Tuesday 20 May 2014

Ffyrdd Rhufeinig, Llafar Gwlad Rhif 123


 

O’r holl olion archaeolegol sydd i’w gweld ar y tirwedd yma yng Nghymru, mentraf awgrymu fod mwy o fwydro a cham ddehongli yn gysylltiedig a Ffyrdd Rhufeinig nac unrhyw nodweddion neu faes arall yn y byd Archaeolegol. Y ffaith amdani yw fod, dyn dros yr holl ganrifoedd, wedi defnyddio’r un llwybrau a’r un bylchau drwy’r mynyddoedd, wedi anelu am yr un llefydd i groesi afonydd, wedi cadw at ochrau’r dyffrynnoedd ac wedi cadw’n glir o’r corsydd a’r tir gwlyb wrth ddewis ei lwybr drwy’r tirwedd.

Am y rheswm syml yma, mae yna duedd felly fod ffyrdd a llwybrau o wahanol ganrifoedd yn tueddu i fod yn agos at eu gilydd, neu yn aml ar ben eu gilydd a does dim gwell engraifft o hynny na ffordd yr A5, sef ffordd Thomas Telford, sydd yn gorwedd yn aml iawn ar ben yr hen ffordd Rufeinig ‘Watling Street’ rhwng Llundain a Wroxeter (ger Amwythig).

Canlyniad hyn oll, yw fod pobl, ar lafar, dros y blynyddoedd wedi cyfeirio at hen lwybrau fel “ffyrdd Rhufeinig” ac yr un mor gamarweiniol at bontydd fel “Pont Rufeinig” lle mewn gwirionedd y tebygrwydd yw mae ffyrdd y porthmyn yw’r mwyafrif neu hen lwybrau o’r Canol Oesoedd. Rhaid rhybuddio’r darllenwr fod y cam ddehongli a’r camargraff yn bodoli mewn print hefyd, mae cyhoeddiadau fel ‘The Roman Roads of North Wales’ Edmund Waddelove, 1999, bellach wedi dyddio ac yn cynnwys llawer gormod o gangymeriadau.

Felly er mwyn deall yn well beth yn union yw’r diweddara yn y maes yma dyma dreulio bore yng ngwmni’r archaeolegydd David Hopewell o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd sydd newydd gyhoeddi llyfr cynhwysfawr ar ei waith ymchwil diweddar o’r enw ‘Roman Roads in North West Wales’, a da chi peidiwch a drysu rhwng y llyfrau – un Hopewell sydd ei angen arnoch !

Dros y ddeng mlynedd dwetha mae Hopewell wedi bod yn astudio ffyrdd Rhufeinig yng Ngogledd-orllewin Cymru mewn prosiect a ddechreuwyd gan Cadw a sydd wedi cynnwys y pedwar Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru. Digon teg fyddai awgrymu mae Dave yw’r arbenigwr yn y maes yma bellach a’n penderfyniad ni oedd dilyn rhan o’r ffordd Rufeinig uwchben Rowen yn ardal Bwlch y Ddeufaen.

Roedd angen lluniau arnom ta beth ar gyfer yr erthygl, ond teimlad y ddau ohonnom oedd, fod yn gwenud mwy o synnwyr trafod ffyrdd Rhufeinig wrth eu cerdded yn hytrach na dros banad yn y swyddfa. Os oes unrhywun yn gyfarwydd ac ardal Bwlch y Ddeufaen, byddwch yn gwybod fod yma dirwedd hynafol aml-gyfnod. Yma cawn weld cromlech hyfryd Maen y Bardd, y faenhir Ffon y Cawr a’r ddau faen anferth sydd yn rhoi eu henw i Bwlch y Ddeufaen, oll ger y ffordd Rufeinig ddiweddarach.

Dyma chi engraifft perffaith o dirwedd lle mae olion dyn yn ymestyn o’r pedwaredd mileniwm cyn Crist hyd at y peilons trydan (Ugeinfed Ganrif)  sydd yn llygru’r olygfa ac yn chwithrwd yn barhaol yn y cefndir. O’r awyr mae patrwm y caeau Canoloesol a chyn-hanesyddol i’w gweld yn glir o dan walia sychion y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Bron yn syth wrth i ni adael y maes parcio a chywchwyn i gyfeiriad y gorllewin mae darnau o’r ffordd Rufeinig o’n blaen. Y cymhlethtod yma yw fod y ffordd newydd a adeiladwyd ar gyfer cynnal a chadw’r peilons yn aml wedi cael ei adeiladu ar yr un llinell a’r ffordd Rufeinig a felly fel canlyniad wedi dinistrio darnau o’r hen ffordd.

