Wednesday 31 July 2013

Monet yn Llangefni Herald Gymraeg 31 Gorffennaf 2013


.

“Monet yn Llangefni” dyna’r penawd, dyna’r floedd sydd yn mynd allan, anodd credu ond ydi mae’n wir ! Wrth sefyll o flaen ‘Palazzo Dario’ (1908) gan Claude Monet yn Oriel Ynys Mon nos Wener dwetha yng nghwmni’r artist Cymreig, Iwan Gwyn Parry trodd y sgwrs at y syniad yma, “pwy sa di meddwl”,  ein bod yn Llangefni ar nos Wener yn edmygu llun gan Monet !

            Gwych o beth, ond nid Monet oedd yr unig artist ar y wal, mae yma  J.M.W Turner (mae o yn cael llawer o sylw gennyf yn ddiweddar), Frank Brangwyn, Walter Sickert, Canaletto ac wrthgwrs un o fawrion y Byd Celf, Kyffin. Does dim angen cyfenw ar Kyffin, a petae ni yn cyfeirio ato fel ‘Williams’ yn yr un modd a rydym yn cyfeirio at J.M.W fel ‘Turner’ go brin bydda gan unrhywun syniad am pwy da ni’n son.
 

            Felly Kyffin yw Kyffin, yr artist sydd ddim angen cyfenw ac artist sydd ac oriel wedi ei enwi ar ei ol. Rwyf yn meddwl llawer am hyn, achos rwyf yn bryderus am y neges sydd yn cael ei roi i artistiaid ifanc Cymreig, “fedrwch chi byth wella ar Kyffin, fedrwch chi byth fod mor enwog neu llwyddianus a fo !”. Neu wrthgwrs fod yma gyfle i artist ifanc Cymreig wirioneddol herio’r drefn a mynd mor groes a sydd yn bosib mynd i gyfeiriad Kyffin; Bedwyr Williams efallai ?

Rwyf yn cael fy atgoffa o gerddorion Lerpwl yng nghyfnod Teardrop Explodes, Mighty Wah a Echo and the Bunnymen, a’r rheolwr Bill Drummond ddiwedd y 70au yn esbonio pam mor anodd (amhosibl) oedd hi ar y grwpiau yma yn dod o Lerpwl gan mae o Lerpwl daeth y Beatles. Pa obaith iddynt felly ?  Fe gafwyd sefyllfa ddigon tebyg yng Nghymru yn sgil Edward H, beth oedd pwynt i artistiaid ifanc, newydd, fentro cyfansoddi ar ol i Edward H gyfansoddi ‘Ysbryd y Nos’ ?

Nid dyma’r tro cyntaf i Oriel Ynys Mon gyflwyno arddangosfa o’r safon uchaf, yn y Saesneg mi fydda rhywun yn cyfeirio at sioe o’r fath fel “Blockbuster”, a does dim ond canmoliaeth gennyf i Pat West yn yr Oriel am godi safon arddangosfeydd yng Ngogledd Orllewin Cymru i safon sydd wirioneddol yn cymharu’n ffafriol yn Rhyngwladol. Fe gofiwch llynedd yr arddangosfa gwell na gwych a rhagorach na rhagorol, o wrthrychau ‘Llyn Cerrig Bach’ a dyma ni eto – y safon uchaf.

Curadur arddangosfa ‘Kyffin Williams a Fenis, Golau ar y Gamlas, Venezia’ yw David Meredith y dyn cysylltiadau cyhoeddus, cyn bennaeth y Wasg i HTV, sylfaenydd cwmni STRATA, cyn bennaeth y wasg yn S4C, aelod o’r Orsedd ac awdur sawl llyfr am Kyffin gan gynnwys ‘Bro a Bywyd – Kyffin Williams’ (2008). I’r rhai sydd ac unrhyw ddiddordeb yn y Byd Pop Cymraeg o gwbl mae Meredith hefyd yn dad i M.C Mabon, nid ein bod am eiliad yn diffinio neb ar sail beth mae eu plant wedi’w gyflawni.
 

