Rwyf angen sgwennu erthygl am ddiwylliant yr wythnos hon. Fe
ddigwyddodd rhywbeth ychydig dros bythefnos yn ol, sydd, wedi crisialu’r hollol
amlwg, ond weithiau mae rhaid i rhwyun gyflawni’r hollol amlwg er mwyn gwneud
neu brofi’r pwynt.
Gwyl o’r enw ‘CAM15’ oedd y digwyddiad arbenig yma, wedi ei
lwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm yn Nghaerdydd. O ran hanes, fe ddyliwn roi y
lleoliad fel ‘Tiger Bay’, onid fandaliaeth ddiwylliannol oedd cael gwared a’r
fath enw, sydd a chysylltiad a’r treftadaeth ddiwydiannol, y dociau Bute ac yn
cynnwys cyd-destyn a chefndir y gantores Shirley Bassey ?
Gwyl i ddathlu cerddoriaeth electronig oedd CAM15, felly y
ffordd ora o egluro hynny yw fod yr holl gerddorion yn chwarae allweddellau neu
gyfrifiaduron. Doedd dim gitars yn yr adeilad (siwr fod yna eithriad gan y
cerddor R. Seiliog). Roedd sawl peth yn bwysig am y diwgwyddiad yma, a fy
mwriad drwy gyfrwng y golofn yw ceisio amlinellu rhai o’r pwyntiau yma.
Yn gyntaf, roedd hwn yn wyl wedi ei leoli yng Nghymru ond
gyda naws rhyng-wladol. Roedd un o’r panelwyr, yr awdures Agata Pyzik, o Wlad
Pwyl, hi yw awdur y llyfr Poor But Sexy:
Culture Clashes in Europe East and West'. Cerddor arall oedd yn cymeryd rhan oedd y Bwyles,
Ela Orleans, sydd bellach yn byw yn Glasgow. Felly pwynt un, yw’r elfen
Rhyngwladol.
Yr ail beth amlwg yw fod hon yw Wyl Gymreig hefyd, o ran naws-am-le a
chyd-destyn, gyda’r Gymraeg yn hollol amlwg. Nid digwyddiad ‘Cymraeg’ felly,
ond y Gymraeg yn bodoli ac yn cael ei weithredu yn y cyd-destyn ehangach –
Ewropeaidd. Wedi’r cyfan mae Caerdydd yn brif-ddinas Ewropeaidd ei naws
bellach.
Hoffwn awgrymu fod yr ‘arbrawf’, Cymraeg yn unig bron a bod drosodd.
Mae lle i ddigwyddiadau un-iaith Gymraeg (fel yr Eisteddfod) yn sicr ond yn y
cyd destyn yma, ac i bob pwrpas gyda cerddoriaeth, sydd yn iaith ryngwladol,
does fawr o synnwyr i’r peth bellach. Ac i geisio cyfiawnhau hyn hoffwn drafod
llwyfannu y grwp Datblygu am y tro cyntaf ers ugain mlynedd.
Yn eu dydd roedd y grwp pop arloesol Cymraeg, Datblygu yn
‘chwyldroadol’, erbyn heddiw mae nhw yn ‘ddylanwadol’, o bosib un o’r grwpiau
Cymraeg mwyaf dylanwadol erioed yn ol Gruff Rhys o’r Super Furry Animals. Yn eu
dydd roedd cryn gwrth-daro yn gysylltiedig a gigs Datblygu, a hynny o bob ochr,
grwp a chynulleidfa ond ar y noson hon mae dros 500 wrth eu bodd hefo pob nodyn
gan Pat Morgan a phob gair gan David R
Edwards.
Son am newid Byd. Dyma Datblygu yn cael parch. Cynulleidfa ifanc,
gelfyddydol yr olwg oedd rhain, yn gymysgedd o Gymry Cymraeg a di-Gymraeg ond
hefyd rhai wedi teithio o bell. Doedd yr iaith ddim yn ‘broblem’ ac eto roedd
yr iaith yn ganolig, yn holl bwysig i fodolaeth Datblygu, heddiw a ddoe.
Dyma lle ddylia cerddoriaeth Gymraeg fod, ar y llwyfan rhyngwladol, a’r
dyddiau yma mae hyn yn fwy amlwg nac erioed o’r blaen gyda 9Bach yn ennill
gwobr albym y flwydyn yng Ngwobrau Gwerin Radio 2, Super Furry’s yn ail ryddhau
‘Mwng’ a Gwenno newydd arwyddo gyda Label Heavenly ac ar fin ail-rhyddhau ei CD
uniaith Gymraeg.
‘Parch’ oedd y gair mawr. Dyna’r brif argraff gefais o fynychu CAM15.
Roedd pawb yn cael eu parchu ond doedd dim angen dwueud hynny. Y curadur oedd y
gantores Gwenno ac wrth sgwennu adolygiad ar gyfer Blog link2wales awgrymais
fod Gwenno wedi sgwennu pennod newydd, yn sicr o ran hanes Datblygu. Pennod
llawer gwell na’r un dwetha.
Llongyfarchiadau felly i wyl Cam15, am wneud beth oedd ei angen, yr hyn
sydd mor amlwg go iawn.
Dyma'r Adolygiad yn link2wales
http://link2wales.co.uk/2015/crudblog/datblygu-gwyl-cam-millennium-centre-cardiff/
No comments:
Post a Comment