Wednesday 2 July 2014

John Evans, Waunfawr v Gruff Rhys Gwyl Lenyddiaeth Dinefwr Herald Gymraeg 2 Gorffennaf 2014.


 

Ganed John Thomas Evans yn Waunfawr ym mis Ebrill 1770, wrth droed Moel Eilio ond doedd dim arwydd o gwbl yn ystod ei ieuenctd cynnar mae hwn fydd y dyn fydd yn ddiweddarach yn archwilio’r Unol Daliaethau gan chwilio am y brodorion oedd yn siarad Cymraeg – llwyth y Mandan.

            Efallai mae anturiaethwr neu fforiwr yw’r disgrifiad gorau o Evans, rhyw fath o Ranulph Fiennes y ddeunawddfed ganrif ond mae gan Evans well stori na Fiennes, a mae’r stori yn mynd yn ol i Madog, un o feibion Owain Gwynedd. O ddiddordeb i ni yma yng Ngwynedd wrthgwrs mae safle Tomen Castell, Dolwyddelan – fe all hwn fod yn fan geni i Madog a’i nai Llywelyn ab Iorwerth hefyd – cyn i ab Iorwerth adeiladu y castell o gerrig, Castell Dolwyddelan yn y 1220au.

Chwaraeodd ein hen gyfaill Iolo Morganwg ran yn y stori hefyd, mae’n debyg mae Iolo sydd yn perswadio John Evans i fynd drosodd i’r Unol Daliaethau – i ddarganfod y Mandan Cymraeg. Er ei holl ddamcanaiethu a brwdfrydedd am yr antur dydi Iolo ddim am deithio, mae’n aros adre a gadel i John Evans deithio ar ben ei hyn.

            Dyma ddechrau felly ar anturiaethau John Evans, mae’n cyrraedd Baltimore ym mis Hydref 1792 ac erbyn y Gwanwyn, 1793,  mae wedi cyrraedd St Louis lle mae’n treulio cyfnod yn y carchar gan i’r Sbaenwyr amau ei fod yn ysbiwr. Rhaid bod ganddo berswad da, achos erbyn Ebrill 1795 mae Evans yn ymuno a’r Sbaenwyr i ddilyn cwrs y Missouri ac i chwilio am ffordd dros y tir at y Mȏr Tawel. Hyd at heddiw mae map Evans o’r Missouri yn cael cydnabyddiaeth fel yr un a ddefnyddiwyd gan Lewis a Clark ar eu harchwyliad nhw ym 1840.

            Bu farw Evans yn New Orleans ym 1799, ddaeth o ddim yn ol i Waunfawr. Dyna chi stori. Yn anffodus i Evans, Iolo Morgannwg a ni yma yng Nghymru daethpwyd ddim o hyd i unrhyw frodorion yn siarad Cymraeg. Fel Nessie, a hyd yn oed Teggie (bwystfil Llyn Tegid), UFO’s a ‘ley lines’ Alfred Watkins (The Old Straight Track) rydym isho credu, rydym yn dal i gredu hyd yn oed yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth. Rydym yn credu achos ei fod yn fwy o hwyl na peidio credu.

            Penwythnos dwetha roedd y cerddor o Fethesda, Gruff Rhys yn cyflwyno ei sioe ‘American Interior’ yng Nghwyl Lenyddiaeth Dinefwr, sioe sydd yn cynnwys caneuon, sgwrs a lluniau yn seiliedig ar daith John Evans i chwilio am y Mandan Cymraeg. Dyma brawf fod modd cyfuno gwers hanes gyda cerddoriaeth pop – fedra’i ddim canmol digon ar y sioe – ac ar y ffaith fod Gruff Rhys, fel y seren pop dylanwadol a’r Super Furry, yn rhoi cyfle, drwy agor cil y drws i bobl ddarganfod mwy am Hanes Cymru. Yn enwedig y storiau bach diddorol.

            Gan fod cysylltiad a Iolo Morganwg, mae hanes John Evans hefo’r un math o elfennau a storiau Dr William Price, Llantrisant neu hyd yn oed Howard Marks. Cymeriadau Cymraeg / Cymreig sydd yn sicr yn perthyn i le, dim ond o Gymru, ac yn llawn hiwmor a syniadau gwallgof sydd ac apel. Rydym angen y cymeriadau yma, ac oherwydd hynny mae rhywun yn maddau yn llwyr am y ffuglen hanesyddol, y chwedlau a’r myth – pa ots am gywirdeb ffeithiol os yw’r stori mor dda a hyn !

            Adolygais sioe Gruff Rhys ar gyfer Blog link2wales a rhaid oedd cydnabod fod yma ‘artist cysyniadol’ yn ogystal a cherddor. Fe’m hatgoffwyd o waith rhywun fel Bedwyr Williams yn hyn o beth – mae’r syniadau a’r stori mor dda – awgrymais fod Gruff Rhys yn athrylith, yn ddyn gyda gweledigaeth – diawch mi fydda gwersi hanes ddeg gwaith mwy diddorol hefo Gruff Rhys yn ein dysgu !

            Yn bwysig iawn roedd mewnbwn sylweddol o hiwmor yn sioe Gruff Rhys, ac wrth drafod John Evans yn cael gwaith gyda’r Wladwriaeth Sbaeneg i archwilio’r Missouri dyma Rhys yn cyfeirio at hyn fel engraifft arall o gael gwaith drwy allu’r Gymraeg. Yn abesenoldeb llwyr unrhyw ddelweddau o Evans fe ath Rhys ati i greu pwped maint plentyn o John Evans, a bu’r pwped ar daith yn ddiweddar i’r Unol Daliaethau yn dilyn llwybr John Evans.
 

            Cafwyd lun o’r pwped yn cael ei ddal gan yr heddlu er mwyn ategu’r pwynt i Evans gael ei garcharu yn St Louis yn ol yn 1793. Do fe chwerthais, ond roedd yn amlwg i mi fod Gruff Rhys wedi taro ar ffordd newydd o gyflwyno Hanes Cymru, neu hanes John Evans Waunfawr yn sicr. Rydym yn disgwyl i’n ser pop ddweud rhywbeth am gymdeithas, neu hyd yn oed rhywbeth gwleidyddol bob hyn a hyn, ond rhaid cyfaddef fod rhywbeth braf iawn mewn cael gwers hanes gan seren bop mewn gwyl lenyddiaeth !
 
 

 

 

 

No comments:

Post a Comment