Wednesday 14 May 2014

Eglwys Sant Pedr, Niwbwrch. Herald Gymraeg 14 Mai 2014.


 


Cefais wahoddiad i fynd draw i weld Eglwys Sant Pedr, Niwbwrch gan y ceidwad Norman Evans, gan ddisgwyl mae uchafbwynt fy ymweliad fyddai gweld y ffenestr Cyn-Raffaelaidd, ond rhaid cyfaddef na ddisgwylias weld y fath gyfoeth hanesyddol yn yr eglwys hynod yma. Dyma un o’r ymweliadau mwyaf diddorol i mi gael yn ddiweddar a byddwn yn argymell fod pawb sydd a diddordeb yn y maes yn gwneud yr ymdrech i ymweld ag Eglwys Sant Pedr.

            Mae’n bnawn Sul, mae fy nhad wedi dod am dro hefo mi, a rydym yn astudio rhai o’r cerrig bedd yn y fynwent wrth i Norman gyrraedd. Yn y fynwent hon mae bedd a cholofn Pritchard Jones, y cymwynaswr sydd yn rhoi ei enw i ddwy neuadd, y neuadd honno ym Mhrifysgol Bangor ac wrthgwrs y neuadd gymunedol a’r llyfrgell anhygoel ym mhentref Niwbwrch ei hyn.

 

            Yn amlwg mae digon o gerrig bedd diddorol i’w gweld cyn i ni fynd i fewn i’r eglwys, a mae Norman yn fwy na hapus i ddangos rhai o’r nodweddion a chymeriadau diddorol sydd yn y fynwent. Cawn garreg fedd Griffith Rowlands, 1760, curad Llangaffo, a foddwyd mewn damwain / llongddrylliad ar y Fenai.

            Cawn ddelwedd o’r penglog a’r esgyrn croes ar garreg fedd Thomas Meredith, hwnnw briododd gwraig a’r enw hyfryd Magdelen a fu farw ym 1738. Rhaid bod Thomas druan wedi ei golli i rhyw bla neu haint difrifol felly. Nid annisgwyl efallai yw cysylltiad Niwbwrch a’r Mor a mae sawl carreg fedd ar ochr ddeheuol i’r Eglwys hefo graffiti arnynt yn dangos lluniau o longau hwylio.

 

            Yr hyn sydd yn amlwg o’r tu allan yw fod hon yn eglwys hir iawn, tystiolaeth fod yr eglwys wedi ei hymestyn yn hanesyddol, ond mae’n anarferol o hir, a mae Norman yn cadarnhau mae hon yw’r eglwys hiraf ym Mon. Dyna chi ffaith ddiddorol yn ei hyn, ac wrth i ni drafod hanes yr Eglwys mae’n werth atgoffa pawb fod yr eglwys wedi ei adeiladu rhyw 50 medr i’r gogledd ddwyrain o Llys Rhosyr (llys Tywysogion Gwynedd).

            Efallai fod modd cyfuno ymweliad a Llys Rhosyr a Sant Pedr, yn sicr byddai hynny yn wledd ar gyfer pnawn Sul – a wedyn gorffen eich diwrnod yn cael panad yn Hooton’s Brynsiencyn (y ganolfan arddio) fel yn wir y gwnaethom ni. Gyda llaw, bydd Llys Rhosyr yn cael ei ‘ail-godi’, neu ei ‘ail-greu’ i fod yn fanwl gywir, yn Sain Ffagan cyn bo hir, felly bydd modd gweld sut byddai Llywelyn ab Iorwerth a Siwan, a Llywelyn ap Gruffydd ac Eleanor wedi treulio eu hamser yma ar Ynys Mon !

            Yr hen enw ar Niwbwrch oedd Llanbedr Rhosfair. Doedd y ‘Newborough’ ddim yn bodoli tan i Edward 1af symud poblogaeth Llanfaes drosodd i orllewin yr Ynys er mwyn iddo adeiladu ei dref newydd Seisnig ym Miwmares ym 1295. Dyma’r ‘ethnic cleansing’ yn Hanes Cymru fel rydym yn atgoffa ymwelwyr wrth eu tywys o amgylch Castell Biwmares. Er fod awgrym fod yr eglwys hir yn ganlyniad o ymuno dwy eglwys, yr un i Fair ac yr un  i Pedr, ond mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn awgrymu nad yma oedd eglwys Santes Fair. Felly efallai mae datblygiad naturiol o ymestyn sydd i’r eglwys hon wedi’r cyfan.

