Friday 7 June 2013

'Rhagfarnau' Dr Robyn Lewis Herald Gymraeg 5 Mehefin 2013


 

Un o fy arwyr, os oes ffasiwn beth, yw’r bardd a’r llyfrwerthwr Gwilym Colwyd o Lanrwst, gwr a sefydlodd gwrth-Eisteddfod ar lan Llyn Geirionydd, sef Arwest Glan Geirionydd, yn ystod y 19fed ganrif a’r unig ddyn hyd y gwyddwn a feiddiodd herio’r datganiad “A Oes Heddwch ?” yn ystod Eisteddfod. Gwrthwynebiad Cowlyd mae’n debyg, oedd ei gred fod yr Eisteddfod i’w chynnal yn yr awyr agored, ond dychmygwch darfu ar y seremoni yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw ? I fenthyg ymadroddiad Hollywood-aidd, “wnewch chi ddim gweithio yn y dref hon  byth eto” neu’r  “wlad hon” hyd yn oed yn achos y “Byd Cymraeg”.

            Gyda mawr ddiddordeb darllenais bennod ‘Y llob-Scouse’ yng nghyfrol ddiweddaraf Dr Robyn Lewis Rhagfarnau.  Mae fy mherthynas i a Lerpwl yn mynd yn ol i’r cyfnod ol-pync ddiwedd y 70au yn sicr o ran dylwanwad diwylliannol. Dyma gyfnod clwb nos ‘Eric’s’ un o’r prif ganolfannau ar gyfer cerddoriaeth byw, Labeli Recordio fel ‘Zoo’ a sefydlwyd gan yr ymryddawn Bill Drummond a grwpiau fel Echo and the Bunnymen, Teardrop Explodes a’r Mighty Wah.

            Ond nawr te, beth sydd gan hyn i’w wneud a Chymru a diwylliant Cymraeg medda chi ? Fe allwn ddadlau fod grwpiau fel Y Cyrff, o Lanrwst (fel Cowlyd), wedi eu dylanwadu gan ffasiwn a cherddoraieth Lerpwl yn y cyfnod uchod. Rwyf yn ceisio dadansoddi’r dylanwadau ar ddiwylliant pop Cymreig a Chymraeg yn aml dyddiau yma ar gyfer erthyglau a darlithoedd a rwyf yn weddol sicr fod llygaid a chlustiau y Cyrff wedi eu hanelu yn fwy at y dwyrain nac at y gorllewin, roedd Lerpwl a Manceinion yn bwysicach i hogia Llanrwst na Bangor neu Aberystwyth.
 

            Yn ystod y 90au bu’m yn recordio, cyfansoddi ac yn creu yng nghwmni’r actores Margi Clarke a’i chyn-bartnar, Jamie Reid (cynllunydd y Sex Pistols) a byddwn yn ymweld a nhw yn rheolaidd yn eu cartref ar Smithdown Road yn ardal Wavertree o’r Ddinas. Yn ystod sgyrsiau hir dros baneidiau di-ri yng nghaffis bach hynod y ddinas byddai’r sgwrs yn aml yn troi at awyrgylch a chymunedau Celtaidd Lerpwl, y cysylltiadau hanesyddol a Chymru a fel byddai Margi wrth eu bodd yn clochar “mee Nan was a Davies…… from Snowdonia”.

            Mae’n debyg ym mwrlwm y sgyrsiau hynny byddwn wedi cefnogi’r syniad o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Lerpwl a byddai Jamie wedi cynllunio postar ar gyfer yr Wyl a byddai Margi wedi mynnu cael cymeryd rhan fel Brenhines Dawns y Blodau. Ond beth oedd y tri ohonnom yn wybod go iawn am gyfansoddiad y Genedlaethol, dim yw dim. Mwydro dros banad a dim mwy oedd hyn ac erbyn i’r mater godi o ddifri ar gyfer Eisteddfod 2007 roedd ein perthynas greadigol wedi ymbellhau a roeddwn innau bellach wedi hen golli’r awydd i ddamcaniaethu a breuddwydio yng nghwmni Sgowsars.

