Tuesday 20 May 2014

Tirlun cyn-hanesyddol Pentrefelin, Llafar Gwlad Mai 2014 Rhif 124


 


David Hurst Thomas awgrymodd mae gwir werth archaeoleg yw’r wybodaeth rydym yn ei ddarganfod yn hytrach na’r gwrthrychau unigol. Modd i ddeall y gorffennol yw’r gwrthrychau yn hytrach na pethau “gwerthfawr” ar ben eu hunnan - allan o gyd-destyn, ac yn achos gwaith diweddar yn cadw golwg am olion archaeolegol ar hyd llinell y bibell nwy o Bwllheli i Flaenau Ffestiniog mae dyfyniad Hurst Thomas yn berthnasol iawn.

            O ran darganfod gwrthrychau ac olion ‘syfrdanol’ mae’n debyg y gall rhywun awgrymu fod y gwaith wedi bod braidd yn siomedig, ond os yw rhywun am ddadlau mae’r pethau bach weithiau sydd yn datgelu’r pethau mawr, cafwyd cyfle gwych yma i astudio’r tirwedd ar hyd afordir ddeheuol Llyn ac Eifionydd, ar draws Traeth Mawr ac ymlaen wedyn heibio Maentwrog am Flaenau Ffestiniog.

            Un o’r cwestiynau rwyf yn ei gael bob amser wrth ymweld a safleoedd archaeolegol hefo grwpiau a dosbarthiadau yw’r cwestiwn o faint o goed fydda wedi bod o gwmpas y safle yn y cyfnod perthnasol. Cofiwch i amaethyddiaeth gael ei gyflwyno i Ynysoedd Prydain yn y cyfnod Neolithig, oddeutu 6 mil o flynyddoedd yn ol, a byth ers hynny mae dyn wedi bod yn clirio’r tir ar gyfer tyfu cnydau a chadw anifeiliaid.

            Wrth reswm, nid hawdd yw ateb y cwestiwn uchod gyda sicrwydd heb fod yr archaeolegwyr wedi cael cyfle i wneud archwiliad gronynnau paill hynafol ac i hyn fod yn effeithiol mae’n rhaid cael hyd i’r gronynnau paill wedi goroesi. Y cyfle gorau i sicrhau goroesiad yw archwilio mawndir ac yn ystod y gwaith ar y bibell nwy dyma’r union gyfle yn dod i’r fei ger Pentrefelin.

            Felly y broses yw cymeryd darn sampl drwy’r mawndir ar gyfer ei archwylio a wedyn drwy astudio’r paill yn y gwahanol haenau o fawn mae modd creu darlun o sut mae’r tyfiant wedi newid dros amser. Yn syml, mae rhywun yn cyfri’r gronynnau paill ac yn creu tabl o’r calyniadau.

            Un o’r darganfyddiadau pwysicaf yn ardal Pentrefelin oedd yr hyn a elwir yn domeni llosg, mae rhain ddigon cyffredin yn y tirwedd a’r ddamcanaiaeth yw fod rhain yn weddillion llefydd goginio yn dyddio yn ol i’r Neolithig a drwy’r Oes Efydd. O’r dyddiad radio-carbon ym Mhentrefelin gellir awgrymu fod rhain mewn defnydd yn y cyfnod rhwng 2500 cyn Crist hyd at oddeutu1500 cyn Crist.

            Er hyn, cafwyd dyddiad yn y 7fed ganrif oed Crist ar gyfer un o’r tomeni llosg ym Mhentrefelin, sydd yn anisgwyl ac yn sicr yn anghyffredin. Os felly, efallai fod y dull yma o goginio drwy grasu cerrig mewn tanllwyth a wedyn eu rhoi mewn i gafn o ddwr er mwyn berwi’r dwr  wedi cael ei ‘ail-ddarganfod’ yn y Canol Oesoedd cynnar – os felly mae hwn yn ddarganfyddiad pwysig iawn.

