Yn ddiweddar, bu cyfarfod y Gwanwyn, Cyngor Archaeoleg Prydain / Cymru ym Mhlas y Brenin, Capel Curig. Does dim modd osgoi’r golygfeydd godidog dros Llynnau Mymbyr a beth bynnag arall oedd Pennant (caethweision a phlanhigfeydd siwgwr) roedd yn amlwg yn dallt y dalltings o ran tirwedd a lle i adeiladu’r ‘Capel Curig Inn’ ym 1801. A, fel sydd yn arferol, os nad anorfod yn ystod y 19ganrif, bu i Fictoria ymweld a’r gwesty a dyma ail-fedyddio’r ‘Inn’ yn ‘Royal Hotel’.
Heddiw fel
canolfan fynydda, mae’r lle yn llond ‘dringwrs’ a’r ddadl fawr ymhlith y Cymry
Cymraeg sydd a diddordeb yn yr awyr agored a’r diwredd hanesyddol Gymreig yw
faint, os o gwbl, mae’r holl ‘ddringwrs’ yn ddallt am gyd-destyn y llefydd mae
nhw’n ei ddringo. A ydynt hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yng Nghymru
(tebygol), yn ymwybodol o’r Iaith (anhebygol) ac hefo unrhyw ddiddordeb yn y
diwylliant lleol /brodorol / hanesyddol / Cymraeg (cwestiwn da).
Ta waeth am
hynny, tra roedd y ‘dringwrs’ allan yn y mynyddoedd roedd criw brwdfrydig o archaeolegwyr a dinasyddion gogledd Cymru wedi dod i wrando
ar sgyrsiau, a dyma lle mae modd dadlau pam mor berthnasol oedd y diwrnod yma i
NI Gymry Cymraeg.
Y sgwrs
gyntaf a gafwyd oedd gan Frances Richardson ar sut y bu i dirfeddianwyr ac
amaethwyr a fferwmyr llai cefnog, ymestyn eu gweithgareddau i’r Ucheldir yn y
cyfnod 1500 -1900. Dyma olwg wahanol ar y cysyniadau a damcanaiethau arferol.
Awgrymid er engraifft, fod rhai o’r hafotai, sef y cartref dros dymor yr Haf yn
draddodiadol, wedi datblygu i fod yn gartref drwy’r flwyddyn mewn rhai achosion.
Mynegwyd o’r
llawr gan Peter Crew, cyn archaeolegydd Parc Cenedlaethol Eryri, fod olion
aredig i’w gweld o’r awyr, sydd yn llawer uwch na fyddai rhywun wedi ei
ddisgwyl. Hynny yw, mae ein dealltwriaeth o’r dirwedd fynyddig a’r ucheldir yn
parhau i ddatblygu ac i ymestyn. Wrth reswm roedd Pennant a’r Penrhyn yn cael
sylw fel cymaint eraill o’r tirfeddianwyr oedd yn ymestyn eu tirroedd drwy
briodas. Ond hefyd, roedd y tirfeddianwyr yn ychwanegu at eu stadau drwy “ddwyn”
tir o’r Goron – dim byd newydd felly – y Toriaid o hyd yn hunnanol.
Sgwrs arall
hanfodol oedd yr un ar ardal chwarelyddol Cwmorthin a hen dy Cwmorthin Uchaf yn
benodol gan Bill Jones o Gymdeithas Hanes Dolwyddelan. Son oedd Bill am
ymdrechion criw bach brwdfrydig yn ardal Blaenau a Thanygrisiau i wneud gwaith
cynnal a chadw ar yr hen dai a’r capel yng Nghwmorthin. Archaeoleg Diwydiannol,
fel soniodd Gai Toms / Mim Twm Llai / Anweledig – ‘mae’r lechan yn fy ngwaed’.
Cymry Cymraeg
yw’r criw sydd wrthi yng Nghwmorthin, criw lleol, y werin bobl – nid ysgolheigion
na phobl ddwad hefo ‘tatan yn eu ceg’. Does gennyf ond y parch mwyaf atynt, am
fynd ati i wneud rhywbeth am gyflwr yr hen dai, heb gwyno, heb ddisgwyl am
gymorth, heb ddisgwyl i rhywun arall arwain.
Tanniodd Bill
ddychymyg y gynulleidfa a chafodd ymateb gwresog wedyn gan rai o’r
archaeolegwyr proffesiynnol oedd yn bell ar ei hol hi o ran y math o wybodaeth
lleol a ddiwylliannol feddai Bill. Un o’r pethau mwyaf diddorol gan Bill, oedd
fod modd dyddio rhai o’r tai drwy astudio’r math o lif a ddefnyddiwyd i dorri’r
llechi. Hynny yw rhaid bod y llif yn bodoli (wedi ei ddyfeisio) cyn adeiladu’r tai os yw’r marciau llif i’w
gweld ar ochr y llechi. A dyna sut mae modd rhoi dyddiad bras i rai o’r hen dyddynod
yma.
Y pwynt arall
am CBA/Cymru yw fod hwn yn gorff lle mae’r aelodau yn mynegi barn ac yn trafod
anghenion archaeolegol a’r dirwedd adeiladol yng Nghymru. Un gair – perthnasol
!
No comments:
Post a Comment