Wednesday 28 August 2013

Eglwys Llangernyw Herald Gymraeg 21 Awst 2013.




Mae rhywun yn mawr obeithio mae un sgil effaith o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol mewn gwahanol leoliadau yn flynyddol yw fod hyn yn caniatau i bobl ddarganfod ardaloedd sydd efallai yn newydd iddynt. Yn sicr o ystyried Cymru gyfan, byddai’n waith oes i unrhywun ddod i adnabod pob ardal a bro yng Nghymru ond yr hyn sydd yn sicr yw fod pob ardal yng Nghymru yn gyfoethog iawn o ran hanes a diwylliant.

            Dyma chi bentref Llangernyw, ddim yn bell o’r Steddfod eleni, a’r dyddiau yma yn Sir Conwy er yn draddodiadol mae rhywun yn tueddu i son am yr  ardal yma i’r dwyrain o’r Conwy fel yr hen Sir Ddinbych. Ac er mae “Llangernyw” yw’r enw ar y pentref, mae’r egwlys leol wedi ei chyflwyno i Sant Digain neu Dygain, sant sydd yn cael ei gysylltu ac ardal Dumnonia yng nghanolbarth Lloegr yn ystod y 5ed ganrif.

            Yn ol yr hanes mae Llangernyw yn cael ei grybwyll ymhlith tiroedd oedd yn rhodd gan Maelgwn Gwynedd yn y 6ed ganrif. Efallai mae’r darn hynaf o’r eglwys yw’r porth ar yr ochr ddeheuol sydd yn dyddio o’r 15 ganrif ac fel arfer mae rhywun yn disgwyl i’r bedyddfaen fod yn hyn na’r eglwys gan fod y bedyddfaen yn fwy tebygol o gael ei hail ddefnyddio ac ei barchu yn ystod cyfnodau o ail adeiladu. Y stori leol yw fod hoel miniogi cyllill ar y bedyddfaen sydd yn mynd yn ol i gyfnod y ffair pan roedd y cigyddion lleol yn miniogi eu cyllill ar ochr y fedyddfaen.

            Ond yn llawer, llawer hyn na’r eglwys mae’r goeden ywen sydd gerllaw yn y fynwent. Yn ol y Cyngor Coed mae’r ywen dros 4,000 o flynyddoedd oed, y peth byw hynaf yng Nghymru yn sicr. Rwan, mae dros 4,000 oed yn dyddio’r goeden yn ol i’r Oes Efydd cynar, dyma gyfnod Cor y Cewri ac os felly rydym dros fil a hanner o flynyddoedd cyn unrhyw son am y Celtiaid, dyna chi rhywbeth i’w ystyried. Mae 4,000 o flynyddoedd yn ol yn gwneud y goeden ychydig ganrifoedd yn hyn na Mantell Aur yr Wyddgrug.


            Fel arfer rydym yn cysylltu’r goeden ywen a’r hen draddodiadau Paganaidd, a fod y Cristnogion wedyn, ar ol y cyfnod Rhufeinig, wedi perchnogi’r hen safleoedd Paganaidd yma ar gyfer eu heglwysi. Rydym hefyd yn cysylltu hen fynwentydd crwn a’r Eglwys Geltaidd, sef yr Eglwys cyn y Normaniaid ond yn yr achos yma, rydym yn mynd yn bell, bell yn ol. O bosib rydym rhy bell yn ol i awgrymu fod yma barhad o ddefnydd o’r lle yma fel man sanctatidd, wedi’r cwbl mae cryn gwahaniaeth rhwng arferion yr Oes Efydd a chyfnod y Celtiaid ond pwy a wyr ?

            Rydym ar lan yr Afon Cledwen, mae pwysigrwydd i ddwr ac afonydd drwy hanes, oes bosib fod hwn yn fan sanctaidd sydd wedi parhau dros 4,000 o flynyddoedd – dyna chi gwestiwn da ? Hefyd o fewn y fynwent, ar ochr ddeheuol i gorff yr eglwys, mae dwy garreg fedd hynafol iawn, yn dyddio o’r 9fed-10fed ganrif. Cerrig bedd Cristogol gynar yw’r disgrifiad arferol am gerrig o’r fath. Mae’r groes ar y garreg agosaf i’r eglwys yn ddigon hawdd i’w gweld a mae iddi derfyn ar draws y pedair fraich a dau smotyn naill ochr i’r fraich uchaf. Mae’r groes ‘agored’ yn llai amlwg ar yr ail garreg.

            Nodwedd arall hynod iawn am fynwent Llangernyw yw carreg fedd Robert Roberts ‘Y Sgolor Mawr’ (1835-1885). Mae lle i ddadlau mae ei lyfr ‘The Life and Opinions of Robert Roberts, A Wandering Scholar’ yw un o’r llyfrau Cymreig gorau erioed. O ran naws mae’n debyg iawn i’r disgrifiadau o gefn gwlad mae rhywun yn ei gael gan George Borrow yn ‘Wild Wales’ ond y gwahaniaeth rhwng Borrow a Roberts yw mae Roberts yw’r prif gymeriad – nid sylwebydd yn cerdded heibio mo Roberts ond dyn sydd yn byw y peth go iawn.

            Mae’r disgrifiad er engraifft o Roberts yn rhewi wrth geisio croesi Dyffryn Mymbyr un noson hwyr rhwng Capel Curig a Nant Peris yn codi arswyd a chydymdeimlad ar rhywun a mae’r diweddglo o gyrraedd y dafarn yn Nant Peris a chael ei ddadmar o flaen y tan yno yn un o’r storiau gorau erioed am fywyd yng nghefn gwlad Cymru yn ystod y pedwaredd ganrif ar bymtheg.

            Does dim modd canmol digon ar ‘A Wandering Scholar’. Mae’r llyfr gwreiddiol wedi ei olygu gan J.H Davies, Prifathro Coleg y Brifysgol Aberystwyth yn ystod y 1920 ond yn ddiweddar fe ail gyhoeddwyd y llyfr gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1991. Beth sydd yn wych am yr hunagofiant yma gan y Sgolor Mawr yw’r frawddeg ar flaen y llyfr gan J.H Davies lle mae’n dweud fod y stori “as told by himself” gan yr hen Robert Roberts druan.
 

No comments:

Post a Comment