Wednesday 19 June 2013

'Sefyllfa Byd Natur ' Herald Gymraeg 19 Mehefin 2013



"Efallai bod yna duedd ynon ni fel Cymry i roi gormod o sylw i iaith a diwylliant, a threftadaeth a hanes... Ma hynny'n ofnadwy o bwysig, ond…. rydyn ni angen rhoi sylw i fyd natur, i'r adnoddau aruthrol yma sy' ganddon ni yma yng Nghymru"   Bethan Wyn Jones (Golwg 06.06.13)

 

Weithiau mae rhywun yn dod ar draws rhywbeth, boed yn ddigwyddiad neu yn berfformiad, neu yn gan, neu yn ddarn o gelf, neu yn ffilm neu yn araith sydd mor, mor, bwerus, bron a dweud fod y profiad yn ddigon i newid bywyd rhywun am byth. Nid gor-ddweud ydwyf yma, a hyd yn oed petawn yn gor-ddweud dwi ddim yn credu fod fawr o’r ots, achos roedd gwylio araith Iolo Williams ar “Sefyllfa Byd Natur” sydd i’w weld ar youTube yn yn o’r adegau hynny.

            Roedd y dagrau yn llifo, anodd oedd cael fy ngwynt, roedd hyn yn cyfateb i’r araith  “I have a dream……” o ran y Byd Natur, roedd hyn cystal a chlywed “God Save The Queen” gan y Sex Pistols am y tro cyntaf, roedd hyn dim llai na gwneud rhywun sylweddoli fod llinell newydd gael ei rhoi yn y tywod. Fydd pethau byth ru’n fath eto …….

            Wrth i mi sgwennu mae bron i 10,000 wedi gwylio’r clip ar youTube, mwy na sydd yn gwylio na gwarndo ar ambell raglen Gymraeg dybiwn i. Fel byddaf yn ddatgan yn aml, dyma’r cyfryngau newydd, allan o reolaeth unrhyw fwrdd na chomisiynydd – dyma’r radio rhydd fel petae (a gyda llaw os di rhywun eisiau gwybod pwy di’r grwp pop Cymraeg mwyaf blin ac anarchaidd allan yna y dyddiau yma, ewch i edrych am Radio Rhydd o Fethesda – mae nhw’n dweud hi gystal a Iolo am bethau ond gyda mwy o regfeydd ac hefo gitars uchel).

            Ar safle’r RSPB cefais y wybodaeth angenrheidiol am ddarlith Iolo, doedd dim gwybodaeth pellach i’w gael ar you Tube dim ond fod rhywun yn gweld logo ‘Sefyllfa Byd Natur’ yn y cefndir. Am y tro cyntaf mae cyrff  bywyd gwyllt wedi dod at ei gilydd i lunio adroddiad, yn eu plith y WWT, Buglife, Bumblebee Conservation Trust, Marine Conservation Society a llawer mwy. Wyddwn i ddim am hanner y cyrff, ond wedyn fy anwybodaeth i yw hynny.

            A beth sydd yn cael ei ddweud ganddynt ? Gadewch i mi ddyfynu ambell ddarn o’r adroddiad :

Mae Tirogaethau Dramor y DU yn cynnal cyfoeth o fywyd gwyllt o bwysigrwydd rhyngwaldol enfawr ac mae dros 90 o’r rhywogaethau hyn mewn perygl mawr o ddiflannu o’r tir yn fyd eang”

“Mae bygythiadau di-rif i fywyd gwyllt y DU, ac mae’r bygythiadau mwyaf eithafol yn gweithredu i un ai ddinistrio cynefin gwerthfawr neu israddio ansawdd a gwerth yr hyn sydd ar ol”

“Dylem weithredu i achub byd natur oherwydd ei werth cynhenid ac oherwydd buddion a gawn ganddo sy’n hanfodol i’n lles a’n ffyniant”

Son am ei filltir sgwar mae Iolo yn ei araith, milltir sgwar Cymru sef y wlad hon, ond mae hefyd yn son am filltir sgwar arall, sef ardal Llanwddyn yn Sir Drefaldwyn lle e’i magwyd. Does dim son am ddarn o bapur, mae Iolo yn siarad o’r galon am dros chwarter awr a phrin fod rhywun yn sylweddoli ei fod yn gorfod meddwl am beth sydd yn dod nesa.