            Ond i droi yn ol at Rhagfarnau mae Robyn Lewis yn ein hatgoffa fod y Genedlaethol wedi ei chynnal tu allan i Gymru ar sawl achlysur  Caer ym 1866; Llundain ym1887 a 1909; Penbedw ym 1879 a 1917 a Lerpwl ym 1884, 1900 a 1929”.  Ac yn y bennod yma ‘Y llob-Scous’e mae Robyn yn ein hatgoffa “Nodwedd ddrwg enwocaf a thristaf yr holl eisteddfodau tu-hwnt-i’r-ffin hyn, wrth gwrs, ydoedd Cader Ddu Hedd Wyn ym 1917 – a ddaeth yn rhan o hanes a chwedlonaieth ein Cenedl”.

            Rhag i unrhywun gamddeall o gwbl, nid wyf am un eiliad yn rhoi’r Dr Robyn Lewis a Gwilym Cowlyd yn yr un “maes Eisteddfodol” ond mae’r hyn sydd yn digwydd nesa yn gorfod bod yn un o’r digwyddiadau mwyaf diddorol yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ddegawd dwethaf. Wrth i Dafydd Wigley, Llywydd yr Wyl, Eisteddfod Eryri, 2005 anerch y dorf a rhoi ei gefnogaeth i achos Lerpwl mae Robyn a Roderick Owen, sydd gyda llaw wedi lleoli eu hunnain yn y rhes flaen yn y pafiliwn, yn codi i’w traed “ac yn cerdded yn bwyllog ac yn hamddenol i fyny’r alai, ac allan trwy ddrws cefn y pafilwn”.

            Mae’n debyg i’r “digwyddiad” neu’r “brotest” yma gael dipyn mwy o gefnogaeth gan y gynulleidfa a sylw gan y cyfryngau na chafodd anerchiad y Llywydd. Ond i droi yn ol at  ddiwylliant cyfoes a diwylliant poblogaidd yr oes hon (2013), dyma roi “Dr Robyn Lewis Eisteddfod Eryri 2005” i mewn i YouTube ac wrthgwrs doedd dim byd yn ymddangos. Rydym fel Cymry Cymraeg unwaith eto yn gwrthod ymateb i ddatblygiadau technolegol,yn union fel mae’r Cyfryngau Cymraeg yn dal i son am Sianel ac Gorsaf yn lle creu deunydd aml-lwyfan, dyma weithred symbolaidd Dr Robyn Lewis felly mewn archif yn rhywle mae’n siwr ond ddim ar gael lle mae pobl ifanc Cymraeg yn debygol o edrych.

            Arf, cyfarpar, ffynhonnell, beth bynnag ydi’r gair – rwyf yn defnyddio YouTube mewn dosbarthiadau ysgol wrth drafod diwylliant pop a chyfoes Cymraeg – rhaid cael y deunydd archifol ar YouTube – mae’n hawdd, hawdd i’w weld a hanfodol. Dwi’n dal i gredu yn y llyfr a’r cylchgrawn ond mae’n achosi pryder mawr ein bod mor ara deg yn ymateb i dechnoleg.

            Dim ond un engraifft yw’r bennod ‘Y llob-Scouse” o’r drafodaeth gyfoeth sydd rhwng cloriau Rhagfarnau, erthyglau  sydd yn sicr yn gwneud rhywun feddwl, safbwyntiau sydd wedi gwenud i mi chwerthin yn uchel a fel colofnydd rhaid cydnabod fod Robyn Lewis yn gwneud yr holl bwysig – yn ysgogi trafodaeth ac yn mynu ymateb. Daeth gwen arall i’m wyneb wrth ddarllen tudalen 112 a gweld fod colofnwyr yr Herald Gymraeg yn cael cydnabyddiaeth yng ngeiriau’r awdur “y gohebwyr cyfoes yn ceisio ymdrin a’r un problemau, ar eu newydd wedd, mewn modd cyfoes”.

No comments:

Post a Comment