Am joban braf oedd cael rhoi arddangosfa fel hyn at ei gilydd meddyliais, ac ar y noson agoriadol rydym yn cael cwmni Dr Derec Llwyd Morgan fel cadeirydd y noson ac araith gan Jan Morris. Eto rydym ymhlith y mawrion yma. Does dim dwy waith fod Derec yn feistar ar gyflwyno a siarad yn cyhoeddus, mae’n eglur ac yn dechrau ar amser ac ef sydd yn cyflwyno Jan i’r podiwm bach. Cefais y fraint o gael fy nghyfweld sawl gwaith gan Derec yn ol yn fy nyddiau fel punk yn herio’r drefn ar rhaglen ’Arolwg’.

 

Os oes gennyf fymryn o feirniadaeth o’r cyflwyniadau, mae’r ddau yn cyfeirio at ddarn o bapur, ydi mae Jan yn darllen fel petae yn siarad neu sgwrsio a ni, ond dwi’n methu canolbwyntio a teimlaf fy mod angen llonydd a chpoi o un o lyfrau Jan os am wrando arni yn darllen a nid bod mewn oriel gyheoddus. Mae fy meddwl yn troi at Everest a phethau felly a rwyf yn edmygu mwclis anferth Jan, ond dwi ddim yn canolbwyntio ………

Efallai fod angen llai o ffurfioldeb a dweud rhywbeth sydd yn mynd i wneud i ni feddwl, ei’n herio allan o’n esmwythtod ar nos Wener hynod braf yn Oriel Ynys Mon. Taflwch y script allan drwy’r ffenestr a siaradwch o’r gallon …… neu rhywbeth. Wedi dweud hynny, gweitherd mwyaf heriol a radical y noson oedd fod y diodydd i gyd yn ddiodydd meddal, dim alcohol, roeddwn yn hoff iawn o’r manylder trefnu hynny !
 

Rwyf yn tynnu lluniau ambell un yn yr Oriel ar ol i Jan orffen, y dyddiau yma rhaid rhoi lluniau ar Wep-lyfr a trydar neu dydi’r peth ddim wedi digwydd. Rwyf hefyd yn sgwennu Blog yn Saesneg ar gyfer link2wales yn adolygu’r noson agoriadol. Rwyf yn bachu cyfle i gael llun o David Meredith a mae o yn gwneud yr union beth rwyf i bob amser yn ei wneud, cytuno ond mae am weld copi o’r llun cyn i mi ei gyhoeddi !

Dyma chi ddyn sy’n dallt cysylltiadau cyheoddus felly, mae angen edrych yn dda, dwi’n son ddigon aml am steil gwallt a fod rhaid i gantorion edrych yn dda ar lwyfan a dyma gyfarfod ‘brawd’ sydd yn siarad yr un Iaith. O fewn eiliadau rydym yn ddwfn mewn sgwrs ac yn hollol gytun fod rhaid ymweld a’r arddangosfa yma sawl gwaith er mwyn ei wir werthfawrogi.

Rhaid treulio amser gyda pob llun, rhaid cael llonydd a rhaid canolbwyntio – efallai fod angen panwn cyfan a chymeryd seibiant nawr ac yn y man i gael panad yn y caffi cyn dychwelyd at y Brangwyn.

Dyma gyfle felly i weld Monet yn Llangefni. Mae’n amhosib cael eich siomi. Mae hon yn arddangosfa fydda’n gweddu i unrhyw oriel yn ninasoedd mawr y Byd – a mae o yma yn Llangefni – Bloeddiwch, Monet yn Llangefni ! Monet yn Llangefni. Monet yn Llangefni !
 
Ol Nodyn, Rhywbeth oedd ddim yn yr Herald ond a ddigwyddodd ar y noson
sefyllfa tebyg i Gilbert & George :
 
 

No comments:

Post a Comment