Un o’r camffieithiau am y ffyrdd Rhufeinig yw eu bod wedi adeiladu gyda slabiau o gerrig ar yr wyneb a dyma Dave yn dechrau egluro pa nodweddion rydym angen cadw golwg amdanynt wrth gerdded. Yn gyntaf mae lled y ffordd yn gyson oddeutu 5 medr ar draws gyda’r ochrau yn disgyn ychydig o ganol y ffordd i ffos naill ochr. Y darn uchel o’r ffordd yw’r ‘agger’ neu’r ‘sarn’ a hwn oedd y ffaith oedd efallai yn newydd i mi, mae graean neu gerrig man wedi eu cloddio yn lleol oedd wyneb y ffyrdd nid slabiau o gerrig.

Felly roedd wyneb ffordd Rufeinig fwy fel llwybr graeanog ond fod y cerrig wedi eu gosod yn dyn mewn clai a wedi eu troedio yn galed i’r ddaear. Ond yr hyn oedd yn hynod arwyddocaol wrth ddilyn y ffordd heibio Bwlch y Ddeufaen oedd faint o’r chwareli neu grobyllau bychain oedd i’w gweld hyd heddiw ychydig fetrau naill ochr i’r ffordd. Dyma yn ol Hopewell oedd un o’r arwyddion pwysicaf o ran tystiolaeth oedd yn awgrymu ffordd Rufeinig ynnhytrach na rhywbeth diweddarach.

Y nod pob amser yw magu’r sgiliau a’r hyder i ‘ddarllen y tirwedd’ ac o fewn munudau o gerdded dyma ddod o hyd i sawl engraifft o’r grobyllau graean bychain yma ar ochr y bryn. Rhywbeth arall diddorol iawn oedd sylwi ar un darn o’r ffordd fod pobl yn amlwg wedi creu llwybrau diweddarach gan gadw’n glir o’r agger neu’r sarn. Canlyniad hyn oedd dyfnhau y ffosydd gwreiddiol Rhufeinig fel fod canol y ffordd yn ymddangos yn llawer uwch heddiw na fyddai wedi bod yn wreiddiol.

Eto, y tebygrwydd yw fod y ffordd Rufeinig efallai wedi dechrau erydu neu troi yn fwdlyd a fod teithwyr neu borthmyn y canrifoedd diweddarach wedi dilyn yr un llinell ar draws y tirwedd ond wedi ffurfio llwybrau newydd naill ochr i’r hen ffordd Rufeinig. Y mwyaf mae nhw’n troedio’r un llwybr, y dyfna mae’r ffordd newydd yn suddo i’r tirwedd, eto engraifft gwych o diwredd aml-gyfnod, o dirwedd sydd yn esblygu dros amser drwy ddefndydd dyn.

Rydym yn gwybod o’r Antonine Itinerary fod ffordd Iter XI yn rhedeg rhwng Canovium (Caerhun, Dyffryn Conwy) a Segontium (Caernarfon). Rydym hefyd wedi darganfod sawl carreg filltir Rufeinig ar hyd y darn yma o’r ffordd (cerrig milltir i’w gweld yn Amgueddfa Gwynedd, Bangor) felly mae sicrwydd fod y darnau yma uwchben Rowen yn cynnwys y ffordd Rufeinig oedd yn cysylltu Caer a Chaernarfon bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ol.

Diolch i’r ffaith fod hwn yn dir uchel a heb ei aredig fod yr olion wedi goroesi yma. Llawer anoddach yw dilyn llwybr y ffordd yn Nyffryn Conwy ac ar y tir arfordirol ger Caernarfon.

Os am archebu llyfr David Hopewell ‘Roman Roads in North West Wales’ cysylltwch a Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd pam.hughes@heneb.co.uk

 

Bwlch y Ddeufaen :


No comments:

Post a Comment