Wednesday 1 January 2014

Sex Pistols Caerffili v Casgliad y Werin Herald Gymraeg 1 Ionawr 2014


 


‘Casgliad y Werin’ yw’r enw ar safle We sydd yn cael ei gynnal gan y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol a’r Comisiwn Brenhinol wedi ei arianu gan Llywodraeth Cymru. Y syniad yw fod “y werin bobl” yn cyfrannu gyda eu hanesion am Gymru a gall hyn gynnwys ffilm, lluniau, darnau o sain neu storiau. Mae na rhywbeth hynod ddemocrataidd yn hyn – y werin bobl yn cael dewis beth yw ein hanes, yn hytrach na’r Byd Academaidd neu’r Cyfryngau yn dweud wrthom.

            Bydd rhywun o hyd yn dod ar draws rhywbeth diddorol ar y safle, byddaf yn eu dilyn ar trydar, felly byddaf yn cael diweddariad rheolaidd o unrhyw gynnwys newydd. Ychydig yn ol ymddangosodd stori hynod ddifir ar y safle am ymweliad y grwp Sex Pistols a thref Caerffili yn ol ym 1976. Felly dyma Casgliad y Werin yn ymdrin a diwylliant pop mewn cyd destyn hanesyddol – gwych o beth !

            Yn wir, mae dau eitem yma, un yw llun o’r tocyn i’r cyngerdd gan y Sex Pistols yn Sinema’r Castell wedi ei uwch-lwytho gan Treftadeath Caerffili a’r llall yw stori’r brotest yn erbyn y cyngerdd.

            Rwyf wedi bod yn dadlau yn rheolaidd fod hanes diwylliant pop cyfoes (yn ei holl amrywiaeth) yn rhywbeth sydd angen ei drin a’i drafod. Mae 1976 yn sicr ddigon pell yn ol i fod yn “hanes”, mae holl gyd-destyn “Punk” yn sicr yn rhywbeth sydd bellach yn cael ei drafod mewn Prifysgolion os nad rhaglenni di-ri ar BBC 4 ond fel sydd yn boenus o amlwg dydi diwylliant pop yn y cyd-destyn Cymraeg a Chymreig ddim wedi cael yr un raddfa o sylw neu drafodaeth academaidd yng Nghymru ac yn sicr heb gael triniaeth ddigonol gan y Cyfryngau Cymraeg (yn eu holl amrywaieth).

            Os yw unrhywun wedi gwylio’r ffilm ‘The Great Rock’n Roll Swindle’, rhyw fath o ddogfen amgen gan Julian Temple am yrfa’r Pistols, un o’r darnau mwyaf diddorol i mi yn sicr, oedd y brotest gan drigolion Caerffili i wrthwynebu’r ffaith fod y grwp yn canu yn y dref. Dyma chi engraifft o draddodiad cymdeithasol ceidwadol y Capel a’r Eglwys, y ceidwadaeth oedd (sydd ?) yn bosib mewn ardaloedd di-freintiedig, tlawd, dosbarth gweithiol, ol-ddiwydiannol a’r math o gulni sydd yn aml yn nodweddiadol o’r gymdeithas Gymreig ar wahanol adegau yn ei hanes.

            Mae lle felly i rywun drafod natur ac agweddau’r gymdeithas yn y Cymoedd yn ol yn y 70au, wedi’r cwbl y gymdeithas yma mewn ffordd oedd yn gyfrifol am grwpiau fel y Llygod Ffyrnig, cymeriadau fel Steve Strange, Gareth Potter ac yn ddiweddarach y Manic Street Preachers, oll yn eu ffyrdd eu hunnain wedi gorfod gwrthryfela yn erbyn ‘culni’ eu magwraeth a’u cefndir. Astudiaeth o effaith y lle ar y celf neu’r diwylliant yw hyn nid beirniadaeth.

            Felly wrth i 1976 ddod i ben, roedd y Sex Pistols newydd regi ar rhaglen Bill Grundy ac roedd trigolion Caerffili yn sicr yn bryderus iawn am ba effaith fydda grwp o’r fath yn ei gael ar bobl ifanc y dref. Dyma chi engraifft gwych sut roedd papurau fel y Daily Mail ar y pryd yn cyflyrru pobl i feddwl fod grwp roc fel y Sex Pistols nid yn unig yn rhywbeth anfoesol ond yn fygythiad i fywyd pob dydd a’r drefn oedd ohonni.Y gwir hanesyddol yw fod mwy o wrthwynebwyr y tu allan i’r cyngerdd yn canu carolau nac oedd i mewn yn y Sinema yn gwylio’r grwp.

            Ond cyd-destyn yr erthygl yma ar Casgliad y Werin, ac efallai hyn sydd yn gwneud hwn yn ddarn bach o hanes mor ddiddorol, yw fod y Cynghorydd Ray Davies bellach wedi newid ei farn am yr holl ddigwyddiad ac yn difaru ei fod wedi gwrthwynebu ymddangosiad y grwp yng Nghaerffili yn ol ym 1976. Gyda Davies yn cyfaddef iddo yntau unwaith fod yn “rebal” ac yn ‘Teddy Boy’ mae’n edrych yn ol gan weld nad oedd fawr o wahaniaeth rhwng ei ieuenctyd ef a ieuenctyd y Pyncs ym 1976-77. Dim ond pobl ifanc yn ceisio cael mynegiant ac arwahanrwydd – dim byd newydd.

Dyma ddywedodd Davies “Rwy’n edifar hyd heddiw am geisio atal y bobl ifanc rhag mwynhau eu cerddoriaeth ac rwy’n ymddiheuro o waelod calon am yr hyn wnes i”. Uwch-lwythwyd y darn bach yma o hanes gan ‘Working Word’ ar y 9fed o Ragfyr 2013, bron union 37 mlynedd ar ol y digwyddiad. Diolchaf i Working Word am wneud hyn achos dyma ni engraifft arall nawr o ddiwylliant pop yn cael ei drin yn ei gyd destyn hanesyddol a mewn ffordd dyma engraifft arall o hanes Cymru yn cael ei ail ddiffinio os mynnwch neu ei gynwys ar y radar. Mae pob un gweithred fechan fel hyn yn cyfri.

Mewn ffordd fach od, ymddengys erbyn heddiw fod Caerffili neu yn sicr Treftadaeth Caerffili bron yn ymfalchio yn yr hanes, does yna ddim llawer o drefi yng Nghymru gafodd ymweliad gan y Pistols. Mae’r elfen ddemocrataidd i’r safle we, a’r ffaith fod rhai fel Working Word yn uwch-lwytho hanes o’r fath yn creu gofod amgen (er drwy’r sefydliadau uchod), yn rhywbeth i’w groesawu ac yn bwysicach byth i’w ddefnyddio, i’w ddarllen ac i’w fwynhau. Mae’r chwyldro yn digwydd ar y we gyfaill gweler  www.casgliadywerin.co.uk
 
   HTV rhaglen ddogfen  http://www.youtube.com/watch?v=IO5YwO0Wf3I
Clip gwrthdystiad Caerffili  http://www.youtube.com/watch?v=BQuJ4vRTbbQ

 
 

 

No comments:

Post a Comment