            Ond beth mae’r tomeni llosg cyn-hanesyddol yn ei ddweud wrthom ? Efallai mae llefydd a ddefnyddir yn achlysurol, a hynny wedyn efallai dros gyfnod hir o amser, ar gyfer gwledda a digwyddiadau pwysig neu ddefodau pwysig fydda’r mannau goginio yma ond mae’n rhaid felly, fod dyn wedi byw yn weddol agos. Dyna’r peth pwysicaf, mae’r tomenni llosg yn awgrymu fod dyn yn byw (a ffermio) yn yr ardal. Yr hyn sydd ddim mor hawdd i’w ddarganfod yw olion eu tai – yn sicr yn y cyfnodau Neolithig / Oes Efydd.

            Felly gan fod nifer o domeni llosg yn ardal Pentrefelin gallwn fod yn hyderus fod dyn yn byw ac yn amaethu yn yr ardal yma yn y cyfnod rhwng y Neolithic Hwyr a’r Oes Efydd ond mae’r dystiolaeth o’r archwiliad gronynnau paill yn cadarnhau fod coed yn cael eu clirio a chnydau yn cael eu tyfu.

            Yn ol y dystiolaeth, yn y cyfnod Neolithig hwyr, odduetu 2500 oed Crist, roedd ardal Pentrefelin yn goediog gyda gwernen a derwen yn ddigon cyffredin, y wernen yn amlwg yn tyfu yn agosach at yr afon a’r dderwen yn fwy cyffredin dros ardal ehangach. Awgrymir fod coed yn cael eu clirio dros y mileniwm nesa, mae’n debyg ar gyfer caeau – rhai ar gyfer anifeiliaid a rhai ar gyfer cnydau ond nad oedd clirio coed ar raddfa fawr.

            Felly o’r Neolithig ymlaen, mae amaethyddiaeth yn bodoli ond mae’n debyg mae’r patrwm fyddai ffermydd bychain mewn ardaloedd wedi eu clirio o goed. Awgrymir hefyd o’r arolwg fod y coed yn tyfu yn ol ar ol cyfnodau o glirio ac amaethu. Erbyn yr Oes Haearn fe welir fod clirio coed dros ardal ehangach a fod hyn yn batrwm parhaol wedyn yn y mileniwm cyn Crist.

            Dyma’r patrwm felly, erbyn y cyfnod Celtaidd yn y canrifoedd olaf cyn Crist, rydym yn gweld clirio sylweddol o goed a fod cnydau yn cael eu tyfu ar raddfa enang. Yr awgrym yw fod y tirwedd yn un o wair a chaeau parhaol ond fod paill grug yn awgrymu fod mawndir yn ymestyn hefyd yn y dirwedd. Mae’n debyg fod y datblygiad mewn tir amaethyddyddol yn cadarnhau fod y boblogaeth ar dwf a fod mwy o alw ac angen am fwyd.

            Dangosir yr arolwg fod y mawndir a glaswellt yn parhau i ehangu yn y dirwedd ac erbyn ddiwedd y mileniwm cyn Crist mai ond darnau o goedwigoedd sydd ar ol a fod y tirwedd yn ymdebygu i’r hyn a welir heddiw (petae rhywun yn cael gwared ar drefn caeau fodern). Y tebygrwydd yw fod y paill pin yn adlewyrchu cyflwyno coed newydd i’r ardal o’r ddeunawddfed ganrif ymlaen.

            Y fantais fawr o edrych am olion archaeolegol ar hyd y linell bibell nwy o Bwllheli i Flaenau Ffestioniog yw fod ardal eang wedi cael ei archwilio. Er na chafwyd fawr o olion tai o unrhyw gyfnod cyn-hanesyddol mae’r cyfle i gael arolwg gronynnau paill wedi rhoi darlun o’r tirwedd dros dair mileniwm i ni. Felly tro nesa bydd rhywun yn gofyn am faint o goed oedd ar y tirwedd mae’n bosib awgrymu fod y clirio yn cyflymu ac yn ymestyn yn yr Oes Haearn wrth i’r boblogaeth dyfu.

            Fel rhan o’r prosiect yma bu i Jane Kenney, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gynnal nifer o ddarlithoedd cymunedol ar hyd llinell y bibell nwy. Mae hyn yn elfen bwysig o’r gwaith archaeolegol, does fawr o werth dysgu am y gorffennol os yw’r wybodaeth yna ddim yn cael ei rannu hefo’r gymuned leol.

           

No comments:

Post a Comment