 

            Wrth i ni fynd i mewn i’r eglwys dyma gytuno y byddwn yn cychwyn gyda’r ffenestr ddwyreiniol Cyn-Raffaelaidd. Cynllunwyd y gwydr lliw gan Henry Ellis Wooldridge, un o ddisgyblion a chymhorthydd i Burne-Jones (mae Burne-Jones wedi ei ddisgrifio fel y Cyn-Raffaelydd olaf). Y nodwedd anarferol am y ffenestr yw fod y lluniau o’r Hen Destament. Cawn hanesion Samiwel, Jona a’r morfil, Moses a’r anialwch, 6 stori i gyd, ond yr amlwg yw fod hon yn ffenestr wirioneddol drawiadol. A bod yn onest mae rhywun yn sefyll yno, yn edrych, a’i geg a’r agor fel mae nhw’n dweud. Un gair – bendigedig !

            Ond mae mwy ! I’r gogledd a’r de yn y gangell, mae ffenestri ‘mwslemaidd’ sydd yn perthyn i Arglwydd Stanley, Penrhos a’i gyfnod o adnewyddu eglwysi oddeutu 1886. Roedd Stanley wedi priodi gwraig o Sbaen a wedi ei ddylanwadu cymaint nes iddo arfer crefydd y Mwslemiaid. (gweler hefyd y teils Mwslemaidd yn Eglws Llanbadrig ger Cemaes).

            Eto does ond un gair i dsisgrifio’r ffenestri yma - ‘trawiadol’. Mae’r gwaith gwydr, y delweddau blodeuog, y patrymau yn wirioneddol fendigedig. Felly dyma chi wledd o ffenestri gwydr – digon i fodloni unrhyw ymwelydd.  Er mor drawiadol y ffenestri felly, dim ond megis cychwyn ydym ar ein taith dywys o’r eglwys gan Norman.


 

            Dyma ddychwelyd at y fedyddfaen, a sylwi fod cerfluniau ar dair ochr gan adael un ochr yn wag. Rydym yn damcaniaethu mae’r ochr wag oedd cefn y fedyddfaen, efallai ar un adeg wedi ei osod yn erbyn wal –  ger y drws gwreiddiol ar ochr ddeheuol yr eglwys. Mae’r drws yma bellach yn arwain i’r festri bach lle gwelir dwy garreg fedd hynafol wedi eu gosod yn y wal. Ar y fedyddfaen mae symbol y groes ‘Maltese’ yn ogystal a clymwaith Celtaidd.

 

            Ger y fedyddfaen, a mae hyn yn sicr o ddiddordeb i hynafiaethwyr Mon, mae cofeb i Henry Rowlands, Llanidan. Ond nid i “Y Henry Rowlands”, sef awdur ‘Mona Antiqua Restaurata’ (1723) ond yn hytrach i’w wyr, o’r un enw a’r un alwedigaeth. Mae bedd yr wyr yma gyda llaw ym mynwent Llanedwen.

 
 

            Gan droi yn ol at y gangell, ceir dau fedd hynafol yn gorwedd i’r naill ochr, un i David Barker a fu farw oddeutu 1348 neu 1350 yn ystod cyfnod y Pla Du. Perthyn i Matthew, Archddeacon Mon mae’r llall. A mae mwy o nodweddion, mae ‘corbel’ bach diddorol ar y wal ogleddol ger hen ddrws caeedig sydd i’w weld yn y wal a sydd wedi ei gladdu hanner ffordd ar y tu allan oherwydd y storm dywod fawr yng nghanol yr 14dd ganrif – yr un storm a orchuddiodd Llys Rhosyr.

 
 

            Ond i gloi, er mor wirioneddol hyfryd oedd y ffenestri, yn wir bythgofiadawy, rhaid datgan fod Norman wedi ychwanegu cymaint at ein hymweliad gan ein tywys yn drylwyr o un peth i’r llall. I ddilynwyr y cyfnod Cyn-Raffaelaidd hwyr, mae ffensetr Wooldridge werth ei weld ond mae ffenestri Stanley hefyd yn waith celf o’r radd uchaf.

 

No comments:

Post a Comment