Wednesday 14 September 2016

Gwyl Rhif 6, Herald Gymraeg 14 Medi 2016






Un cyndyn iawn ydwyf fel aelod o’r gynulleidfa (unrhyw gynulleidfa), gwell gennyf fod yn brysur, yn gweithio, cefn llwyfan / ar y llwyfan – unrhywle ond yn y dorf. Felly roedd mynychu Gŵyl Rhif 6 yn beth anarferol iawn i mi wneud, rwyf wedi gweithio hefo gormod o grwpiau pop dros y blynyddoedd i hyd yn oed ystyried mynd i wylio mwy o grwpiau – a hynny er mwyn rhywbeth mor anastyriol a ‘mwynhad’.

Ond eleni, a finnau angen trafod yr Ŵyl ar fy rhaglen Radio Cymru, dyma fynychu fel aelod o’r ‘Wasg’, a wyddochi beth, gyda joban i’w wneud roeddwn ddigon hapus. “Gweithio”, dyna oedd fy ymateb i unrhywun oedd yn gofyn os oeddwn yn mwynhau fy hyn?

A dyma ddechrau hefo’r Prif Lwyfan a’r grwp cyntaf ar y pnawn Sul, Geraint Jarman. Fe wnaeth Jarman sylw o’r llwyfan cyn cychwyn fod yna “Gymraeg ar y Prif Lwyfan” a fe blesiodd hynny y ffyddloniad yn fawr. Buddugoliaeth fychan ond arwyddocaol.  

Un gair sydd i ddisgrifio Jarman, gwych. Doedd dim modd beirniadu ei berfformiad. Fe welais Jarman yn y Melkveg yn Amsterdam reit ar ddechrau’r 1980au a roedd yn ‘wych’ yno hefyd. Does fawr wedi newid mewn gwirionedd. Rydym wedi colli Tich Gwilym a mae Jarman wedi colli ychydig (nid gormod) o’i wallt ond petae rhywun yn cau ei lygaid – dyma Jarman (fel erioed) ar ei orau.




Grwp ifanc iawn yw Ysgol Sul yn hannu o ardal Llandeilo. Petae rhaid i mi roi wobr i’r grwp mwyaf addawol i mi weld yn yr Ŵyl byddai Ysgol Sul yn ennill yn hawdd. Gyda thinc o’r Smiths yn sain y band tri aelod roedd yn amlwg mae’r oll sydd ei angen ar Ysgol Sul yw chwarae tua 300 o gigs a meistrioli eu crefft a datblygu eu hyder a chrefft llwyfan. Mi ddeith hynny gyda profiad. Addawol iawn a rhaid cyfaddef fod rhain yn grwp hawdd iawn I’w hoffi.





Rwyf wedi gweld HMS Morris droeon ar S4C a rioed wedi ‘dallt’ y peth yn iawn ond yn fyw ar Lwyfan Clough ddiwedd pnawn Syl daeth yn amlwg iawn fod y band wedi elwa yn fawr iawn o gigio yn gyson. Heledd Watkins y prif leisydd oedd yr unig artist i mi ei weld drwy’r dydd wnaeth rhywbeth mor syml a gwenu ar y gynulleidfa, Roedd ei ffordd hamddenol o gyfathrebu a’r gynulleidfa yn arwydd fod Heledd a’r band bellach yn hollol gyfforddus ar lwyfan. Dyma sydd yn digwydd wrth gigio yn rheolaidd.






Prif leisydd arall sydd wedi cyrraedd y pwynt o gael ‘presenoldeb’ cryf ar lwyfan yw Iwan Cowbois. Yn wir mae perfformiadau Cowbois Rhos Botwnnog bellach mor rymys fod rhywun yn gweld band o’r safon uchaf yma, cystal ac unrhywun yng Ngŵyl Rhif 6.




Fe aeth popeth un cywair i fyny wrth i Topper ei hoelio hi gyda perffeithrwydd cerddorol ar Lwyfan Clough. Croeso yn ôl. Heb os roedd pawb yn gwerthfawrogi’r cyfle i glywed un clasur ar ôl y llall gan Topper. Mae Dyfrig Topper yn un arall sydd a phresenoldeb ar lwyfan,seren ddisglair a thalentog.




Rhaid oedd bachu’r cyfle i weld Echo and the Bunnymen mewn pabell orlawn. Bu bron i mi fethu cael mynediad. Fel Jarman mae Ian McCulloch yn dal ac yn dena ac yn gwisgo sbectol haul dywyll.O bell, mae McCulloch yn edrych yn union fel y gwelais ar lwyfan Futurama yn Leeds ym 1980.

Heblaw am Heledd HMS Morris, ychydig iawn o’r cerddorion oedd yn dweud rhyw lawer o’r llwyfan. Methais a deall mwydro Sgowsaidd McCulloch. Un pwynt, a dwi’n siwr bydd nifer yn anghytuno a mi, ond teimlais fod Jarman wedi methu cyfle ar y Brif Lwyfan i oleiaf dweud pwy oedd o yn Saesneg rhag ofn fod cynulleidfa newydd iddo ymhlith y dorf.


No comments:

Post a Comment