Wednesday 15 January 2014

Cor y Cewri v Real Druids Herald Gymraeg 15 Ionawr


 

 

 

Rhywbeth sydd siwr Dduw o wylltio unrhyw archaeolegydd yw cysylltu Cor y Cewri a’r Derwyddon, ac o ddarllen ‘Stonehenge Celebration and Subversion’ gan Andy Worthington (gwasg Alternative Albion) yn ddiweddar mae digon yn y llyfr i wylltio rhywun, mae hynny yn sicr. Ond hefyd yn llyfr Worthington, mae yna stori, stori sydd yn mynd yn ol ganrifoedd a stori sydd yn cysylltu Iolo Morganwg, achos arno fo mae’r bai am rhan helaeth o hyn, hipis y 70au a ‘ravers’ (Free Party Movement) ddiwedd yr Ugeinfed Ganrif.

            Iolo sydd yn gyfrifol, fwy na neb, (heblaw Cynan yn y cyd-destyn Cymraeg) am atgyfodi’r syniad a’r ddelwedd o dderwyddon, yn eu cylchoedd cerrig ac yn eu dillad gwyn. Er hyn, rhaid cydnabod fod ein hen arwr a chyfaill o Fon, Henry Rowlands, awdur ‘Mona Antiqua Restaurata’ 1723, hefyd yn cael ei gydnabod gan Worthington a mae llun y derwydd gan Rowlands yn un o’r lluniau eiconiadd o dderwydd wrthgwrs.

            Ond y stori mewn ffordd yw’r ymgais drwy’r canrifoedd diweddar i esbonio beth oedd pwrpas y meini a phwy adeiladiodd yr hyn a elwir yn aml yn ‘deml’, a chyn archaeoleg modern wrthgwrs, roedd rhywun yn tueddu i awgrymu unai’r Celtiaid neu’r Rhufeiniad gan mae dyma’r unig ‘hanes’ ysgrifenedig oedd ar gael. Ond yn ol at y Derwyddon ‘ma …..

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae derwyddon ‘The Ancient Order of Druids’ yn cynnal defodau yma ar hirddidd-Haf, ond gyda arweinydd newydd mae pethau yn mynd yn fwy trefnus o 1909 ymlaen. Dyma’r flwyddyn mae George MacGregor Reid yn cael ei urddo’n Arch-dderwydd. A dweud y gwir, o edrych ar hen luniau, petae Cor y Cewri ddim yn y cefndir, digon hawdd fydda cam ddehongli’r lluniau a meddwl fod y digwyddiad ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol a fod Cynan yna yn rhywle. Bydd unrhywun sydd yn dilyn hanes y Sex Pistols yn gyfarwydd ac enw eu cynllunydd cloriau / cyfarwyddwr celf, Jamie Reid - mae Jamie yn un o’r MacGregor Reids, George oedd ei hen ewythr.
 

            Parahau hyd heddiw mae defodau gan Dderwyddon ar hirddydd-Haf, er fod Drewyddon (fel cenedlaetholwyr) yn yn tueddu i ffraeo, gwahanu, sefydlu celloedd newydd ….. eitha Celtaidd / Cymreig mewn ffordd. Dros y blynyddoedd mae enw Arthur Pendragon yn un arall amlwg yn hanes yr ymgyrchoedd i gael mynediad a defnydd o Gor y Cewri.

            Mor ddiweddar a llynedd bu Pendragon yn galw am ail-gladdu yr esgyrn dynol sydd yn ganlyniad i’r gwaith cloddio yng Nghor y Cewri dros y blynyddoedd. Yma, byddai’r archaeolegydd yn anghytuno a Pendragon achos mae’r wybodaeth rydym yn ei gael o esgyrn / gwrthrychau mor bwysig (hynny yw drwy gloddio)  – dyma sut mae modd dysgu a deall mwy – a dyma lle mae rhywun yn awgrymu mae deall mwy a dysgu yw’r gwir gwerth yn yr holl beth.

            Pwy ydi Pendragon i hawlio cyfrifoldeb am unrhyw esgyrn ? A pwy ydi’r gwr yma i wisgo ‘mantell’ “Brenin Arthur” mewn cowlach hanesyddol a niwl ffug rhamantaidd ? Yn ystod dyddiau Punk un o slogannau Jamie Reid oedd ‘Never Trust a Hippie’ ac er fod Reid yn anelu hyn at Richard Branson (pennaeth Virgin) yn anffodus, neu’n ffodus, mae’n rhywbeth sydd wedi aros yng nghof fy nghenedlaeth i yn sicr. I ni, oedd yn ein harddegau ddiwedd y 70au, roedd slogan Reid yn broffwydiol iawn (am hipis) a heddiw mae can Catatonia yn dod i’m meddwl “You’ve got a lot to answer for” (sef cenhedlaeth yr hipis) er nad dyna oedd testyn geiriau Catatonia wrth reswm.

Efallai mae Glyn Daniel yr archaeolegydd a golygydd y cyhoeddiad ‘Antiquity’ oedd un o’r lleisiau mwyaf amlwg yn erbyn beth ddisgrifiodd ym 1978 fel “horrid bogus druids” a “hooligans” a oedd bellach yn mynychu ar gyfer dau reswm gwahanol, defod hirddydd-Haf a’r ‘Stonehenge Free Festival’. A bu gwrthdaro wrthgwrs dros y blynyddoedd rhwng y derwyddon (go iawn / ffug) a’r hipis, pawb yn hawlio eu lle a’u mynediad i’r meini.

Mae un arall o gyfoedion Daniel, yr Athro Richard Atkinson drwy gyd-ddigwyddiad, mae’n debyg, yn lygad dyst i ddefod gan The Ancient Order of Druids ym 1956. Y cyd-ddigwyddiad yw fod Atkinson yn cloddio yno ar y pryd. Enw Atkinson sydd yn cael ei gysylltu a’r gwaith cloddio a ffilmwyd ar gyfer y BBC yn Silbury Hill. A rhyfedd o fyd, Atkinson oedd fy Athro yn ystod fy nyddiau Coleg yng Nghaerdydd, er i mi ond ei weld ddwywaith erioed – yn edrych fel Robin Day o fath.

            Er fy mod yn llawdrwm iawn ar feddylfryd niwlog yr hipis a’r derwyddon (ffug) mae un neu ddau o bwyntiau yn llyfr Worthington sydd yn ennyn cyd-ymdeilmlad yr anarchydd ynddof, Un ydi hanes Wally Hope, un o gyfoedion y grwp CRASS a’r llall yw’r modd yr ymysododd yr heddlu (cyfnod Thatcher) ar y ‘Peace Convoy’ Mehefin 1985. Dyma ddau ddigwyddiad sydd yn taflu cysgod trwm iawn dros weithredoedd y Sefydliad Prydeinig.

            Dyma lyfr felly sydd yn herio, yn addysgu, yn mwydro, yn troedio sawl llinell rhwng hwn a llall ond sydd bob amser yn gafael – unwaith eto, mae rhywun yn derbyn nad peth cyfforddus yw Hanes i fod, ond yn hytrach rhywbeth sydd yn gorfodi rhywun i feddwl, i ail-feddwl, i gymeryd ochrau. Diddorol iawn rhaid cyfaddef i archaeolegydd sydd hefyd yn gerddor – ar pa ochr o’r wifren o amgylch Cor y Cewri fydda i yn sefyll felly ?

No comments:

Post a Comment