Yn y llyfr ‘Rise of
the Super Furry Animals’ gan Ric
Rawlins (2015), mae’r grwp roc Cymraeg buais yn aelod ohonno, sef yr Anhrefn,
yn cael eu disgrifio fel hyn: “Anhrefn
were one of the most inspirational groups around – proactive, subversive,
almost Dadaist in their sense of humour”. Rwan ta, dwi rioed di sgwrsio
hefo Rawlins felly dwi’n cymeryd fod y darn am ‘Dadaists’ wedi dod gan Gruff
Rhys, canwr y Super Furry’s.
Rwyf i o hyd wedi son am fy ysbrydloliaeth celfeddydol fel
un sydd wedi deillio o weithgareddau y ‘Situationists Internationale’ yn ystod
chwyldro Mis Mai 1968 ym Mharis a’r maniffestos celfyddydol a fabwysiadwyd o
ganlyniad i hyn gan bobl fel Vivienne Westwood, Malcolm McLaren a Jamie Reid.
Felly dyna chwa o awyr iach cael ein disgrifio fel ‘Dadaists’ yn hytrach na
‘Situationists’. Cofiwch yn llyfr Mick Middles ar y grwp Manic Street Preachers
cefais fy nisgrifio fel “a benign rebel”.
Gadewch iddynt sgwennu medda fi …….
Ond, pam son am hyn o gwbl? Wel, mae’r Super Furry Animals
yn ol ar ol chwe mlynedd o seibiant a dyma wahoddiad gan y grwp i fynd i’w
gweld yn perfformio yn yr Albert Hall, Manceinion. Dyma dderbyn y gwahoddiad
ond doeddwn ddim wedi disgwyl ein bod am gael seddau yn yr ardal VIP, gyda
rhaff goch yn ein gwahannu o’r “werin bobl”. OK mi oedd lle i eistedd, ac OK mi
roedd yr olygfa yn well, ond dwi rioed di bod yn hollol gyfforddus hefo pethau
fel hyn.
Digwyddydd rhywbeth tebyg ar ol rhoi sgwrs neu ddarlith
weithiau, lle mae’r siaradwr yn cael bechdannau a phanad ar y bwrdd top a’r
gynulleidfa arwahan yn “llwgu”. Eto, dwi’n falch o fechdan a phanad, peidiwch a
cham ddallt, ond dwi hefyd yn teimlo rhyw ysfa i rannu’r bechdannau !
O ran cyngerdd y Super Furry Animals dyma berfformio ‘Rings
Around The World’, ‘Hello Sunshine’ a ‘Ice Hockey Hair’ felly dyma deithio adre
o Fanceinion yn hapus, doeddwn ddim angen dim mwy o’r ddwy awr. Mae’r dair gan
yna ymhlith fy hoff ganeuon erioed (hawdd i’w blesio). Yn ystod ‘Hello
Sunshine’ dyma’r grwp yn dod i ben rhy gynnar, a’r gynulleidfa yn bloeddio canu
cyn i’r grwp ail-afael yn y gan.
Dyma’r unig awgryn o hiwmor Dada-istaidd gafwyd yn ystod yr
holl gyngerdd. Braf gweld y grwp yn gally tynnu coes ychydig – achos mae hynny
o hyd yn bwysig. Ond wrth i’r grwp ddechrau ar y toriad cerddorol (bwriadol)
yma yn ‘Hello Sunshine’ yr unig beth oedd yn mynd drwy fy meddwl oedd fod y
llinell orau heb ei chanu eto. Peidiwch a gofyn pam, ond pan mae Gruff Rhys yn
canu “You’re a disgrace to your country”
rwyf yn teimlo gwefr. Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod am beth mae o’n son ond
mae’n linell fendigedig.
Yr achlysur dros ddod yn ol at eu gilydd i berfformio oedd
ail ryddhau y record hir Gymraeg ‘Mwng’ a hynny ar label recordio uchel eu
parch Domino. Ddeng mlynedd ar ol ei ryddhau yn wreiddiol, dyma gyfle arall i
brynnu ‘Mwng’ ar feinyl. Dyma’r record hir Gymraeg sydd wedi gwerthu mwya o
gopiau erioed. Dros 50,000. Rwan mae ‘Mwng’ yn mynd i werthu mwy byth.
Rydym yn son am record Gymraeg sydd wedi gwerthu dros y Byd,
felly un peth mae’r Super Furry’s wedi ei wneud o ganlyniad, yw cyflwyno’r
Gymraeg i lefydd hollol newydd. Cyflawnwyd rhywbeth tebyg drwy berfformio yn
fyw hefyd wrthgwrs.
Os gwelsoch y rhaglen ddogfen ‘Super Furry Animals’ ar S4C
yn ddiweddar, fe glywsoch sawl aelod o’r grwp yn trafod y “drafodaeth” fu wrth
iddynt ddechrau canu yn Saesneg yn ol yng nghannol y 1990au. Fe glywsoch am y
penderfyniad Dada-istaidd i berfformio ‘Mwng’ yn fyw yn Siapan ac America ond ddim
yng Nghymru. Dwi’n credu i un ohonnynt yn ystod y ddogfen gyfeirio at y Byd
Cymraeg fel ‘ghetto’ . Roedd yr holl ddogfen yn eitha Dada-aidd a da o beth
mewn ffordd, ac eto dwi’n siwr fod darllenwyr yr Herald Gymraeg yn gofyn “Am
beth mae nhw’n son?”
Diddorol ynde, achos dwi’n eitha sicr fod ‘triniaeth pobl
ifanc’ mwy neu lai yn golygu fod yr iaith yn anealladwy wedyn i’r rhai sydd dim
yn ei siarad. A dyma ni, pawb yn siarad Cymraeg ond mae mwy nac un iaith yn
mynd ymlaen yma. Weithiau mae’n bwysig fod yr hyn mae’r Super Furry Animals
wedi ei gyflawni yn cael ei ddweud mewn iaith arall i’r un Super Furryiaidd.
Mae nhw wedi cyflawni rhywbeth anhygoel fel grwp Cymreig ac aml/achlysurol
Gymraeg.
Da o beth fod S4C wedi darlledu rhaglen o’r fath. Diddorol
fod yr amseru mor berffaith. Jest cyn taith y Super Furry’s. Mae angen dipyn o
lwyddiant yn Llundain, Lloegr, America, Japan ac unrhywle arall heblaw Llanrwst
i gael y math yna o ddylanwad ar S4C.
A beth am y Byd Pop Cymraeg? Wel, mae elfennau dal yn geidwadol,
mewnblyg hyd yn oed pan yn ddwy-ieithog. Rhaid cyfaddef i mi dreulio rhan
helaeth o’r ddogfen Super Furry Animlas yn gweiddi ar y teledu (fel mae
rhywun). Does dim byd chwyldroadol ym maniffesto y Super Furry’s, bu Ar Log er
engraifft yn teithio yn rhygwladol, ond mae’r Furry’s wedi cael llwyddiant
masnachol sydd wedi caniatau iddynt weithio ar lefel uwch a chyda cefnogaeth
ariannol i wireddu syniadau (Dada-istaidd).
Y rhai sydd wedi dysgu gwers y Super Furry’s yw artistiaid
fel 9Bach, H Hawkline a Gwenno – yr un ohonnynt yn grwp gitar traddodiadol!