Saturday 10 August 2013

Geraint Jarman Gwyl Arall Herald Gymraeg 7 Awst.


 
Yn anorfod mae’r erthygl yma yn arwynebol, pwysleisiaf unwaith eto mae ‘hanes cymdeithasol’ yw hyn yn hytrach na adolygiad o noson ganu pop Cymraeg a nid am y tro olaf, heriaf y Byd Academaidd yng Nghymru i ddechrau trafod a dadansoddi o ddifri yr hyn sydd wedi digwydd ers ddiwedd y 60au ymlaen yn y maes diwylliant poblogaidd a chymdeithasol Cymraeg a Chymreig. Mae yna stori o bwys yma sydd yn haeddu triniaeth hir- dymor ac un academaidd – i roi yr holl beth yn ei gyd-destun cymdeithasol.

            Y man cychwyn felly yw gig Geraint Jarman yng Nghastell Caernarfon ar nos Sul 21ain Gorffennaf 2013, fel rhan o Gwyl Arall (gwyl gyda llaw oedd yn ardderchog er i mi ei beirniadu flynyddoedd yn ol am ei methiant i gyrraedd y ‘werin bobl’). Eleni rwyf yn cymeryd rhan yn Gwyl Arall, rwyf yn rhoi darlith ar ‘Beth yw Archaeoleg ?’ i hanner dwsin o bobl a dechrau digaloni fod gan neb ddiddordeb yn y maes cyn arwain taith gerdded o amgylch Segontium i 30 o bobl a chodi fy hwyliau unwaith eto.

            Er hyn, y Cymry dosbarth-canol diwylliedig, lled-lenyddol (a dwi mor euog a phawb arall) sydd yn mynychu, a rheini, er yn ychydig, os nad llawer, fwy niferys yw’r gynulleidfa i Jarman fel y diweddglo ar y nos Sul i Gwyl Arall yn y Castell. Fel dywedais, nid adolygiad mor golofn hon felly os am ddarllen mwy, mae adolygiad gennyf ar Blog link2wales.co.uk ond rhag eich cadw mewn tacsi i’r tywyllwch roedd hi’n noson wirioneddol wych. Ansoddiar gwael mewn ffordd yw ‘gwych’, yn cael ei or-ddefnyddio gan bobl fel fi sydd heb ddawn T.H Parry Williams i ganmol yn mwy medrus.

            Ond yr hyn oedd yn wirioneddol arwyddocaol, os nad eironig, am y cyngerdd (gig) yma oedd y lleoliad wrthgwrs, oherwydd ym 1983 fe gymerodd Jarman rhan mewn digwyddiad wedi ei hyrwyddo ar y pryd gan y Bwrdd Croeso (Cymru) fel rhan o “Wyl y Cestyll” neu “Blwyddyn y Cestyll”. Perfformiad o’r Mabigoni oedd gan Jarman, rhywbeth oedd wedi digwydd eisoes yng Nghastell Caerdydd ym 1981 yn ddi-ffwdan, ond erbyn i’r sioe gyrraedd Caernarfon ym ’83 roedd Jarman yn cael ei urddo yn y traddodiad gorau o genedlaetholdeb ffol a rhemp yn “fradwr”. Gair hawdd yw “bradwr” ynde a diolchwn ein bod yn llai parod i’w ddefnyddio y dyddiau yma, ond mae’n cyfleu ysbryd ac agweddau’r cyfnod i’r dim.

            Canlyniad hyn oll oedd i Jarman gael ei wahardd rhag perfformio mewn cyngherddau a drefnwyd  gan Gymdeithas yr Iaith ac yn ol y son ni chafodd gyfle i ganu yng Nghymru am dros ddeunaw mis.Yn wir yn Rhifyn 35 o’r cylchgrawn Sgrech (Pasg 1984) mae adolygiad o Jarman yn canu ym Mhlas Coch (Sir Fon) a Tan y Bont (Caernarfon) am y tro cyntaf ers y gwaharddiad. Ar dudalen flaen Sgrech Rhifyn 29 (Ebrill 1983) mae’r penawd “Geraint a’r Concwerwyr – Cestyll 83”, rhaid fod y deunau mis yn ddigon o gyfnod yn y carchar felly ………

