Llun: Shari Llywelyn
Os ydi
unrhywun o ddarllenwyr yr Herald Gymraeg yn cofio’r cerddor electronig o
Aberteifi, Malcolm Neon, (bellach yn Malcolm Gwyon yr arlunydd) fe fyddwch yn
cofio teitl un o’i ganeuon, sef ‘Pwy sy’n
gwybod beth yw Art?’. Cwestiwn da iawn, a dyma chi ofyn yr union gwestiwn
yn ddiweddar wrth i mi gael gwahoddiad i Nant Peris i fod yn rhan o ddigwyddiad
celf yn dwyn yr enw ‘Digging Down’.
Yn ôl y
gwahoddiad gefais, roedd y digwyddiad yn cynnwys elfennau o archaeoleg,
gwyddoniaeth, hanes lleol, celf, cerddoriaeth a pherfformiadau felly doedd dim
angen meddwl ddwywaith cyn derbyn y gwahoddiad
Rwan ta, os
dwi’n dweud fy mod i a’r gwaheddedigion eraill yn “rhan” o’r digwyddiad, dydi
hynny ddim yn cyfleu y cyfan. Roeddwn i a’r dwsin arall hefyd yn gynnulleidfa o
fath, yn profi y digwyddiad ac yn lygad-dystion. Ond roeddem hefyd yn cymeryd
rhan. Fe egluraf yn y man.
Roedd yr holl
‘ddigwyddiad’ wedi ei drefnu ar ffurf y ‘Swper Olaf’ ac yn cymeryd lle mewn hen
ysgubor yn Nant Uchaf. Felly dyma ni yn eistedd o amgylch y bwrdd ar gyfer
gwledd o fwyd wedi ei baratoi gan Gert Vos, Oren, Caernarfon. Bellach mae Oren
yn gyfrifol am drefnu bwytai neu gaffis ‘Pop-Up’ yn wythnosol rhywle yn Eryri.
Fel arfer os
ydi rhywun yn cyfeirio at fwyd fel ‘gwahanol’ neu fel ‘diddorol’ mae rhyw
awgrym yna fod rhywun heb ei blesio, fod y bwyd ddim at y dant go wir, ond yn
yr achos yma roedd y bwyd wirioneddol yn
‘ ddiddorol’ ac yn wirioneddol ‘wahanol’ – ac yn fendigedig oherwydd hynny.
Profiad a hanner oedd blasu’r bwyd, gan gymeryd pwyll i fwynhau ac mewn ffordd
i arbrofi gyda’r broses o fwyta. Bwyd naturiol iawn gyda cymhwysion ‘gwyllt’
oedd ar y fwydlen.
Ein diod, er
engraifft, oedd sydd grug, yn blasu fel
y mynydd a’r pridd ond hefyd yn flodeuog – dyma ’lemonade’ cyntefig. Bron yn
ddigon i’n cludo yn ôl i’r Oes Efydd. Tra reodd y gwahanol gyrsiau yn cyrraedd
ein bwrdd dan ofal Gert, roedd y perfformaid yn mynd yn ei flaen. Rhan bwysig
o’r noson, rhan o’r perfformiad efallai?, oedd y drafodaeth.
Nawr ac yn y
man byddai’r perfformwyr yn taflu rhyw gwestiwn neu yn gosod rhyw ddamcanaieth
ger ein bron. Wedyn, roedd rhwydd hynt i ni (fel cynnulleidfa) ymateb, i
drafod, i greu dadl. Cyn bo hir bydd yr Hen Sgubor yn cael ei drawsnewid i fod
yn gartref gwyliau – oedd y ffaith yma yn rhan o’r holl ddigwyddiad, yn
fwriadol er mwyn ennyn trafodaeth? Cwestiwn da arall.
