Wednesday 29 January 2014

LaLa Shockette Herald Gymraeg 29 Ionawr 2014


 

 

Yr wythnos hon bydd perfformiad yn digwydd yn Llundain, ddim yng Nghymru, a go brin bydd y perfformiad yn digwydd yng Nghymru onibai fod rhywun yn rhywle yn cael gweledigaeth. Ac eto mae’n berfformiad sydd yn ymwneud a Chymreictod mewn un ystyr, efallai gallwn awgrymu fod y perfformaid yn ymwneud a ‘dianc o bentref bychan’. Rydym ddigon cyfarwydd a’r stori hon, rhywun ac angerdd, rhywun ac ysbryd rhydd, rhywun sydd isho gweld y Byd a mae agweddau’r pentref bach neu Gefn Gwlad yn eu rhwystro, eu rhwystro rhag cael byw.

            Efallai mae stori am rwystredigaeth yr arddegau yw hon felly, a’r unigolyn, yr ysbryd rhydd, yn penderfynu ‘troi cefn’ ar gefn gwlad a mentro i’r ‘Ddinas fawr ddrwg’. Cyfarwydd ynde. Bellach wrthgwrs mae pobl ifanc Cymru ac yn sicr pobl ifanc Cymraeg eu hiaith yn dilyn y llwybr yma heb unrhyw awgrym o rwystredigaeth na gwrthryfela drwy symud i Gaerdydd. Mae hon wedyn, y stori ddiweddar, yn un dra wahannol.

            Nid ‘rebals’ sydd yn heidio o Wynedd, Llyn a Mon i Gaerdydd ond y dosbarth canol uchelgeisiol, ar eu ffordd i ‘Cyfryngisville’, fel awgrymodd Joe Strummer yn y gan ‘Career Oppportunities, “Do you wanna make tea at the BBC”. Yr ateb Joe yw, yn amlwg ydynt, ond fod gwenud te bellach yn gyfystyr a bod yn gynhyrchydd radio. A dyma fi yn swnio fel Adferwr. Cofiwch fe ddaw nifer yn ol mewn amser i fagu teulu, bydd tynfa y mynydd, y corsdir a’r llynnoedd yn ormod i rai yn sicr.

            O fewn cyd-destyn ehangach diwylliannol rydym yn troedio llwybr cyfarwydd iawn, fel llwybrau TH Parry-Williams o amgylch Llyn y Gadair, Rhyd Ddu. Rydym yn gyfarwydd a’r cynefin yma, rhiad dianc er mwyn byw, rhaid gadael y cyfarwydd a’r culni llesteiriol. Ond y cyfarwydd hefyd yw’r olygfa un-llygeidiog, cul iawn, sydd i’w gael o “ddiwylliant” yn y cyd-destyn Cymreig, (Cymraeg a Chymreig).

Dyma sydd yn poeni rhywun, rydym mewn pentref heb fawr o ffenestri, felly rhan yn unig o’r olygfa sydd i’w weld. Rydym yn edrych dros y mynyddoedd heb weld na throed na chopa, dim ond rhwng 500 troedfedd a 2,995 troedfedd sydd yn cael ei ganiatau ganddyn “Nhw”. Yn y cyd –destyn yma y “Nhw”, anweledig ond holl bresennol, yw’r consensws, yr hyn rydym yn ei dderbyn y ddi-gwestiwn yn y Gymru Gymraeg, er mae lle i ddadlau fod yna “Nhw” go iawn hefyd, fel y ‘Maffia’ ac i ddyfynnu can arall, gan Paul Weller y tro yma, “The people want what the people get”.

Yr hyn sydd yn poeni rhywun hefyd yw fod hyn yn ymddangos bron yn gynllwyn drwy gytundeb, rydym yn fodlon hefo’r ddiffyg ffenestri, ychydig iawn sydd, nid yn unig am wthio’r ffiniau, ond sydd yn gweld yr angen am wthio’r ffiniau yn y lle cyntaf. Ac eto, ac eto, o ran dadansoddi’r Gymru Gymraeg ol-Fethodistaidd, onid yw hyn yn ei hyn yn cynnig maes ymchwil hynod ddiddorol i rhywun. Rydym yn ol ar lwybr cyfarwydd corsiog ‘Hanes Cymdeithasol’ yn y cyd-destyn Cymreig.

Felly beth am gyrraedd y pwynt, sioe lwyfan y gantores, actores a’r ymryddawn Lowri Ann Richards. Gynt o Gricieth, er fod y broliant yn dweud iddi ddod a Llanfairpwll (fersiwn llawn), ond rhaid wrth ddrama wrth reswm, dyma’r sioe lwyfan ““Whatever Happened to LaLa Shockette?”

Rhaid fod Lowri Ann wedi diolch i’r hollalluog am gael yr enw Lowri Ann a oedd yn canitau iddi drawsnewid y ferch o Gricieth i’r ferch ‘Blitz Kids’ / ‘New Romantics’ gan fedyddio ei hyn yn “L.A Richards”, llawer mwy ‘rhamantaidd’. Y tro cyntaf i mi ddod ar draws L.A Richards oedd ar dudalennau cylchgrawn The Face ddechrau’r 80au yn goesau i gyd ac yn rhan o’r grwp ‘Shock’. Sgwennais amdani yn y Faner, yn union fel heddiw, yn falch o weld rhyw elfen arall o ddiwyliiant a rhyw gysylltiad Cymreig  – rhywbeth oedd yn ymestyn ffiniau.

Yn ystod cyfnod Y Faner roedd delweddau L.A Richards yn eitha ‘rhywiol’ o gymharu ac unrhywbeth oedd yn y Byd Pop Cymraeg ac efallai fod rhywun yn gweld angen am rhywbeth mwy deniadol, rhywiol, ffasiynol na’r arferol denim, denim, denim. Yr enwog Gruff Rhys o’r Super Furry Animals’s fathodd y genhedlaeth yna yn “Deinasoriaid Denim” – does neb wedi gallu rhagori ar y disgrifiad hynny, nid hyd yn oed David R Edwards hefo “wastad yn mynd i Lydaw byth yn mynd i Ffrainc”.

Ond pwynt hyn i gyd, wel mae Lowri Ann wedi mentro ar liwt ei hyn i ddweud stori, y stori, drwy gyfrwng sioe lwyfan. Cofnod o gyfnod sydd prin wedi cyffwrdd a’r Byd traddodiadol Cymraeg. Stori sydd ddim at ddant melys a cheidwadol y rheini sydd am wneud y te, ond os mae dyna’r ddadl dyddiau’r Faner, dyna’r ddadl hefyd heddiw – rhaid ymestyn ffiniau a sicrhau fod popeth (ar gael) yn Gymraeg  neu oleiaf yn cael ei drafod.

Y ddadl yw, fod hyn i gyd yn Hanes Cymdeithasol, mae’n bwysig fod yr hanes allan yna yn rhywle, a fel LaLa Shockette yn gadael y LlanfairPG dychmygol, rhaid i rhywun yn rhywle sicrhau nad yw culni ac un llygeidiaeth yn ein trechu rhag cael gwell golygfa o’r mynyddoedd – troed a chopa !
 
 

 

No comments:

Post a Comment