Wednesday 3 July 2013

'Salem Gartref' Herald Gymraeg 3 Gorffennaf


 

‘Salem’ Gartref, ac yn wir erbyn i chi ddarllen y golofn hon bydd llun eiconaidd Sidney Curnow Vosper (1866-1942) wedi dychwelyd “adref” i Amgueddfa Gwynedd ym Mangor lle bydd y llun yn cael ei arddangos hyd at y 12fed o Hydref. Felly digonedd o amser, cyfle i bawb gael mynd draw i weld y llun o Sian Owen. Ty’n-y-fawnog a’r olygfa fewnol o gapel Bedyddwyr, Cefncymerau ger Llanbedr, Ardudwy.

            Yn sicr dyma un o’r lluniau mawyaf “eiconaidd” Cymreig, neu yn sicr y llun sydd wedi ei fabwysiadu gennym ni Gymry Cymraeg ynde, yn fwy na unrhywbeth gan Gwen neu Augustus ac yn fwy na unrhywbeth gan yr artist sydd wedi ei ‘anghofio’ Christopher Williams. Pam felly, a’i’r cysylltiad crefyddol, y darlun yna o Gymreigtod pur cyn oes ddieflig y teledu lliw a’r We a chanu pop Eingl-Americanaidd ?

            Cartref parhaol ‘Salem’ wrthgwrs yw’r Lady Lever yn Port Sunlight, ac er mor amlwg yw’r lluniau cyn-Raffaelaidd yno, Salem mae’n debyg sydd yn hawlio (holl) sylw ni Gymry Cymraeg, bron ar draul rhyfeddodau Millais, Madox Brown a Holman Hunt. Fel soniais yn gynharach eleni yn yr Herald, llun Millais ‘Spring (Apple Blossoms) 1859 yw’r un sydd wedi fy nghyfareddu fwyaf eleni.

            Ond rwan, dwi ddim yn mynd i drafod ‘Salem’ ddim pellach yn y golofn hon achos ar yr 8fed o Orffennaf  yn Amgueddfa Gwynedd bydd yr artist o Fon, Iwan Gwyn Parry yn gwneud hynny, ac yn gwneud hynny yn llawer gwell na mi. Rwyf wedi adnabod Iwan ers blynyddoedd, ef sydd yn gyfrifol am fy addysgu am anturiaethau Augustus John a Innes yn “gorfod” peintio’r Arenig. Fe gyfrannod Iwan i’r ffilm hynod yna a ddangoswyd ar BBC 4, (welais i ddim byd tebyg ar S4C – sydd yn ddadl arall dros ehangu’r gorwelion ar sianel ddigidol dan ofal S4C – sef creu cynnwys Cymraeg yn lle poeni am syniad hen ffasiwn o “sianel” draddodiadol).

            Rhywbeth arall sydd yn nodweddiadol am Iwan yw ei fod yn “edrych fel artist”, mae hyn yn bwysig. Rwan, bu rhaglen ddogfen ddiweddar am y pensaer Norman Foster a cofiaf Foster yn son am ei gyfnod mewn prifysgol yn America lle gafodd ei addysgu sut i “wisgo fel pensaer” gan ei athro. Nid yn unig fod Foster yn gallu creu adeiladau eiconaidd fel y to gwydr yn y Gerddi Botaneg ger Caerfyrddin ond mae’n gwybod sut i wisgo fel pensaer. Pwysleisiaf eto, holl bwysig, a mae Iwan yn y traddodiad yna.

Un o fy nyfyniadau yn ystod fy nghyfnod yn y Byd Pop Cymraeg oedd fod rhai wrth steil gwallt da – rhywbeth dydi’r rhan fwyaf o grwpiau pop Cymraeg rioed di ddallt. Os ydych yn edrych yn “arferol” fe gewch eich hystyried yn “arferol” !

Mae rhai o’r dyfyniadau gorau am y Byd Celf yn dod gan yr artist Francis Bacon, un o’r rhai gorau yw “yn y tywyllwch bydd y lliwiau yn gytun”, un arall da iawn yw  credaf mewn anhrefn gyda strwythyr”  ac yr un sydd o hyd wedi ei gynabod fel un o ddyfyniadau Bacon “mae’n rhaid chwalu er mwyn creu”.