            Eto, dyma lle mae’r cyd-destyn cymdeithasol yn bwysig ac yn ofnadwy o ddiddorol oherwydd dyma gyfnod mudiadau fel Adfer (a oedd i bob pwrpas tu cefn i gylchgrawn Sgrech a dyna chi ddadl / drafodaeth arall, os oedd Sgrech yn beiriant propaganda iddynt neu yn wirioneddol yn cael ei sgwennu gan bobl a oedd a diddordeb mewn canu pop ?) Dyma’r ddadl felly, mae pob un cwestiwn sydd yn cael ei godi yn agor y drws os nad drysau am drafodaeth ehangach ……..

            Os na pherfformiodd Jarman yng Nghymru am ddeunaw mis, mae hyn hefyd yn dangos dylanwad y Gymdeithas fel trefnwyr holl bwerus, neu fod diawl o neb arall yn mentro trefnu. Yn sicr cymerodd amser i unrhywun feiddio tori’r ‘gwaharddiad’.

            A beth am Jarman ei hyn ? Yn ei lyfr ‘Twrw Jarman’ sef cyfweliad estynedig gan Eurof Williams (Gomer 2008) mae’n weddol amlwg i Jarman gael ei frifo gan yr hyn ddigwyddodd, a diddorol iawn nodi mae canolfan Tan y Bont yn nhre’r Cofis oedd y lleoliad a’r trefnwyr cyntaf i roi croeso yn ol i Jarman – sgwni faint o’r gynulleidfa oedd yn “Cofis go iawn” – dyna chi gwestiwn arall diddorol sydd angen ei ddadansoddi.

            Dyma Jarman “…..a’r bobl ddaru dorri’r ban a chynnig gig i ni oedd Clwb Tan-y-Bont yng Nghaernarfon – clwb o bobl cyffredin Cymraeg oedd jest yn ein trin ni am beth oedden ni, nid ein defnyddio ni er mwyn codi arian a mantais propaganda” sydd yn awgrym fod  Jarman yn taro’n ol at griw “gwleidyddol” Cymdeithas yr Iaith. Eto diddorol.

            Byddaf yn sgwennu yn aml fy mod yn ceisio bod yn wrthrychol, yn amlach na pheidio yn methu, er efallai dyna’n gwaith fel colofnwyr, ond mae’n rhaid dweud fod y stori yma yn un mor ddiddorol – nid trafod canu pop yda  ni ond beth oedd cyd-destyn gwleidyddol a chymdeithasol y cyfnod.

            Yn sicr mae’n dangos grym a dylanwad Cymdeithas yr Iaith, yn sicr fel trefnwyr yn ystod yr 80au cynnar. Mae’n dangos methiant llwyr Jarman na unrhyw drefnwyr amgen i drefnu gigs er mwyn herio’r gwaharddiad. I bob pwrpas mae Jarman yn “pwdu” ac yn diflannu i’r ddinas. A beth am label recordio Jarman – lle roedd Sain yn hyn i gyd ?

            Fel dywedais ar ddechrau’r erthygl, arwynebol o reidrwydd yw’r golofn hon, cwta 900 o eiriau sydd gennyf a llai byth o gyflog gan y Daily Post i dreulio dyddiau yn gwenud gwaith ymchwil. Rhoddais Senedd Cymdeithas yr Iaith 1983 i mewn i Google a chael dim byd. Yn fy adolygiad i link2wales fe ddisgrifiais y gwaharddiad fel un gan bobl  “sanctimonius holier-Welsh-than-thou”. Dwi’n trio fy ngorau i fod yn wrthrychol ond yn methu yn amlach na pheidio ……

            Rhaglen deledu, rhaglen radio, papur neu gyflwyniad academaidd, trafodaeth yn Gwyl Arall 2014 ? Mi fydda’n ofnadwy o ddiddorol cael ymhelaethu !
Clip you tube o 'Gwesty Cymru' yn Gwyl Arall https://www.youtube.com/watch?v=gjCSuVbPpyg

No comments:

Post a Comment