Tuesday 22 July 2014

Cyfarthfa v Six Bells Herald Gymraeg 23 Gorffennaf 2014.



 

Wrth grwydro strydoedd Blaenafon dyma daro ar draws tŷ o’r enw ‘Hayward Cottage’ a sylwi ar y gofeb wedi ei osod ar wal y tŷ. Dyma gartref Sir Isaac Hayward (1884-1976) cynghorydd lleol, arweinydd Cyngor Llundain rhwng 1947 a 1964, ond dyn a chefndir cyffredin, mab i loŵr ac yn wir, fe weithiodd Hayward ei hyn yn y pyllau glo pan oedd ond yn 12 oed.

            Fel arfer gyda achosion fel hyn, ymateb rhywun yw, “Duw, doeddwn ddim yn gwybod hunna”, a felly hefo Hayward. Wrth reswm mae rhywun yn gyfarwydd neu yn sicr yn ymwybodol o’r enw Oriel Hayward, a saif ar ochr ddeheuol Afon Tafwys yn Llundain, ond dim ond nawr roedd rhywun yn gwneud y cysylltiad.

            Yn ystod cyfnod Hayward fel arweinydd Cyngor Llundain adeiladwyd y ‘Royal Festival Hall’ ym 1951 fel rhan o ddathliadau a gweithgareddau Gwyl Prydain a mae’r oriel, ‘Hayward’, wedi ei enwi fel teyrnegd i gefnogaeth Hayward i’r Celfyddydau.

            Rhywbeth arall doeddwn ddim yn wybod oedd fod lluniau gan Sydney Curnow Vosper (yr arlunydd sydd yn gyfrifol am ‘Salem’) i’w gweld un un o goridiorau Castell Cyfarthfa, Merthyr. Dyma’r ail achos o “Duw, doeddwn ddim yngwybod hunna” o fewn yr un penwythnos. Felly dyma syllu ar fraslun pensil gan Vosper oedd yn rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer ei gampwaith ‘Salem’.


 

            Ac er mwyn dechrau dadl, diddorol iawn oedd sylwi nad yw wyneb y Diafol i’w weld o gwbl ar y llun pensil. Sgwni felly os yw Vosper yn “gweld” hyn yn datblygu wrth iddo roi lliw ar y llun go iawn ac yn cael hwyl hefo ni, y gynulleidfa, am flynyddoedd i ddod? Ta waeth am hynny, beth felly oedd cysylltiad Vosper a Merthyr gofynnais?

            A dyma chi rhywbeth arall oedd yn newydd i mi, fod ei wraig Constance James yn enedigol o Ferthyr. Y ffaith amdani gyda Vosper yw ein bod mor brysur yn trin a thrafod ‘Salem’ fel nad oes sylw yn cael ei roi i agweddau eraill o’i waith neu ei fywyd. A dweud y gwir, roedd lluniau Vosper braidd o’r golwg yn y coridor yma, sgwni os mae rhywbeth i ni bobl y Gogledd yw’r holl beth yma am ‘Salem’? Siawns fy mod yn anghywir am hyn, ond rhaid cyfaddef nad oedd sylw teilwng na phriod le yn cael ei roi i’w waith.

            I achub rhan Cyfarthfa, mae casgliad eang iawn ganddynt, mae’r amgueddfa yn werth ei gweld, a felly amhosib yw rhoi priod le i bob gwrthrych. Cawn gasglaidau archaeolegol diddorol yma gan gynnwys gwrthrychau Rhufeinig o’r gaer ym Mhenydarren a mae gwrthrychau o’r Aifft i’w gweld yma hefyd.

            Efallai mae un o’r gwrthrychau mwyaf anarferol ar ddangos yma yw’r car ‘Sinclair C5’ a ddyfeiswyd gan Clive Sinclair, sef y car oedd yn rhedeg ar fatri trydan. Gwelwyd Rhodri Llwyd Morgan yn gyrru un ar S4C yn ddiweddar ar y rhaglen ‘Darn Bach o Hanes’. Cytundebwyd ffatri Hoover ym Merthyr i adeiladu’r ceir ond ar ol gwerthu cyn lleid a 17,000 o’r ceir daeth y busnes i ben ym 1985. Nid dyma’r dyfodol yn amlwg!
 

            Daeth ein gwibdaith o amgylch Cymoedd y De i ben mewn penterf bychan o’r enw  Six Bells ger Abertileri. Mae’r enw, fel yn achos Aberfan, yn or-gyfarwydd, am reswm trist iawn gan i 45 o lowŷr gael eu lladd mewn damwain (ffrwydriad o dan ddaear) yma ym 1960. Yr hyn roeddem yn ymweld ac e oedd y gofeb ‘Guardian’, gwaith celf anferthol o loŵr ym Mharc Arael Griffin.

            Creuwyd y gofeb gan yr arlunydd Sebastian Boyesen a mae wedi ei greu o filoedd o ribanau dur. Dr Rowan Williams ddadarchuddiodd y gofeb yn 2010 a mae’n hawdd deall pam fod nifer wedi galw’r gofeb yn ferswin Cymru o ‘Angel y Gogledd’ gan Antony Gormley. Wrth i n i ymweld a Guardian roedd gwr mewn oed yn eistedd ar gadair gyferbyn a’r gofeb – roedd ei dad yn un o’r rhai a gollwyd yn y drychineb.

            Dyma ddod a’r hanes yn fwy na byw, dyma ein hatgoffa fod y digwyddiadau yma wedi effeithio pobl go iawn, a fod yr effeithiau hynny yn parhau hyd heddiw. Yn yr Oes sydd ohonni, gyda toriadau enfawr yn wynebu cynghorau lleol, pwy a wyr faint mwy o weithiau fel hyn fydd yn cael eu comisiynu?
 

Mae Boyesen hefyd yn gyfrifol am gerfluniau o’r Siartwyr yng Nghoed Duon felly dyma’r gair olaf i’r artist "The industrial revolution was fired by Welsh coal and ultimately, the British Empire was built using Welsh coal. People have forgotten this and the incredibly high cost that coal had on the local communities."

 

 

No comments:

Post a Comment