Prin ei fod yn baglu ar ei eiriau, mae hon yn araith fydda’in gwneud i rai o aelodau’r Cynulliad / Llywodraeth swnio fel newydd ddyfodiad diniwed. Yn rhyfedd iawn mae Iolo yn sylwi ar rai o Aelodau’r Cynulliad yn yr ystafell a mae’n gwenud yn siwr eu bod yn sylweddoli fod hyn yn cyfeirio atynt. ’Di “pwerus” ddim yn gwneud cyfiawnder a safon yr araith hon, yn sicr mae’n araith sydd yn gorwedd yn gyfforddus ar yr un llwyfan a MLK neu Mandela, gwleidyddiaeth o fath gwahanol efallai, ond mae’r gwladweinydd yna yn sicr !

            I droi yn ol at ddyfyniadau fy nghyd-golofnydd Bethan Wyn Jones a gyhoeddwyd yn Golwg 06.06.13 yr hyn sydd yn mynd trwy feddwl rhywun yw beth fyddai’r grym petae’r Byd hanes a threftadaeth a’r Byd ymgyrchu Iaith yn uno hefo’r Byd Natur ac yn dechrau gweiddi. Yn amlwg, a dwi’n sicr fod Betha a phawb arall yn gwybod nad cystadleuaeth rhwng y meusydd yw hyn, er gwaetha ein traddodiad Eisteddfodol.

            Byddaf yn son yn aml fod rhaid wrth gyd-destyn. Does dim modd ymdrin a dehongli Hanes Cymru heb werthfawrogiad a dealltwriaeth o berthynas y Gymraeg  a hyn oll. Efallai gallwn fynd mor bell ac awgrymu mae hanner darlun mae rhywun yn ei gael heb ddeall neu siarad yr Iaith Gymraeg.

            Felly hefyd gyda Byd Natur, mae’r peth yn hollol ganolig ac allweddol os am ddehongli Cymru a Chymreictod, mae anwybyddu natur yr un mor amhosib a pheidio ymdrin a thirwedd Cymru. Yn syml mae’n amhosib trafod Cymru heb werthfawrogi’r holl elfenau.

            Engraifft da i chi, bythefnos yn ol bu’m draw i Enlli - ddwywaith, y tro cyntaf gyda dosbarth hyfryd, deallus a gwybodus y Lasynys Fawr ac ar ol trafod safle claddu Oes Efydd ar ben Mynydd Enlli dyma dreulio amser yn gwylio’r frangoesgoch yn glanio ar y llethr o’n blaen. Dyma’r tro cyntaf i mi gael astudio’r frangoesgoch a roedd y wefr yn amlwg.

Yr eilwaith roeddwn yn ol i astudio safleoedd cist-feddau o’r Canol Oesoedd yng ngwmni Colin sydd yn hwylio pobl drosodd i’r ynys, ond eto ar y ffordd adre dyma wylio’r palod a’r hebog dramor. Doedd dim modd dweud fod y cist-feddau yn “well” na’r hebog dramor ond yn amlwg fod y cist-feddau o fewn fy maes i a fy mod yn gallu eu trafod a’u dehongli gyda mwy o awdurdod.

Cymerwch chwarter awr i wylio Iolo Williams ar you Tube, dyma un o’r areithiau gorau’r 21ain ganrif, dyma godi cywilydd arnom i gyd am ein difaterwch, croeso i’r Gymru newydd.


2 comments:

  1. Roedd ymgyrch y Maes Gwyrdd yn yr Eisteddfod yn Llandw llynnedd yn ymdrech i ddod a'r neges yma drwodd yn gryf; llwyddasom am un flwyddyn yn unig... efallai cawn atgyfodi'r ymgyrch eto mewn Eisteddfod yn y dyfodol. Mae Bethan Wyn Jones yn llygad ei lle - mae'r Cymry efallai wedi cymryd byd natur yn naturiol, fel petai am rhy hir; mae'r difrod wedi dod yn sydyn ac fel syndod...

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mae tudalen y Maes Gwyrdd, Maes Gwyrdd 2012, dal yn fyw ar Facebook ac yn hawdd ei ddarganfod gyda'r "search".

      Delete