Ond roedd y
gwesteion yno hefyd i fod yn ‘guinea
pigs’ bach i’r holl brosiect. Wedi derbyn ychydig o nawdd gan gynllun
‘Waleslab’ drwy’r Theatr Genedlaethol, roedd elfen o arbrofi ar y noson, i weld
sut mae’r prosiect yn ffurfio a datblygu, i weld lle ddylia’r prosiect fynd
nesa. Nid cynnulleidfa draddodiadol oedda’ni felly ond rhan o’r broses
ddatblygu.
Mwynheais yn
fawr iawn ganu a barddonaieth ddwy-ieithog yr ymryddawn Sam Fox, yn ogystal a’i
chyflwyniad ar y delyn. O Gymmoedd y De daw Sam a mae hi i weld yn perfformio
fwy yn Ewrop nac yng Nghymru. Cafwyd synnau cefndir i’r noson ac ar adegau
diffodwyd y goleadau gan ein gadael i fyfyrio yn syn yn y tywyllwch, tywyllwch
llonydd a distaw Nant Peris.
Yr artist
oedd yn gyfrifol am hyn ôll oedd Lindsey Colbourne a’r cysylltiad archaeolegol
yw’r ffaith i Lindsey fod yn ‘cloddio’ ychydig yn y domen sbwriel Fictoraidd
iddi ddarnganfod yng nghefn ei gardd. Poteli megis y rhai ‘Cod’ gyda marblen,
‘Hamilton’ gyda’r gwaelod pigog / crwn a’r rhai yn dal gwenwyn gyda’r asennau
ar eu hyd yw rhai o’r pethau mwyaf cyffredin i ddod allan o’r domen. Wrth reswm
cafodd Lindsey gannoedd ar gannoedd o ddarnau o lestri ond hefyd yn ddiddorol
iawn cafwyd sawl darn o ‘ddoliau-China’, sef rhai wedi eu gwneud o’r clai
caled.
Felly y
gwrthrychau sydd wedi ysbrydoli Lindsey. Ymateb i’r ‘pethau’ bob dydd yma, oedd
ar un adeg yn perthyn i’r teulu Williams oedd yn byw yma yn hen fwthyn Coed
Gwydr, wnaeth Lindsey i greu digwyddiad aml-ddisgyblaeth.
Cyn i ni
eistedd am y ‘Swper Olaf’ gwahoddwyd ni oll i weld y domen sbwriel ac i ddewis
ambell ddarn neu gwrthrych a dod a nhw hefo ni, gan eu gosod ar y bwrdd swper –
eto yn y gobaith o ysgogi trafodaeth. Efallai fod ambell i ddarllenydd yn
gwingo yn ei sedd erbyn hyn, gallai’r math yma o ‘ddigwyddiad’ lithro i ryw
arall-fyd celfyddydol mewnblyg ac ymhongar tu hwnt. Ond nid digwyddiad felly
ddatblygodd ar y noson.
Roedd pawb
gyda ddigon o ddiddordeb yn y ‘digwyddiad’ i wneud pethau weithio, i ymuno ac
yn sicr i drafod /ddadlau. Gyda ychydig o ysbryd mentro, ac ymwrthod a
sinigiaeth naturiol am bethau fel hyn roedd hon yn noson bleserus iawn. Rhaid
canmol yr artist, Linsey, am guradu’r holl beth mor gelfydd, ac am gadw elfen
Gymreig iawn, lleol iawn a thirweddol iawn i’r holl beth.
Dyma
ddigwyddiad oedd, nid yn unig yn perthyn i le, ond oedd wedi ei sbarduno gan
wrthrychau hanesyddol, olion materol rhywun oedd wedi byw yn y lle dros ganrif
yn ôl. Fy marn i ar bethau oedd fod hwn yn wych gan fod Lindsey wedi creu
digwyddiad celfyddydol heb gyfaddawdu i unrhyw elefen o gelf-ddinesig-drefol.
Roedd y digwyddiad yma o’r wlad ac yn y wlad. Dyma ddigwyddiad celfyddydol
diddorol a gwahanol – a hynny yn yr ystyr gorau.
Llun: Shari Llywelyn
No comments:
Post a Comment