Tuesday 15 July 2014

Ffenestri Burne-Jones, Herald Gymraeg 16 Gorffennaf 2014.


 

 

Rossetti’s Obsession, Images of Jane Morris’, dyna chi enw da ar arddangosfa gyfredol yn y  gan Dante Gabriel Rossetti un o sylfaenwyr y Cyn-Raffaeliaid. I gymhlethu pethau, er i Jane briodi Morris ym 1859, buan iawn wedyn roedd hi mewn perthynas gyda Rossetti – fel mae’r arlunwyr yma wrthi !

 “Stunners” oedd y disgrifiad gan y Cyn-Raffaeliaid ar ferched tlws ond yr hyn sydd yn amlwg o’r delweddau o Jane Morris yw fod ei thlysni yn un llai traddodiadol, efallai byddai rhywun yn ei galw yn ‘ddiddorol’, ond wrth edrych ar y lluniau wrthgwrs, mae rhywun yn ymwybodol iawn mai ychydig mewn gwirionedd sydd yn cael ei ddatgelu am ei chymeriad. Beth bynnag mae hon yn arddangosfa werth ei gweld ac yn para hyd 21ain Medi.
 

            Os am ddarllen am hynt a helyntion y Cyn-Raffaeliaid byddwn yn sicr yn cynnig eich bod yn darllen y bywgraffriadau gan Jane MacCarthy, mae hi wedi sgwennu cyfrolau swmpus ar William Morris a Burne-Jones. Dawn MacCarthy heb os, yw gwneud pob tudalen yn ddiddorol ac yn berthnasol, mae ei llyfrau yn ysbrydoli rhywun i fynd ar drywydd yr arlunwyr hynod yma. Yn wir, fel gyda obsesiwn Rossetti gyda Jane Morris, mae dilyn trywydd y Cyn-Raffaeliaid yng Nghymru yn datblygu i fod yn ddipyn o obsesiwn gennyf.

            Sawl gwaith yn ddiweddar, rwyf wedi galw heibio Eglwys Santes Margaret, Bodelwyddan wrth deithio ar hyd yr A55. Do dwi wedi bod yno sawl gwaith o’r blaen ond mae’r dynfa yn ormod. Mewn a fi, er mwyn cael ychydig eiliadau, munudau hyd yn oed i gael eistedd a syllu ar gampwaith Burne-Jones a’i ffenestr ddywreiniol yn y gangell. Peth od yw dychwelyd i egwlys ond i astudio un ffenestr, a mae cymaint o gyfoeth diddorol yn Santes Margaret, ond dyna dwi di bod yn ei wneud.
 
 

Soniais yn gynharach eleni am ffenestr yn Eglwys Sant Pedr, Niwbwrch sydd a chysylltiad a’r Cyn-Raffaeliaid gan i’r ffenestr gael ei chynllunio gan Henry Ellis Wooldridge (1845-1917) a fu ar un adeg yn gymhorthydd i Burne-Jones. Fe aeth Wooldridge yn ei flaen i olynu neb llai na John Ruskin yn Rhydychen a roedd hefyd yn arbenigwr ar gerddoriaeth cynnar. Felly y cysylltiad yma yn Niwbwrch a’r Cyn-Raffaeliaid yw fod Wooldridge wedi gweithio gyda Burne-Jones, doedd hyd yn oed Burne-Jones ddim yn rhan o’r frawdoliaeth gwreiddiol hefo Rossetti, Millais a Holman Hunt.
 

Rwyf hefyd wedi cyfeirio yn y golofn hon at Eglwys Sant Mihangell yn Forden ger y Trallwm lle mae ffenestr gan William Morris yn dyddio o 1873 gyda delweddau o’r Forwyn Fair. Fel soniais bryd hynny, a mae hyn dal yn wir heddiw, mae’r eglwys yma ar fy rhestr o bethau i’w gwneud a llefydd i fynd..

Cawn ffenestr enwog arall yn Eglwys Sant Cybi, Caergybi, sef y ffenestr a’r ffrwythau gwyrdd lliwgar yna sydd uwchben cofeb W.O Stanley, ffenestr arall a gynlluniwyd gan Burne-Jones. Heb os hon yw un o ffenestri mwyaf trawiadol Burne-Jones, bron yn debycach i waith William Morris o ran y defnydd o planhigion.
 