Bellach dwi ddim mor siwr os mai Bacon ddywedodd hynny go iawn am chwalu er mwyn creu, yn sicr fe ddefnyddiwyd y dyfyniad yn aml gan yr arch-reolwr a’r tynnwr coes Malcolm McClaren a dwi’n siwr iddo ef gydnabod Bacon. Am flynyddoedd roedd hon yn fantra defnyddiol iawn – rhaid oedd chwalu (neu herio’r) Byd Cymraeg er mwyn creu y gofod i bobl gael mynegiant ac i gael creu.

Bellach gyda’r Byd Cymraeg o dan reolaeth y gwybodusion, y comisiynwyr, y darlledwyr, y trefnwyr, y trydarati Cymraeg a’r amryw sefydliadau mae rhywun yn teimlo fod angen creu er mwyn chwalu – chwalu eu rheolaeth ar bethau - dydi’r fath reolaeth ddim yn beth iach, mae’n arwain at grebachu’r hyn sydd yn bosib drwy gyfrwng y Gymraeg yn hytrach na gweld y cynydd fydda rhywun yn ei ddisgwyl yn yr oes ddigidol.

Os yw fy sylwadau yn corddi / gwylltio rhai awgrymaf yn garedig fod angen i ni edrych ar batrymau amlwg yn yr Ysgolion Cymraeg lle mae’r Gymraeg yn cael ei ddysgu yn llwyddiannus ond yn ymddangos yn llai perthnasol nac erioed ar y buarth neu mewn bywyd go iawn dydd i ddydd. Cytunais a Meri Huws yn ddiweddar yn datgan pwysigrwydd cyflogaeth, gwaith a’r economi yn hyn o beth a does dim cwestiwn bellach wrth i’r Byd Pop Cymraeg fod yn llai gwleidyddol nac erioed yn ei hanes fod gwerth canu pop Cymraeg wedi diriwio fel cyfrwng i ysbrydoli pobl ifanc i weld y Gymraeg fel rhywbeth “cwl”.

Francis Bacon arall, yr awdur o’r 16ganrif, oedd yn gyfrifol am y dyfyniadau yma “ni fyddaf byth yn hen, i mi hen yw 15 mlynedd hyn na fi” a beth am hon “mae arian fel gwrtaith, yn ddi-werth onibai ei fod yn cael ei ddosbarthu”, a Bacon wrthgwrs ddywedodd mae “gwybodaeth yw pwer”.

I ddychwelyd yn ol i Amgueddfa ar 8fed Gorffennaf, bydd trafodath yn cael ei chynnal dan gadairyddiaeth Dr Angharad Price, Uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, awdur dwy nofel, 'O, Tyn y Gorchudd' a 'Caersaint' a sydd ar fin cyhoeddi llyfr am hanes T.H. Parry-Williams yn yr Almaen a Pharis cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ymuno a Angharad ac Iwan Gwyn Parry  bydd Malan Wilkinson a Menna Machreth lle bydd y siaradwyr yn cyflwyno sgwrs 20 munud ar bwnc o’i dewis

 

Bydd Malan Wilkinson yn trafod  Cyfryngau rhyngweithio - melltith neu fendith?’ a Menna yn trafod ayr angen am  ddechrau 'Unthink Tank', fel sy'n digwydd mewn gwahanol lefydd ar draws y byd’. Bwriad y noson yw defnyddio’r achlysur, y llun eiconaidd yn dychwelyd i Gymru, fel cyfle i gael trafodaeth agored ac amrywiol, rhywbeth tebyg i beth sydd wedi cael ei wneud gan Ted sydd yn son am “syniadau sydd werth eu rhannu”.

Y ddadl efallai yw fod angen mwy o hyn yn y Gymraeg, ond wedyn bydd sgwrs Menna Machreth yn cyfeirio at yr union angen yma drwy drafod ‘Unthink Tank’. I ddyfynu Menna roedd hi am gyflwyno’r syniad “peidio a bod yn ddinasyddion sy'n derbyn, ond dinasyddion sy'n mynnu creu y cymunedau maen nhw eisiau byw ynddyn nhw”.

Edrychaf ymalen, bydd Iwan siwr o herio dipyn ar Vosper, mae Malan a Menna yn amlwg dyddiau yma fel Cymry Cymraeg sydd yn mynegi barn, fy ngobaith i yw bydd rhywun yn rhywle yn cofnodi’r sgyrsiau ar You Tube achos fydd y Chwyldro ddim ar y Teledu Gyfaill !

 

Bydd y noson yn cychwyn am 7-30pm yn Amgueddfa Gwynedd ar Nos Lun yr 8fed Gorffennaf. Does dim tal mynediad i’r noson.Am fanylion pellach gweler @ydauddeg ar Trydar.

No comments:

Post a Comment