ar gyfer y chwarelwyr. Trosglwyddwyd gyfrifodeb am yr eglwys i’r Eglwys yng Nghymru ym 1921 a bu rhaid i’r eglwys gau ym 1997 oherwydd i gostau cynnal a chadw fynd yn drech arnynt. Mae golwg ddigon trist ar yr eglwys a’r fynwent bellach gyda nifer o’r ffenestri wedi torri. Wrth grwydro’r ardal clywais rhyw son fod bwriad addasu’r eglwys i mewn i dŷ preifat?

Mae dwy ffordd wahanol i gyrraedd hen eglwys Tanysgafell. Os am ychydig bach o dro, byddai rhywun yn gallu dilyn llwybr Lon Las Bethesda oddiar Ffordd yr Orsaf (Station Road) ger y Cae Rygbi ym Methesda ei hyn a wedyn croesi Pont Sarnau dros yr Afon Ogwen. Ar ôl y bont mae angen dringo’r llwybr at ben y bryn (gan anelu am y ffordd B4409 rhwng Tregarth a Bethesda). Fe welwch lwybr i’r dde i mewn i’r coed ychydig cyn y giat mochyn a dilynwch y llwybr hwn yn yn ôl am yr hen fynwent ar hyd gopa’r bryn.

Fel arall gall rhywun ddilyn y B4409 o Dregarth am Fethesda a throi i’r chwith yn union cyn Stad Ddiwydiannol Coed-y-Parc, fe welwch arwydd llechan am Hendy Felin ar y troad ac arwydd llwybr troed sydd yn arwain yn syth at y giat mochyn y cyfeirias ato uchod.
Mewn gwirionedd mae angen cymorth pellach ar Valmai a minnau, mae angen gwybodaeth gan drigolion Tregarth a Bethesda arnom.

Wrth grwydro, rhaid oedd ymweld a’r garreg groes Gristnogol gynnar ger Craig y Pandy (SH 600677) sydd ar un o’r fyrdd cul i fyny am bentref Sling. Saif y garreg groes oddifewn i wal ar ochr y ffordd gyferbyn a thai Craig y Pandy. Gwelwn groes amrwd mewn sgwarun wedi ei naddu ar ben uchaf y faen sydd yn sefyll i uchedr o rhyw 90cm. A’i carreg groes ar Lwybr y Pererinion am Enlli oedd hon tybed?



Yn sicr mae hon yn faen fach ddiddorol, sydd heb gael fawr o sylw. Dim ond drwy chwilio ar ‘Archwilio’ am hanes Tanysgafell y darganfyddais eu bodolaeth. Mae darnau bach o hanes dros y dirwedd a dros y lle, ac wrth dreulio rhai oriau yn ardal Tregarth a Sling dyma hyn yn dod yn amlwg iawn. Safle arall gyfagos oedd yn rhaid ymweld a hi oedd Cromlech neu Siambr Gladdu Sling ond mae honno yn stori arall ar gyfer colofn arall.

Felly da chi bobl Pesda a’r Howgets dewch i gysylltiad er mwyn i ni gael rhoi mwy o wybodaeth i Valmai Lloyd gan ddiolch i chi o flaen llaw.

No comments:

Post a Comment