Ychydig o son sydd yna am Gyn-Raffaeliaid Cymreig, mae John Brett yn cael ei gysylltu a Chymru am ei waith yn dehongli ardal Trefdraeth yn Sir Benfro ac yn wir bu i’r Amgueddfa Genedlaethol ddangos detholiad o’i waith ym 2001 dan yr enw Brett - a Pre-Raphaelite on the Shores of Wales sydd hefyd yn enw ar lyfr a gyhoeddwyd gan yr Amgueddfa Genedlaethol.

Fel nifer eraill o’r Cyn-Raffaeliaid cafodd Brett sel bendith John Ruskin a cafodd groeso yng nghwmni Rossetti, Millias a Holman Hunt. Ffaith arall diddorol am Brett oedd i’w ddawn fel astronomegydd ddod ac ef i gysylltiad a Sir Norman Lockyer. Rwan ta, mae Lockyer yn adnabyddus iawn i ni oll sydd wedi astudio beddrod Neolithig Bryn Celli Ddu gan mae Lockyer oedd y cyntaf i awgrymu / sylwi fod cyntedd Bryn Celli yn gorwedd ar linell codiad yr Haul ar hirddyyd Haf.

Erbyn heddiw, ac yn dilyn adroddiad gan Steve Burrow o’r Amgueddfa Genedlaethol, mae damcaniaethau Lockyer yn cael eu derbyn (yn sicr yng nghyd destyn Bryn Celli) ac ar hirddydd Haf eleni gwelwyd Cadw yn trefnu dathliadau ar y cyd a Derwyddon Mon i ddathlu’r ffaith. Rhaid fod yr hen Sir Norman yn gwenu yn ei fedd, neu yn edrych i lawr yn hapus ar y dathliadau o’r Nefoedd !

Yn Eglwys Crist, Rossett mae’r ffenestr ogleddol wedi ei chynllunio gan Morris & Co (1907) sydd o bosib yn gynllun Burne-Jones er i iddo farw ym 1898? Eto dyma eglwys anghyfarwydd i mi, felly rhaid ychwanegu hon at y rhestr.

Mae dwy ffenestr yn Santes Fair, Conwy gan Morris & Co (1915) un o’r Forwyn Fair a’r llall o Santes Margaret, y ddwy ffenestr yn y wal ddeheuol, eto eglwys dwi rioed wedi bod i mewn iddi er fy mod wedi cerdded drwy’r fynwent i ddangos y bedd a chysylltiad Wordsworth, sef  ‘We are seven’, cymaint o weithiau hefo gwahanol grwpiau.

Hoffwn glywed am fwy o ffenestri yng Nghymru sydd a chysylltiad a’r Cyn-Raffaeiliaid. Mae’r engraifft o’r ffenestr gan Wooldridge yn Niwbwrch yn engraifft da iawn o ffenestr sydd yn debygol o fod o dan y radar Cyn-Raffaelaidd, ac yn llai adnabyddus felly. Dim ond oherwydd i mi gael gwahoddiad i ymweld a Niwbwrch gan Norman Evans y daeth ffenestr Wooldridge i fy sylw.

Ar safle we y Llyfrgell Genedlaethol mae adran yn ymdrin a ffenestri lliw ac wrth chwilio am Burne-Jones neu Morris & Co cawn wybod am fwy o ffenestri yn Sant LLwchaiarn ger y Drenewydd, Sant Deiniol, penarlag, St Giles yn Wrecsam a’r ffenestr o ’Salvator Mundi’ yn Eglwys Santes Fair Betws y Coed.

Mae angen dipyn o ymdrech ac ymchwil i gael hyd i’r holl wybodaeth yma, a fel rwyf yn son mor aml, efallai fod lle i weiddi’n uwch am y trysorau yma sydd ganddom yng Ngogledd Cymru. Hyd yma rwyf heb gael hyd i unrhyw wybodaeth am artist o Cymru oedd yn rhan o’r frawdoliaeth Cyn-Raffaelaidd. Rhaid bod rhywun yn rhywle wedi ei ddylanwadu ganddynt?  Felly cysylltwch os oes gennych unrhyw wybodaeth pellach am y Cyn-Raffaeliaid yng Nghymru a ffenstri Burne-Jones neu Morris & Co yn benodol.
 

No comments:

Post a Comment